Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd (gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd)

Prifysgol Aberystwyth

💰 £36k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gyfieithydd (gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg.

**Y rôl **

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o brif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tua 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar [email protected] 

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.

- Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg, ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.

- Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol. Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.

- Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.

- Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth).

- Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.

- Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon.

- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o natur sensitif a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.

- Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.

- Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.

- Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer o bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd ei angen, natur ac amseru’r digwyddiad.

- Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.

- Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.

- Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.

- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.

- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.

Cyflog

💰 £36,386 - £42,155

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau