Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dylunydd

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £33k - £37k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Ddylunydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am ddylunydd i ymuno â’n Tîm Brand o naw aelod, sy’n cynnwys arbenigwyr cynnwys a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynnwys creadigol sy’n dod â’n hangerdd am gyllid, a chefnogi cymunedau, yn fyw.

Disgrifiad:

Amdanat ti

Rydym yn chwilio am ddylunydd i ymuno â’n Tîm Brand o naw aelod, sy’n cynnwys arbenigwyr cynnwys a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynnwys creadigol sy’n dod â’n hangerdd am gyllid, a chefnogi cymunedau, yn fyw.

Bydd gennych brofiad dylunio mewnol neu asiantaeth, gwybodaeth ddigidol gref a meistrolaeth ar bob math o brint. Byddwch yn gyfarwydd â gweithio gyda chanllawiau brand ac yn gwybod sut i wneud y gorau o hygyrchedd mewn dylunio (WCAG2+).

Byddwch yn ategu ein dau ddylunydd gyda'ch set o sgiliau, fel y gallwch weithio gyda nhw, ond hefyd dod â'ch creadigrwydd eich hun. Bydd gennych brofiad o’r rhan fwyaf o’r rhaglenni hyn, a pharodrwydd i ddysgu’r rhai nad ydych yn gyfarwydd â nhw: Adobe Creative Cloud – Photoshop, InDesign, Premiere Pro neu Premiere Rush, After Effects, Audition, XD Mobile, Animate, rhaglenni AR.

Byddwch yn gweithio ar y cyd o fewn y tîm Brand, gydag adrannau eraill ar draws y Gronfa, yn ogystal ag asiantaethau dylunio allanol a gweithwyr llawrydd.

Math o gytundeb: Cytundeb tymor penodol 12 mis

Oriau: 37 awr yr wythnos – hapus i drafod patrymau gweithio hyblyg

**Dyddiad y cyfweliad: **Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth

Lleoliad: Gweithio hyblyg gan deithio i’r swyddfa leol, a disgwyliad i fynychu cyfarfod misol yn Llundain.

Mae ein swyddfeydd yn y DU yn cynnwys Belfast, Birmingham, Caerdydd, Caerwysg, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a'r Drenewydd.

Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi'u lleoli yn Llundain, gofynnir i chi gwblhau cliriad fetio diogelwch cenedlaethol fel y gallwch gael mynediad i'n Swyddfa ar Stryd Marsham. Mae hyn yn golygu pasio gwiriad datgelu a gwahardd a Gwiriad Gwrthderfysgaeth. 

**Os hoffech chi gael sgwrs cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at [email protected]

Meini Prawf Hanfodol

- Profiad dylunio mewnol neu asiantaeth

- Dylunydd profiadol digidol a phrint

- Sgiliau rheoli rhanddeiliaid hyderus a sgiliau cyfathrebu gwych i sicrhau cysyniadau dylunio llwyddiannus

- Gallu cadw safonau uchel wrth weithio ar sawl prosiect mewn amgylchedd newidiol gyda therfynau amser tynn

Meini Prawf Dymunol

- Profiad o weithio gyda html a dylunio ar gyfer y we

- Gweithio gyda Dylunwyr UX, UI, timau dylunio gwasanaeth a TG

- Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned neu amgylchedd dielw

- Profiad o Hygyrchedd mewn dylunio

Cyfle Cyfartal

Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.

Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.

Cyflog

💰 £33,000 – £36,961

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau