Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau

Grŵp Llandrillo Menai

💰 £26k - £28k 📍 Bangor Ar gau

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae'r Grŵp yn awyddus i benodi Hwylusydd Cymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau dros dro hyd at Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf (gyda phosibilrwydd am estyniad).

Disgrifiad:

Fel aelod o dîm dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai, bydd deiliad y swydd yn ymrwymo i genhadaeth y Grŵp sef ysbrydoli llwyddiant drwy gynnig addysg a hyfforddiant rhagorol ac i werthoedd y Grŵp sef:

- Tegwch 

- Ansawdd 

- Arloesedd 

- Proffesiynoldeb 

Pwrpas y Swydd

Bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol mewn cynyddu’r nifer o ddysgwyr sy’n astudio iechyd a gofal a/neu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau, byddwch yn gweithio gyda staff y colegau a’r tîm dysgu yn y gweithle wrth ddarparu cymorth i diwtoriaid a chefnogi dysgwyr unigol i'w galluogi i gwblhau rhywfaint o'u hastudiaethau yn Gymraeg.

Cyfrifoldebau Cyffredinol yn y Grŵp

- Cyfrannu'n effeithiol at y gwaith o gynnig profiadau dysgu a hyfforddi o ansawdd uchel i bob dysgwr, gan ddarparu gwasanaethau mewn modd priodol ac ymatebol sy'n cyrraedd y safon uchaf bosibl o ran gofalu am gwsmeriaid. 

- Bod yn ymwybodol o holl bolisïau, gweithdrefnau, arferion gwaith a rheoliadau'r coleg, a gweithio'n unol â hwy fel y bo'n berthnasol. Yn benodol, cydymffurfio â Chynllun Cydraddoldeb, Polisi Diogelu, Rheoliadau Ariannol, Polisi Iechyd a Diogelwch a Chod Ymddygiad Grŵp Llandrillo Menai.

- Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill ar adegau prysur yn ystod y broses dderbyn. 

- Ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad staff priodol i'ch cynorthwyo i gyflawni'ch dyletswyddau a darparu gwasanaethau'n effeithiol.   Dyletswyddau Penodol

- Cynorthwyo Grŵp Llandrillo Menai i sicrhau ansawdd uchel mewn darpariaeth dwyieithog ar draws y cwricwlwm. 

- Cydweithio â’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid i adnabod dysgwyr Cymraeg eu hiaith a fyddai'n elwa o hyfforddiant/cymorth ychwanegol i gwblhau elfennau o'u hastudiaethau yn Gymraeg.

- Gweithio gyda’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid a i gynllunio cymorth un i un a sesiynau grwpiau bach a fydd yn helpu dysgwyr i gwblhau elfennau o’u cyrsiau yn Gymraeg. 

- Cynllunio a chyflwyno sesiynau adolygu ar gyfer grwpiau bach o ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer asesiadau cyfrwng Cymraeg a sefyll arholiadau yn hyderus. 

- Cydgysylltu â dysgwyr sy’n siarad Cymraeg a darparu sesiynau mentora / cymorth i’w helpu i ailgysylltu a deall pam mae’r Gymraeg yn bwysig ar gyfer dilyniant, addysg uwch a chyflogaeth. 

- Cadw cofnodion cywir o bresenoldeb mewn sesiynau mentora / cymorth. 

- Monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr drwy gofnodi cyflawniadau yn erbyn amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw. 

- Cefnogi dysgwyr i weithio’n annibynnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

- Cyfeirio dysgwyr at, ac annog nhw i ddefnyddio, adnoddau sy’n eu galluogi i wella neu datblygu eu sgiliau Cymraeg, a’u helpu i gyflawni gwaith yn y Gymraeg.

- Cefnogi tiwtoriaid i ymgorffori'r Gymraeg yn eu harfer.

- Mynychu cyfarfodydd cyson gyda phartneriaid a chyfarfodydd tîm.

- Hyrwyddo gwaith Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chydweithio â’r swyddogion cangen a llysgenhadon.

- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gydnaws â’r swydd ar gais Pennaeth Sgiliaith.

Cyflog

💰 £ 25,569 - £27,747

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau