Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfathrebu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ymuno â thîm cyfathrebu prysur sy’n hyrwyddo gwaith S4C, yr unig Ddarlledwr Cyhoeddus Cymraeg yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw mewn rhoi cyhoeddusrwydd i raglenni a gwasanaethau cyhoeddusrwydd i'r cyfryngau a rhanddeiliaid. 

Disgrifiad:

Bydd sgôp eich gwaith yn cwmpasu ehangder arlwy'r sianel gan gynnwys newyddion, drama, chwaraeon, rhaglenni plant a phobl ifanc, adloniant, cerddoriaeth, rhaglenni dogfen a materion cyfoes.

Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys chwilio am gyfleoedd newydd i sicrhau cyhoeddusrwydd fel bod ein cynnwys yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl, arwain a pherchnogi ein hymgyrchoedd a'n prosiectau cyfathrebu a'u goruchwylio ac ysgrifennu a golygu cyfathrebu wrth wneud yn siŵr bod y dôn ar neges yn cyd-fynd â'n strategaeth.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl i lefel uchel yn y Gymraeg a Saesneg gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r rôl yma.

Manylion eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn. 

Cyflog: O gwmpas £29,500 y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r cyflog.

**Oriau gwaith: **35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

**Cytundeb: **Parhaol

Cyfnod prawf: 6 mis

**Gwyliau: **35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

**Pensiwn: **Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

**Ceisiadau **

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Sul 05 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau