Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £45k - £53k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym ’nawr yn chwilio am Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu i ymuno â ni'n llawn-amser ac yn barhaol, yn gweithio 37 awr yr wythnos. 

- Y RÔL -

·    Gweithredu fel rheolwr prosiect Cynllun Digidol y Ganolfan. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y prosiectau a amlinellir yn y Cynllun yn cael eu darparu ar amser ac i gyllideb. 

·    Rhoi arweiniad ar flaenoriaethau creu a chomisiynu adnoddau a sicrhau rheolaeth o ansawdd yr adnoddau at ddefnydd 15,000 o ddysgwyr y Ganolfan. 

·   Sicrhau bod elfennau y Cynllun Digidol yn gweithio oddi fewn i Safle Rhyngweithiol y Ganolfan.

·   Rheoli Prosiect Duolingo gan gymryd cyfrifoldeb dros y tîm o dri sy’n gwneud y gwaith. Mae Duolingo yn denu hanner miliwn o ddefnyddwyr i’r cwrs Cymraeg.

·   Rheoli’r gwaith o lyfrgellu holl adnoddau’r Ganolfan, er mwyn hwyluso’r gwaith o resymoli ac ail ddefnyddio. 

·   Cydweithio ar draws tri cyfarwyddiaeth y Ganolfan er mwyn cydlynu elfennau amrywiol y cynllun.

·   Gweithredu fel Rheolwr y Polisi Hygyrchedd, gan ddiwallu gofynion y cynllun gweithredu ac adolygu’r Polisi ar gyfer y dyfodol.

·   Paratoi adroddiadau ar gyflawniad y gwaith fel bo angen.

·   Cydweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod adnoddau digidol y Ganolfan yn cael eu rhannu yn briodol gyda sectorau / sefydliadau eraill. 

·   Rheoli’r gwaith o wella ansawdd darparwyr Dysgu Cymraeg, bydd hyn yn cynnwys gosod targedau, monitro cynnydd a sicrhau atebolrwydd.

·   Gweithio gyda darparwyr i baratoi ar gyfer arolygiadau Estyn ac arwain at y gwaith o wneud gwaith dilynol gyda darparwyr.

·   Darparu cefnogaeth rheolwr llinell i’r Swyddog Digidol.

·   Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gydnaws ac yn gymesur â’r swydd yn unol â dymuniad y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu.   Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person’.

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried ar gyfer rôl Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu, bydd arnoch angen y canlynol: 

-   Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)

-   Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill

-   Profiad o reoli prosiect, gan gynnwys rheoli cyllideb neu adnoddau

-   Profiad o ysgrifennu dogfennau lefel uchel

-    Profiad o weithio yn y sector dysgu Cymraeg

-   Profiad o ddarparu cyngor ar adnoddau addysgol 

-   Profiad o arwain ar faterion ansawdd

-   Y gallu i feddwl a gweithredu yn strategol

-   Y gallu i gyflawni gwaith yn annibynnol, yn erbyn terfynau amser tynn ac i safon uchel 

-   Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu addas ar gyfer ystod o gynulleidfa gyda’r gallu i argyhoeddi a dwyn perswâd

-   Sgiliau cyflwyno rhagorol

-   Barod i deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen

-   Meddu ar drwydded yrru gyfredol a dilys

-    Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig

-     Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol: 

-    Cymhwyster neu hyfforddiant benodol mewn rheoli prosiectau

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau 

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023, 11:59pm

Cyflog

💰 £44,737 - £53,353

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau