Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Archwilio ac Ymchwiliadau

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £22k - £33k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Archwilio ac Ymchwiliadau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae tîm Archwilio ac Ymchwiliadau’r Gronfa am recriwtio Swyddog Ymchwiliadau ar gontract cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth) i ymuno â’r tîm. 

Disgrifiad:

Amdanat ti

Mae tîm Archwilio ac Ymchwiliadau’r Gronfa am recriwtio Swyddog Ymchwiliadau ar gontract cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth) i ymuno â’r tîm. Yn y rôl hon byddwch yn cefnogi gweithgarwch atal twyll y Gronfa drwy gwblhau adolygiadau cychwynnol o atgyfeiriadau achosion posibl o dwyll gan staff ariannu, yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Byddwch yn cynnal ymchwiliadau yn unol â safonau y cytunwyd arnynt ac yn cynorthwyo aelodau presennol y tîm i gynnal ymchwiliadau mwy cymhleth, yn ogystal â helpu codi ymwybyddiaeth o dwyll ar draws y Gronfa a hyrwyddo diwylliant gwrth-dwyll cryf.

Byddai'r rôl yn addas ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn gwaith gwrth-dwyll sy'n mwynhau datrys problemau a chwblhau tasgau gwaith yn drylwyr, yn gywir ac yn gyson.

Gallai fod angen teithio i swyddfeydd eraill a theithio bob deufis i fynychu ein cyfarfodydd tîm.

Math o gytundeb: Cytundeb tymor penodol 12 mis – cyfnod mamolaeth

Oriau: 37 awr yr wythnos, Ystyrir gweithio hyblyg

**Dyddiad y cyfweliad: **Wythnos yn dechrau 20/03/2023

Lleoliad: DU cyfan - Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod unrhyw le yn y DU - mae ein swyddfeydd yn cynnwys Belfast, Birmingham, Caerdydd, Caerwysg, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a'r Drenewydd.

Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi'u lleoli yn Llundain, gofynnir i chi gwblhau cliriad fetio diogelwch cenedlaethol fel y gallwch gael mynediad i'n Swyddfa ar Stryd Marsham. Mae hyn yn golygu pasio gwiriad datgelu a gwahardd a Gwiriad Gwrthderfysgaeth. 

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at: Claire Parkes – [email protected]

**Meini Prawf Hanfodol **

- Bydd gennych brofiad o gynnal ymchwiliadau, archwiliadau mewnol neu weithgareddau gwrth-dwyll eraill ac efallai y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster yn un o'r meysydd hyn.

- Gallu drafftio ac ysgrifennu adroddiadau, llythyrau, e-byst ac eitemau eraill o ohebiaeth yn glir, cryno a chywir.

- Gwybodaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig.

- Sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i weithio fel rhan o dîm bach.

**Meini Prawf Dymunol **

- Dealltwriaeth sylfaenol o brosesau rheoli risg, systemau rheolaeth fewnol a phrosesau llywodraethu corfforaethol.

- Arddangos sgiliau TG cadarn.

- Y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun heb fawr o oruchwyliaeth.

- Sgiliau cynllunio a threfnu cryf.   Cyfle Cyfartal

Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.

Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.

Cyflog

💰 £22,017 – £32,956

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau