Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Trefnydd C.Ff.I Sir Gâr

Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr

💰 £28k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn edrych am Drefnydd C.Ff.I Sir Gâr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn awyddus i gyflogi Trefnydd i ddarparu rhaglen eang o weithgareddau a datblygu gwaith y ffederasiwn mewn partneriaeth â swyddog gweinyddol, tîm o swyddogion y Sir a’r mudiad yng Nghymru.

Mae angen i’r person yma fod gyda’r gallu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc a meddu ar sgiliau rhyngbersonol, trefniadaeth a chyfathrebu arbennig. Hefyd mae’n rhaid meddu ar y gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm sy’n hyrwyddo gwahanol weithgareddau a phrosiectau o fewn y Sir a thu hwnt.

Mae Sir Gâr yn chwilio am unigolyn deinamig llawn egni i gynnal a datblygu mudiad llwyddiannus C.Ff.I yn Sir Gâr.

Disgrifiad:

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd hon trwy ddychwelyd CV a llythyr cais yn cynnwys y canlynol:

·   Manylion personol.

·   Manylion addysgol a chymwysterau.

·   Aelodaeth o gyrff proffesiynol.

·   Swydd bresennol.

·   Swyddi blaenorol.

·   Profiadau perthnasol.

·   Manylion am unrhyw drosedd i chi gael eich dyfarnu’n euog ohoni.

·   Enw, cyfeiriad a rhif ffôn dau ganolwr.   Dylai’r llythyr cais amlinellu:

·   Eich rhesymau dros geisio am y swydd.

·   Sut y credwch eich bod yn cyflawni’r meini prawf uchod drwy gynnig esiamplau.

·   Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y teimlwch y gallai fod o fantais i chi yn eich cais.

Cyflog

💰 £28,371 - £32,909

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau