Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Mae S4C yn edrych am Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn chwilio am Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata bydd yn gyfrifol am greu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a marchnata clir, gydlynol a chreadigol. Byddwch yn gyfrifol am arwain swyddogaeth gyfathrebu a marchnata gref ac uchelgeisiol gan gymryd camau cadarnhaol i adrodd stori real a pherthnasol, gan greu bwrlwm am frand a chynnwys S4C. 

Byddwch yn meithrin perthnasoedd gweithredol yn fewnol ac yn allanol gan ddefnyddio sianeli a llwyfannau amrywiol mewn amgylchedd cyflym, cystadleuol. Yn brofiadol ym maes cyfathrebu, a materion cyhoeddus cewch gyfle i arwain tîm o fewn sefydliad sy'n trawsnewid a thirwedd sydd yn newid yn gyflym.

Yn gweithredu fel llysgennad i S4C, byddwch yn ymdrechu i warchod enw da S4C, gyda chyfrifoldeb corfforaethol dros wella’r ffordd mae S4C yn cyfathrebu â rhanddeiliaid a chynulleidfaoedd. Byddwch yn hollbwysig wrth drawsnewid y ffordd maent yn ymwneud a’n cynnwys ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Byddwch yn cyfathrebu'n rhagweithiol flaenoriaethau S4C ar y cyd ag eraill, ar draws yr holl gyfryngau, gan ddangos effaith a dealltwriaeth glir o ystyriaethau gwleidyddol a gweithredol.

Byddwch yn chwarae rôl allweddol ar y cyd a’r Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli i ddatblygu strategaeth 5-mlynedd i esblygu proffil S4C a’i ddelwedd ymhellach gyda chynulleidfaoedd newydd sydd yn bodoli yn barod boed yng Nghymru neu yn rhyngwladol. Mi fydd cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid wrth galon y strategaeth.

Bydd y rôl yn rhan o'r Tîm Rheoli ac yn adrodd i’r Prif Weithredwr.

Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i lefel uwch yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma. 

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Mae hefyd gennym swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol. 

Cyflog: Yn unol â phrofiad 

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.

Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mercher 01 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth 

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod. 

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau