Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Weithredwr

💰 £54k - £64k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Plaid Cymru yn edrych am Brif Weithredwr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych yn dymuno chwarae rhan allweddol yn arweinyddiaeth Plaid Cymru a helpu i symud ein gwlad tuag at Annibyniaeth? Allwch chi arwain ac ysbrydoli tîm bach ond ymroddedig o staff a gweithio gyda miloedd o aelodau’r Blaid?

Yna mae'r swydd hon ar eich cyfer chi.

Disgrifiad:

Mae rôl Prif Weithredwr Plaid Cymru yn cyfuno elfennau o lywodraethiant, arweinyddiaeth, rheolaeth, cydymffurfiaeth, cyfathrebu a datblygu strategol. Mae'r Prif Weithredwr yn bennaeth ar dîm staff y blaid, ond mae hefyd yn arwain y gwaith o gyfathrebu a chydgysylltu gyda sylfaen gwirfoddol a strwythurau llywodraethiant mewnol y Blaid, ac yn sicrhau cyswllt agos ag arweinyddiaeth wleidyddol y Blaid yn y Senedd a San Steffan. Y Prif Weithredwr sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol ac am gysylltu'n agos â'r Comisiwn Etholiadol a'r Comisiynydd Gwybodaeth. Y Prif Weithredwr yw'r uwch gynghorydd staff i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ac yn gyfrifol am yr ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer.

Gweithredir llawer o'r uchod trwy ddirprwyo i staff priodol, a bydd y Prif Weithredwr yn ffurfio ac yn datblygu'r tîm staff hwnnw er mwyn cyflawni amcanion strategol y Blaid.

Lleoliad – Caerdydd ond gellir ystyried gweithio'n hybrid

Cynhelir cyfweliadau ar 10/3/23 yng Nghaerdydd

Ffoniwch Geraint Day ar 029 20 472272 am sgwrs anffurfiol am y swydd.

E-bostiwch ceisiadau wedi'u cwblhau i [email protected]

Cyflog

💰 £53,788 - £64,492

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £30,000 📍 Llanfairpwll Ar gau

💰 £21,914 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £23,625 - £27,825 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £34,015 - £36,973 📍 Y Barri Ar gau

💰 £36,382 - £42,149 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

💰 £23,174 - £25,579 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £34,000 - £40,000 📍 O gartref Ar gau

💰 £26,823 - £34,906 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,945 - £31,137 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £21,074- £23,111 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £24,657-£30,205 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

💰 £46,380 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 📍 Sir Benfro Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £20,255 - £23,008 📍 Ponterwyd Ar gau

💰 £19,264 - £19,650 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

💰 £25,000 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau