Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog

Prifysgol Aberystwyth

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan weithredol wrth ymgymryd â gweithgareddau gweinyddol rheolaidd o fewn tîm gweinyddol y Gofrestrfa Academaidd yng Nghyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yng Nghyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol neu yng Nghyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd ac wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys ymgeiswyr, myfyrwyr a staff. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addasu a gwella gweithdrefnau, prosesau, systemau a safonau’r gwasanaeth yn rheolaidd.

I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sarah Whitehead ar [email protected] 

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill. 

1.    Goruchwylio gwaith pobl eraill o ddydd i ddydd ar lefel weithredol, yn unol â’r dyletswyddau a bennir gan y rheolwr llinell, a/neu gydlynu prosiectau bach a allai gynnwys goruchwylio gwaith tîm y prosiect, monitro canlyniadau a rhoi adborth

2.    Cydlynu trefniadau ar gyfer pwyllgorau (a all gynnwys Byrddau Arholi) a/neu weithgorau/cyfarfodydd, a chymryd cofnodion

3.    Cyfrannu at grwpiau a rhwydweithiau perthnasol, yn fewnol ac yn allanol, i feithrin perthynas waith effeithiol yn ogystal â throsglwyddo neu dderbyn gwybodaeth neu ddata

4.    Cynnal gohebiaeth â staff, myfyrwyr/ymgeiswyr ac eraill i drosglwyddo gwybodaeth yn ogystal â diweddaru deunyddiau ysgrifenedig yn rheolaidd, er enghraifft, llawlyfrau adrannol

5.    Ymgymryd â thasgau gweinyddol i gyflawni amcanion a chwblhau gwaith erbyn amser penodol, blaenoriaethu gwaith yn annibynnol a'i ail-flaenoriaethu mewn ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl

6.    Darparu cymorth ar gyfer amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cofrestru a sefydlu myfyrwyr, Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, arholiadau, gwrandawiadau panel a lleoliadau myfyrwyr; bydd hyn yn golygu cydweithio'n agos ag ystod o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth proffesiynol ar draws y Brifysgol ac, yn achlysurol, unigolion/sefydliadau allanol yn ôl yr angen

7.    Cyflwyno eraill i wybodaeth a gweithdrefnau safonol, er enghraifft, trwy esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio i ymgeiswyr neu sut mae rheoliad yn berthnasol i fyfyriwr

8.    Cyfrannu'n weithredol at brosiectau bach yn ymwneud â'r maes gwaith perthnasol

9.    Gwneud gwaith datrys problemau yn rheolaidd er mwyn datrys materion yn effeithiol

10.   Cynnal ymchwil a dadansoddi data neu wybodaeth reolaidd gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig, er enghraifft, dadansoddi a rhoi sylwebaeth ar ganlyniadau arolygon mewnol

11.   Gweithio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn ogystal â gwella ac addasu’r safonau gwasanaeth, lle bo'n briodol

12.   Datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd priodol yn barhaus er mwyn cyflawni gofynion y swydd, yn rhannol trwy ymgymryd â hyfforddiant a datblygu proffesiynol perthnasol

13.   Dirprwyo ar ran y rheolwr llinell fel y bo’n briodol

14.   Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.

15.   Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn i gyfrifoldebau'r swydd

16.   Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnydd effeithiol o Gynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol

17.   Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd

Cyflog

💰 £24,285 - £27,131 pro rata

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau