Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata

Prifysgol Aberystwyth

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno gweithio o bell. Noder y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Arweinir y Tîm Ymgyrchoedd Marchnata gan Bennaeth Tîm Ymgyrchoedd Marchnata. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata ac yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n cyflawni strategaeth farchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws y cyfryngau digidol a thraddodiadol ac yn cefnogi'r Tîm Ymgyrchoedd Marchnata i gyflawni ymgyrchoedd i recriwtio myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig ym mhob marchnad (DU a Rhyngwladol).

Bydd gofyn i Ddeilydd y Swydd weithio 14 awr dros 2 ddiwrnod.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â/ag Lucy Stevenson [email protected]

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill. 

- Gweithio gyda'r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio allweddol, i farchnata cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn Rhyngwladol.  

- Arwain ar weithredu ymgyrchoedd a phrosiectau yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata. Adrodd ar gynnydd yr ymgyrch i'r Rheolwr Marchnata yn rheolaidd. 

- Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrch - cynhyrchu adroddiadau dadansoddi gan ddangos gwybodaeth cyllidebu a dangosyddion perfformiad allweddol a chreu argymhellion i'r Rheolwr Marchnata a’r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata ar ddiwedd ymgyrch. 

- Arwain gyda syniadau arloesol i ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chystadleuol sy'n integreiddio cyfryngau digidol a thraddodiadol, sy'n sefyll allan yn y farchnad Addysg Uwch. 

- Datblygu ac arwain ar weithgareddau meithrin a throsi ar gyfer darpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr.

- Datblygu perthynas gref gyda staff o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth yn y Brifysgol. 

- Datblygu a rheoli perthynas â chwmnïau trydydd parti (fel UCAS, The Student Room, Find a Masters) a datblygu cynnwys i farchnata Prifysgol Aberystwyth yn effeithiol. 

- Datblygu perthynas gref ag asiantaethau hysbysebu yn y DU ac yn rhyngwladol i gyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd hysbysebu y gellir eu tracio yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol.

Datblygu ac arwain ar weithgareddau ymgysylltu ar-lein i ddarpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol.  

- Ysgrifennu cynnwys deniadol ar gyfer deunyddiau marchnata i fachu sylw’r gynulleidfa.

- Ymchwilio am syniadau ac ysgrifennu a golygu cynnwys ar draws sianeli cyfathrebu marchnata (gwefan, e-byst, sianeli cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo’r Brifysgol i’n cynulleidfaoedd targed.

- Dilyn canllawiau brand y Brifysgol pryd yn creu deunyddiau marchnata.

- Sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu briffio'n llawn ar sut i weithredu Brand gweledol y Brifysgol. 

- Cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys Diwrnodau Agored, ffeiriau UCAS ac arddangosfeydd eraill (nid dyma’r rhestr gyflawn).

- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd i weithio'n hyblyg ac ar benwythnosau a gyda'r nos o dro i dro.

- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.

- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.

Cyflog

💰 £29,619 - £35,333 pro rata

Lleoliad

📍 Aberystwyth, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau