Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'n tîm arbennig yma yn Ynys Môn a Llŷn. Ydych chi’n gyfathrebwr gwych â dealltwriaeth dda o dechnegau marchnata a llygad am stori dda? Os felly, gallai’r swydd hon fod yn berffaith i chi. Os ydych yn frwdfrydig dros rannu straeon a chreu cynnwys gwych, hoffem glywed gennych.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rôl, cysylltwch â [email protected]
Sut brofiad yw gweithio yma
Mae Ynys Môn a Llŷn yn bortffolio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ffurfiwyd yn ddiweddar gan ddwyn y ddwy ardal ynghyd i ganolbwyntio’n well ar ein safleoedd arfordirol a’n cymunedau yng ngogledd orllewin Cymru.
Fel portffolio mae ein gwaith yn ymwneud â gofalu am wledd o gynefinoedd arfordirol sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth. Nid yw'n syndod felly y bydd llawer o'ch gwaith yn canolbwyntio ar ymgysylltu pobl â'r amgylchedd naturiol y gofalwn amdano. Gallai hyn fod drwy ysgrifennu datganiad i'r wasg i rannu hanes un o'n prosiectau cadwraeth niferus neu hyrwyddo digwyddiad, cyfle gwirfoddoli neu daith dywys i gynulleidfaoedd newydd drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
Mae gennym hefyd lawer o draethau poblogaidd a mannau mynediad arfordirol dan ein gofal, yn ogystal â gerddi ac eiddo adeiledig. Mae Tŷ a Gardd Plas Newydd yn blasty godidog ac yn ardd restredig Gradd 1 ar lannau’r Fenai. Maenordy bychan yw Plas yn Rhiw sy’n swatio mewn gardd brydferth a choetir o’i amgylch ar arfordir de Pen Llŷn, ac mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr ddifyr yn Aberdaron a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl i grwydro rhagor ym Mhen Llŷn. Mae’r holl eiddo yn wahanol iawn a byddwch yn gyfrifol am farchnata'r lleoedd arbennig hyn a'r gwaith a wnawn yma yn ddychmygus ac effeithiol gan wella cefnogaeth i'n hachos.
Beth fyddwch chi'n ei wneud
O ddydd i ddydd, byddwch yn datblygu ein cynllun marchnata blynyddol i helpu i gyflawni ein targedau uchelgeisiol, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Bydd hyn yn cynnwys diffinio gweithgareddau hysbysebu a chreu deunyddiau a chynnwys hyrwyddo ar draws y cyfryngau gwahanol - yn cynnwys ar y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu a dosbarthu datganiadau i'r wasg, cefnogi ymgyrchoedd, rheoli delweddau, a'n cynrychioli wrth ffilmio mewn lleoliadau ac ar y cyfryngau darlledu, pan fo angen.
Rydym yn chwilio am rywun a all ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd mwy a mwy amrywiol ochr yn ochr â meithrin perthnasoedd gyda’n cymunedau a’n rhanddeiliaid lleol. Bydd gennych yr hyder, sgiliau cyfathrebu a chwilfrydedd i gysylltu'n rhagweithiol â chydweithwyr i ddysgu am yr hyn sy'n mynd ymlaen ym mhob cwr o'r portffolio. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i sicrhau ein bod yn rhannu'r straeon gorau posibl. Byddwch yn cynnal ymgyrchoedd marchnata i ddenu ymwelwyr i’n lleoedd, lledaenu’r neges am leoedd i ymweld â nhw yn yr awyr agored a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith cadwraeth.
Bydd gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol yn bwysig, gan alinio negeseuon rhwng partneriaid lle bo'n briodol. Bydd cyfathrebu mewnol hefyd yn rhan o'ch rôl, gan wneud yn siŵr bod staff a gwirfoddolwyr o fewn portffolio mor eang yn ddaearyddol yn teimlo wedi'u cysylltu a'u hymgysylltu â'r hyn sy'n mynd ymlaen ar lawr gwlad yn y lleoliadau gwahanol.
Er y byddwch wedi’ch lleol ym Mhlas Newydd yn bennaf, byddwch yn gweithio ar draws y portffolio cyfan yn eich swydd. Disgwylir y byddwch yn treulio o leiaf 60% o’ch amser ym Mhlas Newydd lle byddwch yn chwarae rhan weithredol yn y tîm gweithrediadau eiddo ac ar y rota rheolwr ar ddyletswydd yn rheolaidd. Byddwch yn treulio gweddill eich amser yn mynd allan gan ryngweithio â chydweithwyr ac ymweld ag eiddo eraill ar draws y portffolio.
Gall fod gofyn ichi weithio gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Byddai trafnidiaeth eich hun yn fuddiol oherwydd lleoliadau amrywiol ein safleoedd ar draws y portffolio. Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil swydd llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.
Am bwy rydyn ni'n chwilio
· Dealltwriaeth dda o dechnegau marchnata a phrofiad o ddatblygu a chyflwyno cynlluniau cyfathrebu a marchnata yn ogystal â gwerthuso
· Dealltwriaeth o bwysigrwydd presenoldeb ar-lein diddorol gyda phrofiad o reoli systemau rheoli cynnwys gwefannau
· Sgiliau digidol ardderchog, gan gynnwys profiad o reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys o safon, gyda delweddau a fideo gwych
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a geiriol rhagorol gyda phrofiad o ysgrifennu i'r wasg a'r sylw i fanylion i allu ysgrifennu copi a phrawf-ddarllen
· Sgiliau TG Uwch (gan gynnwys Microsoft Office)
· Sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio rhagorol
· y gallu i siarad Cymraeg
Y pecyn
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
- Cynllun gofal plant di-dreth
- Cynllun benthyciad blaendal rhent
- Benthyciad tocyn tymor
- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol
- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
- Rhaglen cynorthwyo cyflogai
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Cyngor ariannol annibynnol
Cyflog
💰 £25,662
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Y Gegin (Barista)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Y Gegin (Barista)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn seiliedig ar gampws Caerfyrddin ond dylid gallu gweithio gartref a bod yn barod i wneud hynny, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen.
Cyflog Byw yn Wirfoddol
Achlysurol
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Gynorthwywyr Y Gegin i ymuno â'n campws yng Nhaerfyrddin.
**Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais**
- Y RÔL –
Bydd gofyn i chi baratoi coffi arbenigol, diodydd poeth a gweini prydiau bwyd i safon uchel gan ddarparu gwasanaeth cwsmer effeithiol a fydd yn ategu at ddatblygiad Yr Egin fel cyrchfan yng Nghaerfyrddin. Mae gan Y Gegin syflaen eang o gwsmeriaid megis y gymuned greadigol sy’n gweithio yn y ganolfan, cynulleidfa digwyddiadau a chynadleddwyr, myfyrwyr a staff y Brifysgol yn ogystal â’r gymuned leol, teuluoedd ac ymwelwyr ac felly mae angen i chi fedru cyfathrebu’n gwrtais a chynnig profiad fydd yn annog y cwsmer i ddychwelyd dro ar ôl tro.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol 'Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl Cynorthwy-ydd Y Gegin, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Lefel gyffredinol dda o addysg gan gynnwys sgiliau ysgrifennu a rhifiadol da.
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Profiad blaenorol o ryngweithio â chwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaeth sy'n wynebu'r blaen.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
- Y gallu i ddangos sgiliau trefnu effeithiol.
- Dangos y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau.
- Y gallu i weithio'n effeithiol fel unigolyn gan gynnwys bod heb oruchwyliaeth, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.
- Gallu a pharodrwydd i weithio'n hyblyg o ran dyletswyddau, patrymau shifftiau, lleoliadau campws ac er mwyn ymateb i anghenion busnes ar fyr rybudd.
- Y gallu i gynnal trafodaeth a ysgrifennu yn y Gymraeg am faterion annhechnegol*
*Mae croeso i chi gyfeirio at unrhyw gymhwyster sy’n profi eich gallu ieithyddol yn y Gymraeg e.e. y Dystysgrif Sgiliau Iaith, neu lefelau dysgwyr Cymraeg.
Byddai hefyd o fantais i'ch cais os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
- Profiad blaenorol o weithio mewn cegin / amgylchedd bwyta prysur.
- Profiad o goginio sylfaenol.
- Profiad blaenorol o weithio fel gweithredwr til.
- Profiad o gynnal safonau.
- Hyfforddiant Barista.
- BUDDIANNAU -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddiannau gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddiannau i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Cyflog
💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd
Mae Partneriaeth yn edrych am Ymgynghorydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
DIBEN Y SWYDD
Meithrin cydweithredu effeithiol ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol trwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, i sicrhau bod yr holl staff, ym mhob ysgol yn y bartneriaeth, yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso. Bydd y rôl yn hyblyg er mwyn ymateb i anghenion gwahanol pob Awdurdod Lleol, ac wrth wneud hynny i ddeall gofynion ysgolion ledled y Bartneriaeth o ran cymorth. Bydd cynghorwyr yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn yr Awdurdodau Lleol ar ystod eang o fentrau a fydd yn newid wrth i flaenoriaethau newydd godi. Cyfrannu at y broses o lunio a datblygu polisi a chynlluniau strategol; paratoi adroddiadau yn ôl y gofyn; cynrychioli a/neu gynorthwyo'r Uwch-gynghorwyr Strategol ac ymateb i anghenion newidiol, a hynny er mwyn gweithredu'r blaenoriaethau yn y Cynllun Busnes.
Ar gael yn barhaol neu ar secondiad
Bydd opsiynau llawn-amser a rhan-amser/gweithio hyblyg yn cael eu hystyried (hyd at 1 FTE)
Cyflog – Soulbury 13-15 ynghyd â 3 phwynt SPA (neu'n cyfateb i'r telerau ac amodau cyflogaeth yn achos secondiad)
Dylai'r rheiny sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael cymeradwyaeth eu Corff Llywodraethu cyn gwneud cais.
Dyddiad Dechrau – cyn gynted â phosibl
Cafodd Partneriaeth ei ffurfio ym mis Ebrill 2022 yn dilyn darfodiad ERW. Mae'r consortiwm newydd yn wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol cwbl integredig, ac mae wedi'i gomisiynu gan dri awdurdod lleol – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe. Ei nod yw darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob arweinydd, athro ac aelod o staff cymorth i wella'r deilliannau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd Partneriaeth hefyd yn gweithio gyda chonsortia, partneriaethau ac Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, sefydliadau ymchwil, a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi ledled y tri ALl.
Rydym am benodi athro/athrawes tra effeithiol i swydd Ymgynghorydd, gyda ffocws penodol ar Gymraeg Ail Iaith (Uwchradd). Gan weithio mewn tîm o 12 o ymgynghorwyr eraill, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu cydweithredu effeithiol gydag ysgolion ac ALlau er mwyn sicrhau bod yr holl staff addysgu a dysgu yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar hanes profedig o addysgu rhagorol i gefnogi a gwella ymarfer ystafell ddosbarth. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau cysondeb o ran mynediad at gyfleoedd a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bawb, yn ogystal â sicrhau cysondeb o ran cymorth i ysgolion trwy bartneriaethau effeithiol ag Awdurdodau Lleol ac ysgolion.
Darperir manylion llawn am y rôl yn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm. Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Gwennan Schiavone, Uwch Ymgynghorydd Strategol drwy e-bost: [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Chwefror 2023.
Cynhelir y cyfweliadau yn yr wythnos yn dechrau ar 27 Chwefror 2023
Cyflog
💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno gweithio o bell. Noder y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Arweinir y Tîm Ymgyrchoedd Marchnata gan Bennaeth Tîm Ymgyrchoedd Marchnata. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata ac yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n cyflawni strategaeth farchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws y cyfryngau digidol a thraddodiadol ac yn cefnogi'r Tîm Ymgyrchoedd Marchnata i gyflawni ymgyrchoedd i recriwtio myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig ym mhob marchnad (DU a Rhyngwladol).
Bydd gofyn i Ddeilydd y Swydd weithio 14 awr dros 2 ddiwrnod.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â/ag Lucy Stevenson [email protected].
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Gweithio gyda'r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio allweddol, i farchnata cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn Rhyngwladol.
- Arwain ar weithredu ymgyrchoedd a phrosiectau yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata. Adrodd ar gynnydd yr ymgyrch i'r Rheolwr Marchnata yn rheolaidd.
- Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrch - cynhyrchu adroddiadau dadansoddi gan ddangos gwybodaeth cyllidebu a dangosyddion perfformiad allweddol a chreu argymhellion i'r Rheolwr Marchnata a’r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata ar ddiwedd ymgyrch.
- Arwain gyda syniadau arloesol i ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chystadleuol sy'n integreiddio cyfryngau digidol a thraddodiadol, sy'n sefyll allan yn y farchnad Addysg Uwch.
- Datblygu ac arwain ar weithgareddau meithrin a throsi ar gyfer darpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr.
- Datblygu perthynas gref gyda staff o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth yn y Brifysgol.
- Datblygu a rheoli perthynas â chwmnïau trydydd parti (fel UCAS, The Student Room, Find a Masters) a datblygu cynnwys i farchnata Prifysgol Aberystwyth yn effeithiol.
- Datblygu perthynas gref ag asiantaethau hysbysebu yn y DU ac yn rhyngwladol i gyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd hysbysebu y gellir eu tracio yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol.
Datblygu ac arwain ar weithgareddau ymgysylltu ar-lein i ddarpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol.
- Ysgrifennu cynnwys deniadol ar gyfer deunyddiau marchnata i fachu sylw’r gynulleidfa.
- Ymchwilio am syniadau ac ysgrifennu a golygu cynnwys ar draws sianeli cyfathrebu marchnata (gwefan, e-byst, sianeli cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo’r Brifysgol i’n cynulleidfaoedd targed.
- Dilyn canllawiau brand y Brifysgol pryd yn creu deunyddiau marchnata.
- Sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu briffio'n llawn ar sut i weithredu Brand gweledol y Brifysgol.
- Cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys Diwrnodau Agored, ffeiriau UCAS ac arddangosfeydd eraill (nid dyma’r rhestr gyflawn).
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd i weithio'n hyblyg ac ar benwythnosau a gyda'r nos o dro i dro.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Mae Coleg Gwent yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau, chwaraeon a gofal anifeliaid.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £24,504 - £26,577
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd Iaith Gymraeg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Cyngor yn chwilio am gyfieithydd i ymuno â’n tîm. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg. Byddai cymhwyster â phrofiad o gyfieithu’n broffesiynol o fantais.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu fod yn barod i sefyll yr arholiad.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu a byddwn yn hapus i ystyried ceisiadau ar gyfer gweithio'n rhan-amser.
Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfieithu o safon uchaf.
Mae hon yn swydd llawn amser (37 awr yr wythnos), parhaol.
Mae'r cyngor yn gweithredu cynllun gweithio hybrid, ac yn croesawu gweithio o gartref gyda chyfarfodydd achlysurol yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl neu drwy Microsoft Teams.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg
Cyflog
💰 £27,344 - £30,151
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol Cartrefi Fforddiadwy
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Swyddog Gweinyddol Cartrefi Fforddiadwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweithio’n effeithiol fel rhan o’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy i ddarparu gwasanaeth rhagorol, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau, safonau, targedau a safonau Gofal Cwsmer Grŵp Cynefin.
Disgrifiad:
1. Cydweithio gyda phartneriaid statudol i gynnal, hybu, marchnata a datblygu'r cofrestri Tai Teg at fudd pobl sydd angen tai fforddiadwy.
2. Ateb galwadau ffôn a delio ag ymholiadau cyffredinol gan gwsmeriaid.
3. Hybu a marchnata cynlluniau fforddiadwy Grŵp Cynefin, a chynlluniau partneriaid allanol.
4. Gweinyddu Cofrestr Tai Teg o fewn terfyn amser penodol.
5. Paratoi diweddariadau i’n partneriaid, megis awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
6. Darparu posteri a phecynnau cynlluniau newydd, ail werthiannau ac ail osodiadau.
7. Mynychu diwrnod agored – e.e. trefnir gan Hwylusydd Tai Gwledig, Datblygwyr neu Grŵp Cynefin.
8. Cadw gwybodaeth yn gyfredol.
9. Gweinyddu trefn ffeilio electronig
10. Casglu ystadegau chwarterol, a’u dadansoddi er mwyn cynorthwyo’r Reolwr Cartrefi Fforddiadwy i gynhyrchu adroddiadau i’n partneriaid.
11. Derbyn galwadau i dalu rhent neu daliadau eraill amrywiol drwy Allpay.
12. Delio yn brydlon gydag ymholiadau gan denantiaid a lesddalwyr ynglŷn â materion rhent.
13. Cynorthwyo’r Rheolwr Cartrefi Fforddiadwy i gynhyrchu adroddiadau i’r Bwrdd Rheoli a’r Pwyllgorau.
Cyflog
💰 £21,474 - £24,169
Lleoliad
📍 Penygroes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect: · Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
· Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
· Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd. Nod Cyffredinol y Swydd Nod y swydd hon yw i ddarparu cefnogaeth i dîm Cywain trwy: · gydlynu a darparu cefnogaeth i dîm y prosiect, a fydd yn cynnwys darparu gwybodaeth, gweithredu a chofnodi gweithgareddau ar fasdata a systemau rheoli cwsmer
· bod yn gyfrifol dros ddarparu gwybodaeth am y prosiect, megis data allbynnau, at ddefnydd mewnol yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol
· sicrhau fod holl ddogfennaeth y prosiect yn gywir ac wedi cael ei archifo
· cynnal a datblygu systemau gweinyddol y cynllun
· bod yn rhyngweithiol a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth
· bod yn gyfrifol am gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau Prif Gyfrifoldebau Darparu gwybodaeth a chefnogaeth swyddfa i dîm y prosiect · Darparu cymorth gweinyddol dibynadwy ac effeithlon a chefnogaeth i dîm Cywain.
· Trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (mewnol ac allanol)
· Gweithio’n agos gyda thîm Cywain i baratoi a threfnu rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Arwain ar gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefniadau gyda lleoliadau, hwyluswyr allanol a chleientiaid
· Bod yn gyfrifol am restru a hyrwyddo gweithdai Cywain drwy amryw o sianeli
· Cynrychioli Cywain fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mynychwyr gweithdai a digwyddiadau
· Adolygu trefniadau a niferoedd ar gyfer pob digwyddiad er mwyn adnabod anghenion marchnata a hyrwyddo perthnasol
· Cyfathrebu yn rheolaidd ac yn effeithiol gyda Swyddog Marchnata Cywain i sicrhau llwyddiant y rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynychu digwyddiadau, gweithdai a lansiadau prosiect ayyb
· Sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn a darparu gwerth i gwsmeriaid a gwesteion
· Cwblhau proses parhaus o werthuso llwyddiannau gweithdai gan fewnbynnu a dadansoddi data ar systemau rheoli cwsmer y cwmni
· Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol perthnasol
· Cydlynu a chrynhoi gweithgareddau misol aelodau’r tîm er mwyn cynhyrchu adroddiadau misol a chwarterol (meintiol ac ansoddol)
· Casglu, cyflwyno a storio'r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion cyllid a monitro’r cynllun
· Sicrhau bod ffeiliau’r tîm yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol a chefnogi’r Rheolwr Prosiect i gynnal archwiliad rheolaidd
· Datblygu a rheoli cronfa ddata cleientiaid a systemau ar gyfer casglu gwybodaeth a deilliannau’r prosiect
· Cofnodi targedau’r tîm a’u gwirio yn erbyn dogfennau cymeradwyaeth
· Sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth diogelu data priodol
· Ymdrin ag ymholiadau ar lein a thros y ffôn a’u hanfon ar y swyddogion priodol mewn modd amserol a phroffesiynol
· Cadw cofnodion yn effeithlon o fewn fframwaith cytûn i fodloni gofynion ariannol Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd allbynnau
· Mynychu cyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect yn ôl y galw **Ymchwil a Monitro **
· Cefnogi'r Arweinydd Tim Marchnata a Digwyddiadau i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth cleientiaid
· Mewnbynnu data’n gywir
· Dadansoddi cyflawniad y prosiect o’i dargedau trwy sicrhau bod y data yn gyfredol
· Cefnogi'r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
· Sicrhau bod system Rheoli Perthynas Cwsmer a chronfeydd data’rprosiect yn cael eu cynnal a'u bod yn gyfredol ac yn effeithlon
· Cysylltu â chleientiaid, darparwyr a phartneriaid allanol i gydlynu gweithgareddau / digwyddiadau **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu cyrraedd
· Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Cymhwyster CGC lefel 3 neu uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Brwdfrydedd dros waith yr adran
· Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol ardderchog
· Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
· Sgiliau prawf ddarllen da
· Gallu asesu ac ymdrin ag ymholiadau’n effeithlon ac yn brydlon
· Gallu cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd sy’n glir, cryno a chywir
· Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
· Yn rhagweithiol ac yn gallu gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a defnydd o gar Manteisiol
· Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau amaeth, gwledig a bwyd yng Nghymru
· Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau phroffil uchel
· Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaethyddol neu fwyd yng Nghymru
· Profiad o ddefnyddio systemau megis Salesforce, Mailchimp a Wordpress. Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Ynyr Roberts ar 02920 467 404. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth 2023. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, dydd Llun, 27 Chwefror 2023. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfrifydd
Mae S4C yn edrych am Gyfrifydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Gyfrifydd fydd yn gyfrifol am weithgareddau rheoli costau cynnwys ac adroddiadau cyllidebol. Byddwch yn darparu cyngor proffesiynol i alluogi penderfyniadau gwybodus i gael eu gwneud.
Fel Cyfrifydd byddwch yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn gwireddu ein hamcanion corfforaethol a’n rhagoriaeth greadigol gan sicrhau ein bod yn gweithredu’n effeithiol ac yn unol â’n hymrwymiadau strategol.
Disgrifiad:
Byddwch yn cynorthwyo'r Rheolydd Ariannol a'r timau Cyfreithiol a Materion Busnes gyda phob agwedd ar gyllid a gweinyddu contractau, gan gynnwys rhaglenni, deunydd amlgyfrwng a chontractau busnes cyffredinol eraill.
Bydd angen i chi sicrhau bod adroddiadau'n cael eu paratoi a'u cynnal sy'n manylu ar gyllidebau ariannol, taliadau a llif arian ar gyfer yr holl gynnwys a chyllidebau sy'n ymwneud â chynnwys, ar draws pob llwyfan.
Yn ogystal â'r uchod, byddwch chi’n gyfrifol am baratoi adroddiadau cyllideb fisol fanwl ar gyfer yr holl gyllidebau sydd o dan eich rheolaeth, ynghyd ag unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chyhoeddi ar bob llwyfan.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid.
Cyflog: Circa £32,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 5.00 ar ddydd Llun 20 Chwefror 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 £32,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Gwasanaeth
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn edrych am Bennaeth Gwasanaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn sefydliad trydydd sector sy’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion, gofalwyr di-dâl yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Wedi'i sefydlu ym 1991, mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn sefydliad deinamig a blaengar. Mae gofalwyr di-dâl yn wynebu llawer o heriau; mae hwn yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i'w bywydau.
Croesewir trafodaethau anffurfiol. Os hoffech drafod y cyfle hwn gyda Cadeirydd neu Is-Gadeirydd neu ofyn am becyn cais, cysylltwch â Julie Oatey ar 01248 370797 neu [email protected].
Cyflog
💰 £38,052 - £43,757
Lleoliad
📍 Gogledd Orllewin Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu Mewnol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu Mewnol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Mewnol i ymuno â'n tîm yn barhaol, llawn amser.
Y Manteision
- Cyflog o £26,894 - £29,080
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel y Swyddog Cyfathrebu Mewnol, byddwch yn goruchwylio ein holl waith cyfathrebu mewnol.
Gyda chynnydd yn nifer y staff a mewnrwyd newydd, mae cyfathrebu mewnol effeithiol yn hollbwysig. Byddwch yn datblygu ac yn gweithredu cynllun cyfathrebu mewnol dychmygus a diddorol.
Byddwch yn ysgrifennu, dylunio, prawfddarllen a chyhoeddi cynnwys Cymraeg a Saesneg ac yn gwerthuso ei effeithiolrwydd. Gan gefnogi'r Tîm Cyfathrebu i ddatblygu llywodraethu, byddwch yn helpu cydweithwyr i gynhyrchu cynnwys yn unol â'n safonau sefydliadol.
Yn ogystal, byddwch yn cefnogi datblygiad y fewnrwyd newydd yn seiliedig ar Microsoft SharePoint.
Amdanat ti
Er mwyn cael eich ystyried yn Swyddog Cyfathrebu Mewnol, bydd angen:
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Profiad o gynhyrchu deunyddiau cyfathrebu ysgrifenedig
- Profiad o weithio gyda, a defnyddio, mewnrwyd ar lwyfan Microsoft SharePoint
- Sgiliau Cymraeg a Saesneg rhagorol
- Gwybodaeth am sut i ysgrifennu cynnwys cywir rhagorol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a sianeli cyfathrebu
- Y gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl
Byddai hefyd o fudd i’ch cais os oes gennych chi:
- Gradd neu gymhwyster ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau neu gyfathrebu cyffredinol
- Profiad yn y sector cyhoeddus
- Gwybodaeth ymarferol o lwyfannau e-bost seiliedig ar brosiectau, Adobe InDesign, Adobe Acrobat a Microsoft SharePoint
- Gwybodaeth ymarferol o sut i gynhyrchu cynnwys hygyrch
- Gwybodaeth ymarferol o gynhyrchu cynnwys fideo hygyrch yn Gymraeg a Saesneg
Dyddiad cau: 11.59pm dydd Iau, 16 Chwefror
Gallai sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Cyfathrebu, Arbenigwr Cyfathrebu Mewnol, Swyddog Cyfathrebu Mewnol, neu Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Mewnol.
Felly, os ydych yn barod ar gyfer eich cam nesaf fel Swyddog Cyfathrebu Mewnol, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £26,894 - £29,080
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanelwy, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser dros dro uchod, am gyfnod o 3 mis, yn gweithio yn y Gwasanaethau Myfyrwyr - Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cyflwyno hyfforddiant ymyrraeth gan wyliedyddion i fyfyrwyr gan wneud hynny wyneb yn wyneb.
Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg hyd at 1 Lefel A neu 2 lefel UG neu NVQ Lefel 4 (mewn maes pwnc perthnasol neu gyfwerth) a bydd yn cydlynu rhaglen i gyflwyno sesiynau hyfforddi’r brifysgol ar ymyrraeth gan wyliedyddion, a fydd yn para 1.5 awr, i holl fyfyrwyr presennol y flwyddyn gyntaf, yn Semester 2, blwyddyn academaidd 2022/23. Os bydd amser yn caniatáu, bydd deiliad y swydd hefyd yn trefnu cyfleoedd i fyfyrwyr o flynyddoedd eraill, ac i aelodau staff, ddilyn yr hyfforddiant.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Chwefror, 2023.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Helen Munro, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr, e-bost: [email protected], ffôn: (01248) 388021.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cefnogi Cofrestru
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Gynorthwy-ydd Cefnogi Cofrestru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Cofrestru i ymuno â'n Tîm Cofrestru. Mae dwy rôl ar gael, un ar sail amser llawn am gontract chwe mis ac un ar sail amser llawn ar gyfer contract 12 mis.
Y Manteision
- Cyflog o £22,152 - £24,707 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
Oes gennych chi lygad am fanylion a diddordeb mewn prosesu data? Allwch chi ateb ymholiadau yn hyderus a darparu gwybodaeth dros y ffôn? Ydych chi eisiau ymuno â thîm cyfeillgar a chefnogol y mae eu gwaith yn helpu i amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru? Os felly, rydym am glywed gennych.
Y Rôl
Fel Cynorthwyydd Cymorth Cofrestru, byddwch yn prosesu ceisiadau i gofrestru ar Gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gan weithredu fel eu pwynt cyswllt cyntaf, byddwch yn darparu cefnogaeth i gwsmeriaid ac yn ymateb i ymholiadau dros y ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb.
Gan ddarparu cymorth gweinyddol rhagorol, byddwch yn adolygu, prosesu a chofnodi gwybodaeth a ddarperir, gan sicrhau bod y gofynion ar gyfer cofrestru yn cael eu bodloni a bod y manylion yn gywir.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Diweddaru manylion personol a chyflogaeth y bobl gofrestredig
- Prosesu taliadau ar gyfer cofrestru
- Coladu gwybodaeth i gynorthwyo gyda chynhyrchu adroddiadau
Amdanat ti
I gael eich ystyried yn Gynorthwyydd Cymorth Cofrestru, bydd angen:
- Profiad mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
- Sgiliau Microsoft Office Suite, yn benodol Word, Outlook ac Excel
- Y gallu i ddilyn gweithdrefnau a phrosesu data yn drefnus ac yn gywir
- Y gallu i graffu ar ddata i sicrhau cywirdeb
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol
Byddai'r gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl o fudd i'ch cais.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 12 Mawrth 2023.
Byddwn yn adolygu ceisiadau wrth iddynt ddod i mewn, felly gall y rôl hon gau yn gynt na'r dyddiad a hysbysebwyd.
Gallai sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Weinyddwr, Gweinyddwr Mewnbynnu Data, Gweinyddwr Gwasanaeth Cwsmer, Cydlynydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth Cwsmer, neu Gynorthwyydd Gweinyddol.
Felly, os ydych chi am ddatblygu eich set sgiliau fel Cynorthwyydd Cymorth Cofrestru, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £22,152 - £24,707
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanelwy, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Gweinyddol - Cyfleusterau
Mae Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Gweinyddol - Cyfleusterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dewch i ymuno â thîm gwasanaethau proffesiynol gwych yn ysgol fusnes gynta’r byd ynghylch gwerth cyhoeddus!
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio yn Ysgol Busnes Caerdydd. Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â'n tîm cyfleusterau proffesiynol, colegol, amrywiol a chroesawgar i ddarparu cymorth gweinyddol i gefnogi'r amrywiaeth eang o wasanaethau'r tîm, gan roi pwyslais penodol ar weithgareddau amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae'r tîm hwn yn darparu gwasanaethau blaen tŷ a derbynfa, archebu ystafelloedd, reprograffeg, postio a phorthora yn ogystal â bod yn gyfrifol am gynorthwyo gyda rheoli a gwella mannau dysgu ac addysgu, swyddfeydd a mannau cymunedol yr Ysgol. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am fframweithiau a systemau Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Lles yr Ysgol ac yn bwysig mae'n rhan annatod o agenda cynaladwyedd yr Ysgol, gan arwain ar ehangu a chefnogi ein mentrau a'n datblygiadau amgylcheddol.
Bydd yr oriau gwaith yn seiliedig ar batrwm shifft wythnosol o ddydd Llun i ddydd Gwener a drefnir ymlaen llaw, er mwyn cynnig gwasanaeth derbynfa rhwng 8.00am a 6.00pm, ond bydd angen hyblygrwydd er mwyn cyflenwi ar gyfer gwyliau blynyddol, absenoldebau, a digwyddiadau ad hoc/cynadleddau. Bydd hyn weithiau'n golygu y bydd angen gweithio oriau ychwanegol neu anarferol, a allai gynnwys penwythnosau, er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, hyblyg, brwdfrydig a chyfrifol. Bydd yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a gyflwynir yn Gymraeg a Saesneg, neu'n barod i gwblhau hyfforddiant iaith Gymraeg.
Mae llawer o bobl o’r farn bod Ysgol Busnes Caerdydd yn un o ysgolion busnes a rheoli gorau’r deyrnas ac, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd yn chweched yn eu plith am safon ei hymchwil. Rydyn ni’n addysgu dros 3,500 o fyfyrwyr bob blwyddyn, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr rhyngwladol. Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd gyfadran ryngwladol ac ynddi ysgolheigion o’r radd flaenaf. Mae enw da’r ysgol wedi’i helpu i’w denu o sawl rhan o’r deyrnas a’r tu hwnt. Ysgol Busnes Caerdydd yw’r sefydliad cyntaf o’i fath yn y byd sy’n hybu gwerth cyhoeddus, gan ymrwymo i hwyluso gwerth cymdeithasol ac economaidd fel ei gilydd trwy gynnal ymchwil arloesol aml ei meysydd i anawsterau mwyaf cymunedau, cwmnïau a sefydliadau.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, a hysbysebir ar sail benagored.
Cyflog: £21,197 - £23,144 y flwyddyn (Gradd 3).
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 19 Chwefror 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
O fewn y Tîm Cyfleusterau, bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol yn:
• Darparu cymorth gweinyddol ansawdd uchel i'r Ysgol Busnes, gan ymgymryd ag ystod o dasgau gwasanaeth arferol a'u cwblhau i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaeth a boddhad cwsmeriaid, ac arwain ar reoli meysydd cyfrifoldeb penodol yn yr Ysgol.
• Rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar yr ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan y Tîm.
• Sicrhau bod y Tîm yn cael cefnogaeth a bod dyletswyddau Allweddol, Penodol a Chyffredinol y rôl yn cael eu cyflawni'n broffesiynol.
Dyletswyddau Allweddol
• Delio ag ystod eang o ymholiadau wyneb yn wyneb, ebost a ffôn oddi wrth gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys staff, myfyrwyr ac ymwelwyr allanol, mewn modd amserol, cyfeillgar a phroffesiynol, gan nodi eu gofynion ac addasu ymatebion safonol yn unol â hynny, a mynd ati’n effeithlon ac yn effeithiol i nodi neu gyfeirio ystyriaethau at reolwyr neu dimau eraill yn yr Ysgol neu Brifysgol.
• Cydweithio ag eraill o fewn a thu allan i'r Tîm, yr Ysgol a'r Brifysgol ehangach, gan gynnwys arweinwyr academaidd perthnasol yn yr Ysgol, er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig a gweithgareddau a mentrau cynaladwyedd.
• Sefydlu perthnasoedd gwaith gyda chysylltiadau allweddol, yn fewnol ac yn allanol, i helpu i wella lefelau gwasanaeth ac ymchwilio i dechnolegau newydd ac ymarfer a phrosesau nodedig o'r tu allan i'r Ysgol.
• Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r Ysgol Busnes.
• Casglu a dadansoddi data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol â gwybodaeth gywir, ac adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol mewn unrhyw ddata a gyflwynir a gweithredu unrhyw ymatebion safonol, gan gyfeirio unrhyw faterion ansafonol ymlaen fel bo'r gofyn.
• Cyfrannu at lwyddiant y tîm, arwain eraill drwy esiampl a helpu i oruchwylio a rheoli’r Tîm.
Dyletswyddau Penodol
• Bydd Cynorthwywyr Gweinyddol unigol yn y Tîm yn ymgymryd â phob un o'r Dyletswyddau Penodol isod, a’u cefnogi, ond gofynnir iddynt arwain, yn weithredol ac yn ddatblygiadol, ar ran y Tîm ar un ohonynt, neu ar nifer ohonynt.
• Darparu gwasanaeth derbynfa cyfeillgar hynod broffesiynol, wedi'i gyflwyno'n dda, gan weithredu fel pwynt cyswllt cychwynnol ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol a darparu gofal cwsmer o'r safonau uchaf wrth gyfarfod, cyfarch a chyfarwyddo cwsmeriaid ac ymwelwyr.
• Hwyluso system mynediad diogelwch y wefan, agor a chau’r adeiladau ar sail patrwm shifft, gan gysylltu'n uniongyrchol â Diogelwch i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn llyfn.
• Hysbysu am ddiffygion cynnal a chadw a'u cofnodi, a chofnodi tasgau neu waith angenrheidiol gydag Ystadau'r Brifysgol, a, gan ddefnyddio Porth Cyfleusterau Cymorth yr Ysgol, monitro ac olrhain hynt y gwaith a darparu adborth rhagweithiol i randdeiliaid mewnol, gan gyfeirio unrhyw bryderon o ran cynnydd at reolwyr yr Ysgol.
• Cynnal deunydd ysgrifennu, reprograffeg, cyfleusterau a chyflenwadau traul AV staff yr Ysgol, archebu stoc, cysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y stoc mwyaf priodol ar gael, gan gynnwys bodloni ystyriaethau cynaladwyedd, a monitro gwariant yn erbyn y gyllideb.
• Cyflawni dyletswyddau porthora ysgafn, oddi mewn a rhwng adeiladau'r Brifysgol.
Parhaodd y Disgrifiad Swydd mewn Gwybodaeth Ychwanegol
Manyleb Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
1. NVQ 2/TGAU A-C neu gymwysterau neu brofiad gwaith cyfatebol.
2. Profiad helaeth o weithio mewn gweithle gweinyddol neu swyddfa.
3. Gallu diamheuol i ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (e.e. MS Office).
4. Gallu diamheuol i sefydlu systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol.
5. Gallu a brofwyd i gyfathrebu'n effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, mewn dulliau ysgrifenedig a llafar ac yn Gymraeg a Saesneg, neu fodlonrwydd i ddysgu.
6. Gallu a brofwyd i weithio fel aelod effeithiol o’r tîm, a rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill y tîm yn ôl yr angen.
7. Ymrwymiad cryf, â thystiolaeth, i wasanaeth cwsmeriaid.
8. Gallu amlwg i ymdopi â cheisiadau estynedig am wybodaeth neu wasanaeth, a datrys problemau cwsmeriaid lle bo'n briodol.
9. Tystiolaeth o allu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun o fewn amserlenni y cytunir arnynt.
10. Gallu pendant i gymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan gydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion safonol.
Meini Prawf Dymunol
1. Profiad o ddarparu gwasanaethau cyfleusterau, a thechnolegau a systemau cyfleusterau cysylltiedig, mewn amgylchedd swyddfa a/neu addysgol.
2. Profiad o weithredu systemau a fframweithiau SHEW. Gwybodaeth Ychwanegol
Disgrifiad Swydd – parhad
Dyletswyddau Penodol
• Cefnogi pwyllgorau a chyfarfodydd perthnasol, gan gynnwys paratoi agendâu a phapurau, cymryd cofnodion a monitro a dwysáu gweithredoedd y cytunwyd arnynt ar ran y Cadeirydd.
• Bod ar gael ar gyfer digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith, gyda'r nos ac ar benwythnosau, drwy drefniant y cytunir arno ymlaen llaw.
• Cynorthwyo gyda chyfleusterau, materion diogelwch, cynnal gweithdrefnau agor a chau adeiladau yn amserol, gwirio a monitro ystafelloedd seminar, mannau cyfarfod a chyffredin yn ôl amserlenni y cytunwyd arnynt, gan hysbysu am ddiffygion neu eu datrys, a gosod ystafelloedd yn ôl manylebau a geir ymlaen llaw.
• Gweithredu system Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Lles (SHEW) yr Ysgol, gan gynnwys gwerthusiadau DSE staff, gan weithredu neu ddwysáu camau lliniaru gofynnol, gweinyddu ac adolygu asesiadau risg, cysylltu ag arweinwyr gweithgaredd academaidd a gwasanaethau proffesiynol i gyflawni'r rhain, a dangos dull gweithio rhagweithiol i gefnogi agenda cynaladwyedd yr Ysgol.
• Cefnogi gwasanaeth archebu ystafelloedd yr Ysgol, yn geisiadau ad-hoc a hefyd y cysylltiadau agos â gweithgareddau amserlennu.
• Gweithredu gwasanaethau post yr Ysgol, gan gynnwys rheoli cyllidebau ac ail-daliadau cysylltiedig, cysylltu â chyflenwyr technoleg a gwasanaethau allanol a darparu cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar y gwasanaethau mwyaf priodol i'w hanghenion.
• Gweinyddu a chynnal rhwydwaith arwyddion digidol yr Ysgol, gan sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol ac yn berthnasol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth briodol, gan ddarparu cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr gwasanaeth.
• Gweithredu gwasanaethau reprograffeg yr Ysgol, gan gynnwys rheoli cyllidebau ac ail-daliadau cysylltiedig, cysylltu â chyflenwyr technoleg a gwasanaethau allanol a darparu cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar y gwasanaethau mwyaf priodol i'w hanghenion.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Dylech chi allu dangos eich bod yn cyd-fynd ag egwyddorion yr ysgol, sydd wedi’u pennu yn unol â’i strategaeth dros werth cyhoeddus.
• Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich gwaith yn y swydd.
• Cyfrannu at weithgareddau ehangach Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol.
• Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau .
• Cadw at bolisïau’r Brifysgol ynghylch diogelu gwybodaeth (gan gynnwys rhwymedigaethau GDPR y Brifysgol), Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Llesiant (SHEW), a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).
• Cyflawni o bryd i’w gilydd ddyletswyddau eraill sydd heb eu crybwyll uchod ond yn cyd-fynd â'r rôl.
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyfathrebu
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Pennaeth Cyfathrebu i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo safbwynt cywir, cadarnhaol a gwybodus o’r Cyngor Celfyddydau, ac o'r gweithgarwch rydym yn ei gefnogi. Mae'r Pennaeth Cyfathrebu yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ein gwaith mewn un llais cyson, mewn modd sy'n ddeniadol ac yn hygyrch.
Mae’r Pennaeth yn arwain tîm o arbenigwyr Cyfathrebu sydd gyda’i gilydd yn datblygu deunydd print ac electronig – yn y Gymraeg a’r Saesneg – sy’n adlewyrchu gwerthoedd, uchelgeisiau a hunaniaeth y Cyngor Celfyddydau. Un o nodau allweddol y tîm yw hyrwyddo’r celfyddydau mewn ffyrdd arloesol er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd ac ehangach. Mae'r Pennaeth hefyd yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd hyrwyddo a digwyddiadau sy'n codi proffil y celfyddydau a’r Cyngor Celfyddydau ei hun.
Amdanoch chi
Mae gennych gymhwyster perthnasol a/neu brofiad proffesiynol sylweddol o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a phrofiad o lunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu. Bydd gennych yr awdurdod personol i weithredu'n gredadwy ar lefel uchel mewn materion cyhoeddus ar gyfer corff cyhoeddus cenedlaethol, a'r hyblygrwydd i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a Saesneg. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a Saesneg – er mwyn cynnal perthnasoedd effeithiol ar lefelau uwch yn fewnol ac yn allanol – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Sut i ymgeisio
Dewiswch y botwm ymgeisio a ddangosir i gyflwyno Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, megis nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf.
Dyddiad cau: 12:00 canol dydd ar ddydd Mawrth 28ain Chwefror 2023
Cyfweliadau: Dydd Mercher 22ain Mawrth 2023
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £49,089 - £54,375 pro rata
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd, Bae Colwyn, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgysylltu Cymunedol
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Swyddog Ymgysylltu Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Mae Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau (CLP) (y Cynllun) yn rhaglen bum mlynedd sy’n ceisio gwarchod treftadaeth y Carneddau dan fygythiad (grŵp o fynyddoedd yn Eryri) trwy gynyddu dealltwriaeth a mwynhad o dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal ar draws ardal eang. amrywiaeth o gymunedau, unigolion a sefydliadau.
Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Ymgysylltu Cymunedol i ymuno â’n tîm ar sail amser llawn, am gontract tymor penodol tan 31 Rhagfyr 2025.
Y Manteision
- Cyflog o £27,852 - £32,020 y flwyddyn (pro rata)
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, byddwch yn codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun ymhlith cymunedau lleol.
Gan greu mentrau a arweinir gan y gymuned, byddwch yn canolbwyntio ar weithgareddau lles ac addysg sy’n annog ac yn cefnogi unigolion i ddeall pwysigrwydd y dirwedd a’r rôl y gallant ei chwarae wrth ddiogelu ei dyfodol.
Byddwch hefyd yn cefnogi datblygiad a gweithrediad syniadau prosiect a gynhyrchir gan gymheiriaid sy’n cyfrannu at amcanion y Cynllun ac yn dangos buddion cymdeithasol, economaidd, addysg a lles i gyfranogwyr.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cefnogi a chydlynu recriwtio gwirfoddolwyr
- Gwerthuso a chasglu data ymgysylltu a chyfranogiad
- Cynrychioli'r Cynllun mewn cyfarfodydd allanol a digwyddiadau partneriaeth
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, bydd angen y canlynol arnoch:
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg
- Profiad o reoli prosiectau meithrin gallu cymunedol, cydgysylltu mentrau a arweinir gan wirfoddolwyr a gweithio gyda grŵp cymunedol
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc
- Dealltwriaeth o Barciau Cenedlaethol, materion amgylcheddol a threftadaeth a rheolaeth cefn gwlad
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Datblygiad Cymunedol, Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned neu bwnc perthnasol
- Trwydded yrru lawn, ddilys a'r defnydd o gerbyd
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 26 Chwefror 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gydlynydd Ymgysylltu, Swyddog Prosiect Ymgysylltu, Swyddog Allgymorth, Swyddog Allgymorth Cymunedol, Swyddog Cymorth Prosiect, neu Swyddog Ymgysylltu Rhaglen.
Felly, os ydych chi'n chwilio am rôl newydd i ffynnu fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £27,852 - £32,020 pro rata
Lleoliad
📍 Penrhyndeudraeth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Gofal Plant
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Datblygu Gofal Plant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
• Cyrraedd gofynion statudol Deddf Gofal Plant 2006 - Adran 22 (sicrhau gofal plant digonol) ac Adran 26(asesu darpariaeth gofal plant)
• Cefnogi’r gwaith o asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae o fewn yr Awdurdod, o dan gofynion statudol y Rheoliadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012
•Cefnogi lleoliadau i ddarparu gwasanaeth gofal, chwarae ac addysg gynnar o safon uchel
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth] (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rachel Jones / Lowri Gwyndaf Jones ar 01248 352426
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/02/2023
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £24,496 - £26,845
Lleoliad
📍 Hybrid, Caernarfon, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan weithredol wrth ymgymryd â gweithgareddau gweinyddol rheolaidd o fewn tîm gweinyddol y Gofrestrfa Academaidd yng Nghyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yng Nghyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol neu yng Nghyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd ac wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys ymgeiswyr, myfyrwyr a staff. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addasu a gwella gweithdrefnau, prosesau, systemau a safonau’r gwasanaeth yn rheolaidd.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sarah Whitehead ar [email protected]
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
1. Goruchwylio gwaith pobl eraill o ddydd i ddydd ar lefel weithredol, yn unol â’r dyletswyddau a bennir gan y rheolwr llinell, a/neu gydlynu prosiectau bach a allai gynnwys goruchwylio gwaith tîm y prosiect, monitro canlyniadau a rhoi adborth
2. Cydlynu trefniadau ar gyfer pwyllgorau (a all gynnwys Byrddau Arholi) a/neu weithgorau/cyfarfodydd, a chymryd cofnodion
3. Cyfrannu at grwpiau a rhwydweithiau perthnasol, yn fewnol ac yn allanol, i feithrin perthynas waith effeithiol yn ogystal â throsglwyddo neu dderbyn gwybodaeth neu ddata
4. Cynnal gohebiaeth â staff, myfyrwyr/ymgeiswyr ac eraill i drosglwyddo gwybodaeth yn ogystal â diweddaru deunyddiau ysgrifenedig yn rheolaidd, er enghraifft, llawlyfrau adrannol
5. Ymgymryd â thasgau gweinyddol i gyflawni amcanion a chwblhau gwaith erbyn amser penodol, blaenoriaethu gwaith yn annibynnol a'i ail-flaenoriaethu mewn ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl
6. Darparu cymorth ar gyfer amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cofrestru a sefydlu myfyrwyr, Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, arholiadau, gwrandawiadau panel a lleoliadau myfyrwyr; bydd hyn yn golygu cydweithio'n agos ag ystod o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth proffesiynol ar draws y Brifysgol ac, yn achlysurol, unigolion/sefydliadau allanol yn ôl yr angen
7. Cyflwyno eraill i wybodaeth a gweithdrefnau safonol, er enghraifft, trwy esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio i ymgeiswyr neu sut mae rheoliad yn berthnasol i fyfyriwr
8. Cyfrannu'n weithredol at brosiectau bach yn ymwneud â'r maes gwaith perthnasol
9. Gwneud gwaith datrys problemau yn rheolaidd er mwyn datrys materion yn effeithiol
10. Cynnal ymchwil a dadansoddi data neu wybodaeth reolaidd gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig, er enghraifft, dadansoddi a rhoi sylwebaeth ar ganlyniadau arolygon mewnol
11. Gweithio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn ogystal â gwella ac addasu’r safonau gwasanaeth, lle bo'n briodol
12. Datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd priodol yn barhaus er mwyn cyflawni gofynion y swydd, yn rhannol trwy ymgymryd â hyfforddiant a datblygu proffesiynol perthnasol
13. Dirprwyo ar ran y rheolwr llinell fel y bo’n briodol
14. Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
15. Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn i gyfrifoldebau'r swydd
16. Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnydd effeithiol o Gynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol
17. Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Dehongli
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Dehongli
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth (gyda dyddiau rheolaidd yn swyddfa Cefnfaes, Bethesda a lleoliadau eraill yn ardal y Cynllun)
Amdanom ni
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Mae Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau (CLPP) yn rhaglen bum mlynedd sy’n ceisio gwarchod treftadaeth y Carneddau dan fygythiad (grŵp o fynyddoedd yn Eryri) trwy gynyddu dealltwriaeth a mwynhad o dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal ar draws ystod eang o gymunedau, unigolion a sefydliadau.
Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Dehongli i ymuno â’n tîm ar sail amser llawn, am gontract tymor penodol tan 31 Rhagfyr 2025.
Y Manteision
- Cyflog o £24,948 - £27,852 y flwyddyn (pro rata)
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Swyddog Cyfathrebu a Dehongli, byddwch yn dosbarthu negeseuon CLPP i'r Bartneriaeth, rhanddeiliaid, defnyddwyr a'r cyhoedd yn ehangach trwy amrywiaeth o sianeli.
Gan feithrin dealltwriaeth a chefnogaeth y cyhoedd a rhanddeiliaid i’r cynllun, byddwch yn cydlynu ac yn cynorthwyo gyda rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddusrwydd ac ymgysylltu.
Gan hyrwyddo gwaith y cynllun, byddwch yn datblygu’r wefan, cyfryngau cymdeithasol a chyswllt â’r wasg a chysylltiadau cyhoeddus yn ogystal â rhannu gwybodaeth gyda’n partneriaid a’n cyllidwyr.
Amdanoch chi
I gael eich ystyried yn Swyddog Cyfathrebu a Dehongli, bydd angen:
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg
- Profiad o gyfathrebu digidol
- Dealltwriaeth o Barciau Cenedlaethol, materion amgylcheddol a threftadaeth a rheolaeth cefn gwlad
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Hyfedredd mewn TG, gan gynnwys Microsoft Office
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
- Trwydded yrru lawn, ddilys a'r defnydd o gerbyd
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 26 Chwefror 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Marchnata Digidol, Swyddog Cyfathrebu, Swyddog Gweithredol Marchnata Digidol, Swyddog Gweithredol Cyfathrebu Marchnata, Gweithredwr Marcoms, Gweithredwr Ymgyrch Farchnata, neu Swyddog Gweithredol Cyfathrebu.
Felly, os ydych chi am ddatblygu eich gyrfa fel Swyddog Cyfathrebu a Dehongli, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £24,948 - £27,852 pro rata
Lleoliad
📍 Penrhyndeudraeth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Datblygu
Mae Rondo yn edrych am Bennaeth Datblygu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn egnïol, ymroddgar i reoli a meithrin pwll syniadau datblygu heb eu sgriptio ar gyfer ystod o ddarpar ddarlledwyr a phlatfformau.
Mae angerdd at gynnwys ffeithiol ac adloniant ffeithiol y hanfodol.
Mi fydd yr ymgeisydd Ilwyddiannus yn gryf mewn tîm ac yn meddu ar allu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi timau cynhyrchu ledled y cwmni, a chydweithio'n agos gyda'r uwch dim rheoli.
Mae'n ofynnol fod gan y Pennaeth Datblygu ddealltwriaeth fanwl o gynnwys heb ei sgriptio sy'n apelio at gynulleidfaoedd a darlledwyr, yn ogystal ag ymrwymiad gwirioneddol i amrywiaeth a chynhwysiad.
Mae'r rôl yn galw am sgiliau golygyddol cryf, sgiliau cyflwyno syniadau a chyfathrebu a chysylltiadau cadarn o fewn y sector darlledu.
Mae meddu ar wybodaeth am lwyddiannau cynnwys cyfredol a phatrymau cyfoes sy'n boblogaidd gan gynulleidfaoedd yn bwysig.
Mae' gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.
Yn ddelfrydol, mi fyddwch chi hefyd yn gyfarwydd à strwythurau a ffynonellau ariannu, a bydd gennych rywfaint o adnabyddiaeth o faterion cyfreithiol a chytundebol sy'n ymwneud à chomisiynu, opsiynu a thrwyddedu fformatau.
Anfonwch CV a llythyr sy'n manylu ar y rhesymau yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon at [email protected] erbyn 24/2/23
Hyd y cytundeb: 12 mis
Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Academi Sgrîn
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Reolwr Academi Sgrîn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd dros dro llawn amser uchod yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Phrifysgol Bangor i’n helpu i adeiladu darpariaeth unigryw, ddwyieithog gydag Academi Sgrîn Gogledd Cymru – menter gydweithredol iawn sydd â’r nod o hybu cyfleoedd rhanbarthol i bobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd yn y gweithle yn stiwdios cynhyrchu ffilm a theledu yng Cymru. Mae’r fenter hon yn torri tir newydd. Mae’n gofyn am ddull pragmatig ac ar sail gwerth o weithio gyda diwydiant, Addysg Uwch, Addysg Bellach ac ysgolion yng Ngogledd Cymru.
Mae Academi Sgrîn Gogledd Cymru yn rhan o rwydwaith newydd sbon o Academïau Sgrîn sydd wedi’u lleoli mewn prifysgolion a stiwdios ledled Cymru. Bydd academi gogledd Cymru yn canolbwyntio'n arbennig ar hybu sgiliau a chyfleoedd mewn cynhyrchu dwyieithog yn y stiwdio.
Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg i lefel gradd, neu brofiad proffesiynol cyfatebol, a bydd yn datblygu ac yn helpu i gyflwyno cynllun busnes cydweithredol a darparu rheolaeth effeithiol o ddydd i ddydd ar gyfer Academi Sgrîn Gogledd Cymru Prifysgol Bangor yn Stiwdios Aria, Llangefni (www.ariafilmstudios.com). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo Academi Sgrîn fel adnodd a rennir, gan ddarparu cefnogaeth barhaus i gyrsiau Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor a chyrsiau partneriaid addysgol eraill gan gynnwys Colegau Addysg Bellach a Chynghrair Sgrîn Cymru wrth iddynt geisio cael mynediad at y cyfleusterau newydd hyn ac ymgysylltu â nhw.
Dylai fod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth dda o gynhyrchu ffilm a theledu a phrofiad o reoli projectau a chyllidebau. Mae sgiliau gweinyddol a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl.
Gwnaed y swydd hon yn bosibl gan gefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r gofyniad am wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Bydd y swydd hon ar gampws Bangor, a disgwylir y treulir amser yn rheolaidd yn Stiwdios Aria. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 17 Chwefror 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymchwilio
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Ymchwilio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dros sicrhau bod modd troi at system gwynion annibynnol pan fydd gwasanaethau'n methu?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddogion Ymchwilio profiadol a fydd yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wnaed am Gynghorion o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor.
Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy'n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws llu o feysydd. Gan ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn:
· Dadansoddi gwybodaeth fanwl i gyrraedd a deall gwraidd y gŵyn
· Nodi a chael tystiolaeth yn brydlon
· Cyflwyno penderfyniadau mewn adroddiadau ysgrifenedig cymhellol
· Ymgysylltu'n effeithiol â'r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad
· Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol
Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol yma. **Yr hyn rydym yn chwilio amdano **
· Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy o ymgymryd ag ymchwiliadau cymhleth, gan arwain at ganlyniadau cymesur
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth i safon broffesiynol uchel
· Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda'r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn
· Sgiliau effeithiol o ran rheoli achosion gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd
· Gallu profedig i weithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm
I ymgeisio am y rôl hon bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch profiad a'ch arbenigedd wrth gynnal ymchwiliadau cymhleth o fewn gwasanaethau proffesiynol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Sut mae hyn o fudd i chi?
· Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
· Amrywiaeth o waith achos – nid oes un achos yr un peth
· Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod.
· Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser hyblyg, Aelodaeth gampfa, Health Cash Plan a Chynlluniau Prynu am Bris Gostyngol.
· Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio o gartref
· Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth
**Sut i ymgeisio **
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] erbyn hanner dydd, dydd Llun 13 Chwefror 2022. Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cyflog
💰 £35,412 - £46,551
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Fferm
Mae QWFC yn edrych am Asesydd Fferm
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Quality Welsh Food Certification Ltd swydd am Asesydd Fferm ar gyfer Cynllun Gwarant Fferm (FAWL) i weithio yn ardaloedd De a Gorllewin Cymru.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf bum mlynedd o brofiad yn gweithio ar uned gig eidion neu ddefaid a llaeth, neu dair mlynedd os yw’n meddu ar gymhwyster addas mewn Amaethyddiaeth.
Rhaid i’r ymgeisydd medru cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rhoddir ystyriaeth i’r ymgeisydd ar sail hunan gyflogedig neu’n gyflogedig.
Am fanylion pellach cysylltwch ag Iestyn Tudur-Jones neu e-bostiwch [email protected].
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 De a Gorllewin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiect
Mae Menter Ty’n Llan yn edrych am Reolwr Prosiect
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Rheolwr Prosiect yn allweddol i lwyddiant prosiect Ty’n Llan, trwy arwain y gwaith sydd yn ganolog i lwyddiant hirdymor y fenter.
Disgrifiad:
RHEOLWR PROSIECT
RHEOLWR PROSIECT CRONFA TREFTADAETH Y LOTERI GENEDLAETHOL
Menter Ty’n Llan, Llandwrog
Cyflog: £35,500 y flwyddyn pro rata
Oriau: 37 awr yr wythnos
Oriau hyblyg. Bydd angen gweithio oriau gyda’r nos yn achlysurol
Hyd Cytundeb: 8 Mis cychwynnol (Chwefror – Medi 23) gyda photensial i ymestyn hyd at Rhagfyr 2026 os yw’r cyfnod hwn yn llwyddiannus.
Lleoliad: Hyblyg. Ty’n Llan ac o gartref
Swydd Ddisgrifiad: Swydd gyflogedig sydd ‘dan sylw ond rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr llawrydd yn ogystal.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch gyda Caryl Lewis 07789197178.
I wneud cais, gyrrwch lythyr blaen a CV drwy ebost i: [email protected]
Cyflog
💰 £35,500 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg, Llandwrog, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!