Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Prosiect (1 FTE)

💰 £21,979 - £23,749 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Prosiect (1 FTE)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle gwych i ymuno â thîm Cyswllt Ffermio i gydlynu a chefnogi’r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru.

Disgrifiad:

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel.     Nod

Cydlynu a chefnogi'r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru gan sicrhau bod targedau'n cael eu cyflawni a bod y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu o'r safon uchaf.   Prif Gyfrifoldebau

·   Cydlynu pob elfen o gadw cofnodion ac adrodd ar gyfer elfennau perthnasol rhaglen Cyswllt Ffermio a gweithredu gwelliannau i brosesau gweinyddu lle bo angen 

·   Darparu cymorth gweinyddu i'r tîm o arweinwyr Agrisgôp i sicrhau bod cofnodion o'u gweithgareddau a'u grwpiau yn cael eu cofnodi a'u dadansoddi i'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen 

·   Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer fframwaith mentoriaid ffermwr i sicrhau bod dyddiaduron ac anfonebau mentora yn cael eu derbyn yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen

·   Ymdrin ag ymholiadau'n ymwneud â'r rhaglen a datblygu asesiad clir a dealltwriaeth o anghenion y ffermwr a'r coedwigwr cyn eu cofrestru gyda'r pecyn cymorth mwyaf priodol

·   Cynorthwyo cwsmeriaid sydd wedi cofrestru gyda'r rhaglen i wneud cais am wasanaethau eraill a fydd yn cefnogi eu dilyniant drwy Cyswllt Ffermio 

·   Cyfathrebu â ffermwyr yn rheolaidd gan weithredu fel prif bwynt cyswllt i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais am fentor, gan eu tywys drwy gydol y broses fentora

·   Gweithio gydag arweinydd y tîm i neilltuo mentoriaid i fentoreion pan fydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno a chyhoeddi'r gwaith papur perthnasol

·   Sicrhau bod yr holl gofnodion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau o'r safonau uchaf ac yn cydlynu coladu adborth cwsmeriaid 

·   Cysylltu ag Arweinwyr yr Academi Amaeth i'w cefnogi gyda threfnu a chynnal dosbarthiadau'r Academi Amaeth

·   Cydlynu proses recriwtio’r Academi Amaeth a hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus

·   Bod yn gyfrifol am archebu lleoliadau, lluniaeth a threfnu cludiant pan fo angen

·   Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau'n rhedeg yn llyfn a rhoi gwerth i gwsmeriaid   ·   Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth cleientiaid ar yr holl gyfranogwyr a'r mynychwyr a sicrhau eu bod yn cael eu lanlwytho i'r gronfa ddata ganolog (BAS)

·   Gweithio'n agos gyda'r Swyddogion Datblygu i sicrhau bod ymholiadau yn ymwneud â gweithgareddau Datblygu a Mentora yn cael eu trin yn unol â hynny

·   Cyflenwi ystadegau cywir ar gyfer yr adroddiadau misol a monitro niferoedd sy'n mynychu gweithgareddau gan sicrhau bod y cronfeydd data a'r systemau canolog (BAS a CMS) yn cael eu diweddaru mewn modd amserol

·   Coladu'r gwaith papur a gyflwynir gan is-gontractwyr a gwirio ei fod yn bodloni'r gofynion angenrheidiol   **Arall **

·   Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni

·   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen    Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

·   Addysg hyd at lefel gradd mewn amaeth neu bwnc perthnasol neu brofiad dangosadwy o weithio yn y sector amaeth yng Nghymru

·   Gallu i asesu a deall yn glir anghenion busnesau fferm/coedwigaeth, y gefnogaeth sydd angen a’i gofynion

·   Sgiliau cydlynu a threfnu rhagorol

·   Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol gwych

·   Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym ac effeithiol

·   Gallu adnabod anghenion y cwsmer a thynnu’r wybodaeth berthnasol i deilwra cyngor i ofynion penodol y cwsmer

·   Cyfathrebu llafar o safon uchel

·   Sgiliau ysgrifenedig dwyieithog cywir

·   Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol

·   Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaethyddiaeth / gwledig

·   Gallu mewnbynnu data’n gywir a chydymffurfio gyda deddfau diogelu data perthnasol

·   Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer

·   Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig

·   Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau ymlaen yn effeithlon

·   Gallu parhau gyda’i waith ei hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm

·  Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

·  Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod

·   Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio

·   Ar gael i weithio gyda’r nos fel y bo’r gofyn   **Dymunol **

·   Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio    Gwneud Cais

Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Einir Davies ar 07985 155 514 neu [email protected]   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023.    Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.   Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.

Cyflog

💰 £21,979 - £23,749

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau