Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Arweinydd Prosiect – Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £41k pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Arweinydd Prosiect – Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru'n cydweithio ar brosiect pwysig i wella ansawdd dysgu creadigol yn ysgolion Cymru. Pennwyd rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch yn Dysgu Creadigol trwy'r Celfyddydau – cynllun gweithredu i Gymru. 

Pennodd y Cynllun strategaeth weithredu ar y cyd sydd wedi galluogi Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru i gydweithio i roi argymhellion adroddiad yr adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg (Smith 2013) ar waith. Mae'r cynllun wedi gweithredu'n effeithiol dros yr 8 mlynedd rhwng 2015 a 2023 ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru hyd at 2025. 

Am Arweinwyr Prosiect

Mae yna 6 Arweinydd Prosiect (gan gynnwys y swydd wag hon) a rhyngddynt maent yn cwmpasu amrediad y dyletswyddau a ddisgrifir yn y disgrifiad swydd. Maent yn gynorthwyo Rheolwr y Rhaglen wrth ddatblygu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r rhaglen Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau, a’i chyflwyniad llwyddiannus. I gael disgrifiad llawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd. 

Amdanoch chi

Bydd gennych chi angerdd dros y celfyddydau ac addysg a’r weledigaeth i reoli a gweithredu mentrau sy’n datblygu cynllun dysgu’r Celfyddydau a Chreadigol. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n dda a chydweithwyr â rhanddeiliaid a gweithio mewn perthynas â’r bydd Addysg, byd y Celfyddydau a/neu dysgu creadigol. Yn ddelfrydol, bydd gennych hefyd wybodaeth gadarn am dechnegau rheoli prosiect a dulliau sicrhau ansawdd. 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar ffurf Word. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat gwahanol e.e. nodyn fideo neu lais, cysylltwch â ni yn gyntaf.

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith.

Dyddiad cau: 12yp, 23 Mawrth 2023

Cyfweliadau (dros fideo): 6 Ebrill 2023

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. 

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Cyflog

💰 £40,561 pro rata

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau