Cymhorthydd Hamdden Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
Mae Byw'n Iach yn edrych am Gymhorthydd Hamdden Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Paul Williams ar 01766 512711
Cynnal cyfweliadau 30/03/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU 23/03/2023.
Pwrpas y swydd
Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw i’r sawl sy’n defnyddio’r Canolfannau Hamdden a’r gymuned ehangach.
Sicrhau bod y sawl sy’n ymweld â’r Ganolfan yn gallu ei ddefnyddio’n ddiogel, tra’n cynnig gofal cwsmer o safon uchel.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer.
•Paratoi offer a chyfleusterau trwy osod offer i fyny a’i dynnu i lawr fel bo angen.
•Cynnal a chadw rhestrai, glanhau a pharatoi cyfleusterau fel gall y cyhoedd eu mwynhau yn ddiogel.
•Trin arian a chynorthwyo gyda rhedeg system archebu’r Canolfan Hamdden.
Prif ddyletswyddau
•Cyflwyno rhaglenni o weithgareddau mewn dull ysgogiadol ac ysbrydoledig fel y cytunwyd gan y Rheolwr Ardal/Rheolwr ar Ddyletswydd.
•Cyflwyno rhaglen o weithgareddau nofio gan ddarparu cyfarwyddyd cymwys a diogel, sy’n defnyddio sgiliau sy’n cael eu cydnabod yn sefydledig gan y Gymdeithas Nofio Amatur, ynghyd a dilyn llwybr nofio Pasbort Dwr Cymru.
•Sicrhau fod y drefn anwytho yn y gampfa o safon uchel ac yn ysgogi cwsmeriaid i ddychwelyd i’r Ganolfan yn rheolaidd.
•Hybu pecynnau ffitrwydd y Ganolfan i’r cwsmeriaid ynghyd â throsi sgyrsiau cychwynnol gyda chwsmeriaid i mewn i werthiant.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid er mwyn adnabod eu hamcanion a’u dyheadau ynglŷn â dilyn ffordd iach o fyw.
•Cefnogi’r cwsmeriaid trwy nifer o ddulliau i’w ysgogi a’u hysbrydoli i fyw yn iach.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid a’r darpar gwsmeriaid er mwyn adnabod pa dechnegau marchnata sy’n fwyaf effeithiol i ddefnyddio.
•Ymgymryd â dyletswyddau’r dderbynfa fel bo’r angen.
•Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan hyrwyddo’r berthynas rhwng y Ganolfan a’r cwsmer ar bob achlysur.
•Sicrhau bod glendid y Ganolfan o safon uchel, yn ôl canllawiau’r Ganolfan.
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu goruchwylio’n ddiogel mewn ffordd gwrtais a boneddigaidd.
•Sicrhau ffyniant y Ganolfan drwy gynnig adborth a syniadau newydd ar sut i wella’r gwasanaeth.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid hynny ar raglenni arbennig o fewn y Ganolfan, e.e. NERS, er mwyn sicrhau fod y llwybr dilyniant ar ôl gorffen y rhaglenni yn un esmwyth i’r cwsmer.
•Hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn y Ganolfan gan ddefnyddio’r iaith fel yr un cyntaf yn y gweithlu.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cwmni.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Cymrydrhan yn Rhaglen Hyfforddi’r Ganolfan pan fo angen a bod yn gyfrifol am ddiweddaru cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.
•Dylai deilydd y swydd fod yn hyblyg ynghylch patrwm/shifftiau gwaith.
•Bydd angen gweithio shifftiau yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar ben wythnosau.
•Telir lwfans ychwanegol pan yn darparu sesiynau ffitrwydd/nofio.
•Mae’r Gyfadran yn rhedeg rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu medrau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso er mwyn cyfrannu tuag at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Nodweddion personol
Hanfodol
•Brwdfrydig
•Gallu i ysgogi eraill
•Meddyfryd i allu ‘gweld gwaith’, yn lle aros am gyfarwyddid
•Gofal cwsmer o safon uchel
•Gonestrwydd
•Barod i ddysgu a chadw meddwl agored
•Gallu i weithio o fewn tîm yn effeithiol
•Gallu i weithio’n annibynnol o dan oruchwyliaeth gyfyngedig
•Brwdfrydedd i eisiau cyfrannu i weithgareddau’r ganolfan, drwy gynnig dosbarthiadau ffitrwydd/gweithgareddau.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Safon gyffredinol dda o addysg.
Dymunol
•BTEC (neu gyfystyr) mewn Gwyddor Chwaraeon/Hamdden/Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
•Lefel 2 Hyfforddwr Gampfa, gyda modiwlau arbenigol, fel Sbin, Ymarfer Cylchol, Kettlebells
•Cymhwyster Achub Bywyd Pwll Cenedlaethol (canolfan gwlyb)
Dymunol
•Profiad blaenorol o weithio yn y maes hamdden/chwaraeon/iechyd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau rhifedd a llythrennedd o safon da
•Gwybodaeth eang o iechyd a ffitrwydd er mwyn gallu cyfathrebu hyn gyda chwsmeriaid
•Sgiliau cwsmer arbennig
•Sgiliau gwerthu da
•Sgiliau negodi da
•Gwybodaeth am Gyfweliadau Ysgogol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.
Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.
Cyflog
💰 £19,266 - £19,650
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Grantiau a Monitro
Mae Mantell Gwynedd yn edrych am Swyddog Grantiau a Monitro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd Mantell Gwynedd yn gweinyddu Cronfa Sector Wirfoddol gwerth £1.5m sydd yn rhan o’r Gronfa Ffyniant Bro (Shared Prosperity Fund)
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig fydd yn gweithio fel Swyddog Grantiau a Monitro ar gyfer y Gronfa hon.
Dyma gyfle cyffrous i fod yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol ac unigolion ar draws Gwynedd.
Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar a hwyliog Mantell Gwynedd gyda chyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau yng Ngwynedd.
Disgrifiad:
Oriau : Swydd 3 diwrnod yr wythnos (21 awr)
**Lleoliad : **Hyblyg – mae gennym swyddfeydd yng Nghaernarfon a Dolgellau a gallwch weithio yn rhannol o adref hefyd. Rydym yn fodlon bod yn hyblyg iawn er mwyn cefnogi’r unigolyn cywir.
**Cyflog : **Graddfa Cenedlaethol NJC Pwynt 19 £27,852 (pro rata)
Cyfnod : 2 flynedd
Dyddiad cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 3ydd Ebrill 2023
Cyflog
💰 £27,852 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cynlluniau Gofal Gwyliau
Mae Menter Caerdydd yn edrych am Swyddog Cynlluniau Gofal Gwyliau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cydlynu Cynlluniau Gofal Menter Caerdydd yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol (pob gwyliau ysgol oni bai am y Nadolig).
Disgrifiad:
Cyfrifoldeb dros reoli holl drefniadau amserlennu, adnoddau, cyllid a staffio y Cynlluniau Gofal.
Cyflog
💰 £23,481 - £27,222 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Climate Cymru
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Climate Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Climate Cymru (https://climate.cymru/) yn fudiad o filoedd o unigolion, ac yn rhwydwaith o gannoedd o sefydliadau o bob sector yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd a natur yn gofyn am weithredu brys a theg. Rydym yn credu y dylai gweithredu gael ei lywio gan wyddoniaeth a lleisiau pobl ar draws Cymru.
Mae Climate Cymru yn canolbwyntio ar effaith, yn ddeinamig, ac yn gyfrwng pwerus dros newid yng nghymdeithas Cymru.
Rydym:
- Yn rhoi pwysau ar y rheini sydd â phŵer i wneud newidiadau pwysig.
- Yn ymgysylltu'n gynhyrchiol â Llywodraeth Cymru.
- Yn ysbrydoli a chysylltu ein rhwydwaith.
- Yn rhannu gwybodaeth a chyfleoedd pwysig gyda chymdeithas yng Nghymru.
- Yn dysgu gan leisiau o bob rhan o Gymru, ac yn gwneud yn siŵr bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed a'u cynrychioli.
Crynodeb o’r Rôl
Bydd y cynorthwyydd yn rhan ganolog o ystod eang o weithgareddau Climate Cymru, a bydd yn cefnogi rheolwr Climate Cymru i sicrhau newid gwirioneddol dros yr hinsawdd, natur a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau trefnu sylweddol a'r gallu i gyflawni agweddau gweinyddol Climate Cymru, gan gynnwys rheoli e-byst Climate Cymru.
Rhan greiddiol o'r rôl yw sicrhau bod Climate Cymru yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) yn ein holl gyfathrebu allanol yng Nghymru. Bydd y cynorthwyydd yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn helpu gyda chyfieithu'r holl allbwn dydd-i-ddydd.
Cyflog
💰 £23,059 pro rata
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd y Gymraeg
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Gydlynydd y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Eich gwaith...
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu a gweithredu Polisi Iaith Gymraeg yr Amgueddfa yn unol â’r gofynion a osodir arnom gan Safonau’r Gymraeg, gan fynd tu hwnt i gydymffurfiaeth ble bynnag y bo modd. Byddwch hefyd yn rheoli gwaith cyfieithu (Cymraeg–Saesneg, a Saesneg–Cymraeg) yr Amgueddfa, yn cyfieithu ac yn cynghori ar gyfieithu i ieithoedd eraill yn ôl y galw.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 17 Mawrth erbyn 5pm
Dyddiad Cyfweliad: 29 Mawrth
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £29,116 - £35,627
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Cymunedau
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Cefnogi Cymunedau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd
•Cefnogi Rheolwyr Cyngor Gwynedd i adnabod cyfleoedd perthnasol i ymgysylltu a chydweithio gyda phartneriaid o fewn cymunedau’r sir.
•Cefnogi cymunedau i fanteisio ar gyfleoedd sydd yn codi yn cynnwys rhai sydd yn codi yn sgil Cynlluniau Strategol Cyngor Gwynedd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Swyddog Cefnogi Cymunedau – GWASANAETH Economi a Chymuned
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rhian Elin George ar 01286 882968.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau 30/03/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
**E-Bost: **[email protected] **DYDDIAD CAU: **10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 23/03/2023. Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £30,151 - £32,020
Lleoliad
📍 Dolgellau
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Personol a Gweinyddwr Cyffredinol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gynorthwyydd Personol a Gweinyddwr Cyffredinol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth cynorthwyydd personol i Ddeon y Coleg yn ogystal â chefnogaeth weinyddol gyffredinol ar gyfer gweithgareddau ledled y coleg.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg hyd at 2 AS neu 1 Lefel A neu NVQ Lefel III (neu gyffelyb) a phrofiad o weithio mewn swydd weinyddol, ym maes addysg yn ddelfrydol. Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da yn hanfodol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
**Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: **20 Mawrth 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Etholaeth
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Etholaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti'n chwilio am swydd ddiddorol ac amrywiol, ble galli di wneud gwahaniaeth i fywyd pobol Ceredigion?
Mae Elin Jones AS yn chwilio am aelod o staff i ymuno â thîm gweithgar ei Swyddfa Etholaeth yng Ngheredigion. Bydd y swydd yn cynnwys siarad gydag etholwyr y sir, i'w helpu i ddatrys problemau a chyflawni prosiectau. Mae pob diwrnod yn amrywiol, a bydd cyfle i gwrdd â phobl o bob rhan o'r gymdeithas sydd angen cymorth a chefnogaeth.
Byddwn yn darparu hyfforddiant ar systemau a gwaith y swyddfa, ac rydym yn barod iawn i drafod gweithio'n hyblyg, rhannu swydd, a gweithio yn rhannol o gartref.
*Noder os gwelwch yn dda taw swydd tymor benodol 1 blwyddyn yw hon.
Disgrifiad: Prif rôl y Swyddog Etholaeth fydd gweithio'n agos gydag etholwyr Ceredigion i'w cynorthwyo gydag amrywiaeth o broblemau a phrosiectau. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost gyda phobol Ceredigion yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau a chyfleon.
Yn ogystal â chefnogi Elin yn ei swydd, bydd y Swyddog hefyd yn mynychu cyfarfodydd, yn ymchwilio ac yn ymateb i ymholiadau, gan weithio fel rhan allweddol o'r tîm.
Cyflog
💰 £27,450-£38,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hwyluso’r Gymraeg
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn edrych am Swyddog Hwyluso’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sefydlwyd ar 1 Hydref 2018, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Rydym yn eistedd wrth ochr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o safon uchel i bobl Cymru.
Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
• Gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn diwallu anghenion y GIG a phobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol;
• Bod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am weithlu iechyd a Gofal Cymru;
• Comisiynu, dylunio a darparu addysg a hyfforddiant gwerth am arian o ansawdd uchel, yn unol â'r safonau;
• Defnyddio addysg, hyfforddiant a datblygiad i annog a hwyluso datblygiad gyrfaol;
• Cefnogi addysg, hyfforddiant a rheoleiddio gwasanaethau drwy chwarae rôl allweddol wrth gynrychioli Cymru, a gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr;
• Datblygu arweinwyr gofal iechyd heddiw a'r dyfodol;
• Darparu cyfleoedd i'r gweithlu iechyd a gofal ddatblygu sgiliau newydd;
• Hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru, a Chymru fel lle i fyw ynddo;
• Cefnogi proffesiwn datblygu'r gweithlu a'r sefydliad proffesiynol gyda Chymru;
• Gwella'n barhaus yr hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud.
Am ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod ei cyfle am gyflogaeth gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost a gofrestrir ar y ffurflen gais.
Mae'r sefydliad hefyd yn cadw'r hawl i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw adeg o'r broses, er mwyn adleoli staff mewnol i rolau addas.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae rôl barhaol gyffrous, newydd wedi'i chreu o fewn AaGIC i ddarparu rhaglenni gafaelgar ac effeithiol i hyrwyddo a hwyluso defnyddio mwy o'r Gymraeg ar bob lefel o fewn ein gweithlu.
Mae AaGIC yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i helpu hybu'r Gymraeg ymysg cydweithwyr heddiwl - yn ogystal â gweithlu'r dyfodol.
Cyfle cyffrous dros ben i rywun sydd ar dân dros hybu’r Gymraeg! Mae cynnig gwasanaethau i gleifion yn iaith eu dewis yn arwain at ganlyniadau clinigol gwell. Faint o effaith gallwch chi ei gael o ran gwella gwasanaethau Cymraeg ar draws y GIG?
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o Gymru a'i hiaith, gan annog mwy o ddwyieithrwydd ymysg staff, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn gwireddu gweledigaeth Mwy na Geiriau ar draws y GIG yng Nghymru.
I wneud cais, llenwch y ffurflen ar Swyddi'r GIG sy'n gfyn am gynnwys tystiolaeth i gefnogi'r ymddygiadau gofynnol a nodir ym manyleb y person.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £33,706 - £40,588
Lleoliad
📍 Nantgarw
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tîm Marchnata effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i lwyddiant parhaus Grŵp Llandrillo Menai.
Mae gan y Swyddog Cyfathrebu rôl allweddol i'w chwarae yn y tîm drwy sicrhau bod y Grŵp yn cael sylw eang/cadarnhaol yn y wasg a’r cyfryngau, tra hefyd yn cefnogi'r adran gyda chynhyrchu cyhoeddiadau a hysbysebion a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ystod o sgiliau a gwybodaeth i'w alluogi i gyfrannu'n effeithiol i ddarparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu o'r radd flaenaf, yn fewnol ac yn allanol. Yn benodol, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ysgrifennu datganiadau o ansawdd uchel i'r wasg ar gyfer ffynonellau newyddion lleol a rhanbarthol, y wefan ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd naill ai wedi'i lleoli ar gampws y Grŵp ym Mangor neu Llandrillo-yn-Rhos, a bydd disgwyl ymweld â'r campysau eraill yn ôl yr angen.
Yn ogystal, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, y tu mewn a'r tu allan i'r coleg, gyda chyflenwyr a gyda rhanddeiliaid eraill. Bydd hefyd yn cynorthwyo aelodau eraill y Gyfarwyddiaeth Farchnata a Chyfathrebu ac yn ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill ar gais Rheolwr y Tîm Marchnata a Chyfathrebu.
Cyflog
💰 £ 25,569 - £27,747
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Archwilwyr Arweiniol Ariannol
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Archwilwyr Arweiniol Ariannol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Archwilio Cymru am recriwtio Archwilwyr Arweiniol Ariannol parhaol, gyda swyddi gwag cyfredol wedi'u lleoli o fewn ein tîm Gogledd Cymru.
Ydych chi ar hyn o bryd yn gweithio mewn tîm cyllid ond yn chwilio am her newydd neu'n gweithio o fewn archwilio ond hoffech gael her sector newydd?
Os ydych, yna efallai mai ein swydd Archwilydd Arweiniol Ariannol yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Rydym yn chwilio am bobl sy’n gryf iawn eu cymhelliant i fod yn rhan o’n timau egnïol a chydnerth.
Yn bennaf byddwch yn arwain timau wrth ddarparu gwaith archwilio ariannol mewn nifer o gyrff sector cyhoeddus. Efallai y cewch gyfle hefyd i ategu ein gwaith archwilio gwerth am arian a bod yn rhan o ddarparu prosiectau corfforaethol.
Ydych chi'n gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad o oruchwylio a hyfforddi staff? Mae profiad o'r sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol, ond byddwch yn chwaraewr tîm ymroddedig, yn awyddus i wella canlyniadau i ddinasyddion Cymru. Byddwch yn hyderus wrth gynnal perchnogaeth o'ch gwaith eich hun a byddwch yn dod â'ch profiad archwilio cyfrifyddu drwy eich achrediad CCAB.
Mae bod yn WYCH wrth wraidd popeth a wnawn. Mae angen arnom rywun sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus drwy ddoethineb gadarn a sgiliau dadansoddol a chyfathrebu rhagorol.
Pwy yw Archwilio Cymru?
Archwilio Cymru yw'r corff archwilio sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein swyddogaeth yw:
Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.
Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arfer gorau.
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o ategol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.
Rydyn ni'n hyblyg – yn gweithio'n gallach; wrth ddarparu dewisiadau o sut, pryd a lle mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi wrth wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg wrth eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu'n rheoli anableddau.
Mae gennym delerau rhagorol – rydym wir yn poeni am ein pobl ac am ddarparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith trwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (unigryw o wyliau banc cyhoeddus), gallwch hefyd brynu, gwerthu, a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi gwyliau estynedig.
Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl – Rydym yn hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anffurfiol. Mae ein cynllun mentora a hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau Dysgu LinkedIn yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddynt.
Mae gennym Fuddion Rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.
Rydym yn Falch o gael ein Hachredu - Rydym yn gyflogwr teuluoedd sy'n gweithio a Newid 100 balch ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Sut beth yw gweithio mewn Gwasanaethau Archwilio?
Fel Archwilydd Arweiniol Ariannol, byddwch yn gweithio o fewn Gwasanaethau Archwilio. Mae Gwasanaethau Archwilio yn cyflwyno archwiliad ariannol ac archwiliad perfformiad. Mae rôl yr Uwch Archwilydd yn cefnogi cyflwyno archwiliadau ariannol cleientiaid y sector cyhoeddus. Mae ein timau wedi cael eu rhannu'n ddaearyddol ar draws Cymru, Gogledd, Gorllewin a De. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus bortffolio o gleientiaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys llywodraeth ganolog, llywodraeth leol, a'r GIG. Er y byddai profiad yn y sectorau hyn yn fantais, nid yw'n hanfodol a darperir cefnogaeth lawn a hyfforddiant. Mae Arweinwyr Archwilio Ariannol yn rhan o'r tîm rheoli ac yn chwarae rhan allweddol o fewn y tîm archwilio. Er y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus gael sgiliau technegol ardderchog i gyflawni a chefnogi archwiliadau cymhleth, byddant hefyd yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi mwy o aelodau'r tîm iau; y rhan fwyaf o bwy fydd yn gwneud hyfforddiant gyda naill ai ICAEW neu AAT.
Er ein bod yn gweithredu model gweithio hybrid, mae disgwyl i Uwch Archwilwyr fod ar y safle gyda'u timau am o leiaf ddeuddydd yr wythnos.
Canfuwch fwy
Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Clare James neu Mike Whitely ar 029 2032 0500.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 20 Mawrth 2023. Mae Archwilio Cymru yn cadw’r hawl i gau’r hysbyseb hon yn gynnar pe bai’n cael ceisiadau digonol.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV cyfredol ynghyd â llythyr esboniadol o ddim mwy na 1000 o eiriau yn nodi pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.. Yn dilyn rhagdybiaeth o’ch cais ar-lein bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy’n cynnwys cyfweliad panel ac asesiad ysgrifenedig. Caiff yr holl asesiadau a'r cyfweliadau eu cwblhau'n bersonol yn un o’n swyddfeydd Gogledd Cymru yn Abergele neu Gaernarfon.
Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso’r botwm parhau ar ôl cyflwyno’ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi’i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â’n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu [email protected]
Sylwer, nid ydym yn gallu noddi fisas gwaith, os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ni ar [email protected]
Cyflog
💰 £51,675 - £59,979
Lleoliad
📍 Cymru, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gyfieithydd Cymraeg i ymuno â'n Tîm Cyfieithu Corfforaethol arobryn ar gontract am gyfnod penodol o 12 mis.
Fel rhan o dîm egnïol ac ymatebol, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod ein cyfathrebiadau â'r cyfryngau, yn fewnol a rhai digidol yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda thîm cefnogol a chyfeillgar ac rydym yn croesawu ceisiadau gan gyfieithwyr profiadol yn ogystal â myfyrwyr sydd newydd raddio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o'r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol, byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i roi'r egwyddor ar waith y bydd yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn unol â Deddf y Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Chynllun Iaith Gymraeg y sefydliad.
Mae'r swydd hon am gyfnod penodol o 12 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae'n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Amdanom ni
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o'r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol a'n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy'r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu gweithio'n effeithiol i ymateb i anghenion y gwasanaeth o fewn tîm cefnogol a chyfeillgar. Byddem yn croesawu ceisiadau gan gyfieithwyr profiadol yn ogystal â myfyrwyr sydd newydd raddio.
Disgrifiad swydd
Cyfrifoldebau swydd
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb Person
Cymwysterau
Hanfodol
- Gradd perthnasol neu brofiad cyfwerth
Profiad
Hanfodol
- Profiad o reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu
Archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (Gorchymyn Eithriadau) 1975 ac o'r herwydd bydd angen gwneud cais i gael Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a elwid yn flaenorol yn CRB) i archwilio unrhyw gollfarnau troseddol blaenorol.
Tystysgrif Nawdd Haen 2
Croesewir ceisiadau gan geiswyr gwaith sydd angen nawdd Haen 2/gweithiwr crefftus cyfredol i weithio yn y DU a byddant yn cael eu hystyried ochr yn ochr â phob cais eraill. I gael gwybodaeth bellach ewch i wefan Fisâu a Mewnfudo y DU (Yn agor mewn tab newydd).
O 6 Ebrill 2017, bu rhaid i ymgeiswyr Haen 2/gweithwyr crefftus, sy'n gwneud cais am gliriad mynediad i'r DU, gyflwyno tystysgrif cofnodion troseddol o bob gwlad maent wedi preswylio ynddynt yn barhaus neu'n gronnol am 12 mis neu fwy yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae dibynyddion sy'n oedolion (dros 18 mlwydd oed) hefyd yn ddarostyngedig i'r gofyniadhwn.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro/Athrawes (Mathemateg)
Mae E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Athro/Athrawes (Mathemateg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yncynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai argael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Ein bwriad yw iehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael fel bod dewis eang o gymwysterau 14-19 ar gael i’n pobl ifanc, a hefyd i hybu a chefnogi’r ddarpariaeth hwn ar draws Cymru.
Mae e-sgol yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ddysgu Mathemateg Lefel A i grŵp o ddisgyblion o glwstwr o ysgolion, i ddechrau ar 1af o Fedi, 2023. Croesawir ceisiadau gan athrawon profiadol ynghyd ag athrawon newydd gymhwyso.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• angerddol dros ddysgu Mathemateg
• addysgwr rhagorol
• ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eupotensial
• yn meddu ar brofiad o addysgu Mathemateg Lefel A
• yn meddu ar brofiad o addysgu Mathemateg Pellach Lefel A
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’rswydd yma.
Bydd y mwyafrif o’r addysgu yn cael ei wneud trwy Teams gan y bydd disgyblion yn mynychu mwy nag un safle. Golygir hyn nad oes rhaid i’r athro/athrawes fod yn byw ynlleol ond bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i deithioi’r ysgolion hynny’n achlysurol.
Am sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth, mae croeso ichi gysylltu gyda’r Pennaeth, Llifon Ellis ar [email protected]
**Dyddiad cyfweliad: **21.03.23
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn, ewch i'ngwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £28,866 - £44,450 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Prosiect – Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Arweinydd Prosiect – Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru'n cydweithio ar brosiect pwysig i wella ansawdd dysgu creadigol yn ysgolion Cymru. Pennwyd rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch yn Dysgu Creadigol trwy'r Celfyddydau – cynllun gweithredu i Gymru.
Pennodd y Cynllun strategaeth weithredu ar y cyd sydd wedi galluogi Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru i gydweithio i roi argymhellion adroddiad yr adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg (Smith 2013) ar waith. Mae'r cynllun wedi gweithredu'n effeithiol dros yr 8 mlynedd rhwng 2015 a 2023 ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru hyd at 2025.
Am Arweinwyr Prosiect
Mae yna 6 Arweinydd Prosiect (gan gynnwys y swydd wag hon) a rhyngddynt maent yn cwmpasu amrediad y dyletswyddau a ddisgrifir yn y disgrifiad swydd. Maent yn gynorthwyo Rheolwr y Rhaglen wrth ddatblygu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r rhaglen Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau, a’i chyflwyniad llwyddiannus. I gael disgrifiad llawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd.
Amdanoch chi
Bydd gennych chi angerdd dros y celfyddydau ac addysg a’r weledigaeth i reoli a gweithredu mentrau sy’n datblygu cynllun dysgu’r Celfyddydau a Chreadigol. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n dda a chydweithwyr â rhanddeiliaid a gweithio mewn perthynas â’r bydd Addysg, byd y Celfyddydau a/neu dysgu creadigol. Yn ddelfrydol, bydd gennych hefyd wybodaeth gadarn am dechnegau rheoli prosiect a dulliau sicrhau ansawdd.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar ffurf Word. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat gwahanol e.e. nodyn fideo neu lais, cysylltwch â ni yn gyntaf.
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith.
Dyddiad cau: 12yp, 23 Mawrth 2023
Cyfweliadau (dros fideo): 6 Ebrill 2023
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £40,561 pro rata
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dadansoddwr Data (1 FTE)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddadansoddwr Data (1 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
I ddarparu gwybodaeth ansoddol a meintiol i Bennaeth y Canolfan Wasanaeth a'r Cleient yn ôl yr angen. Arwain ar yr arolygon dadansoddi effaith yn ogystal ag ymchwil wedi'i dargedu at rhai nad ydynt yn cymryd rhan yn y rhaglen ar rhai nad ydynt wedi ymuno ar raglen. Prif Gyfrifoldebau
· Cyflawni’r arolwg dadansoddi effaith blynyddol a fydd yn cynnwys;
• Cysylltu â’r arbenigwyr allanol i ddatblygu’r holiadur
• Cyflwyno’r holiaduron
• Casglu data yn barod i’w ddadansoddi
• Dadansoddi data
• Cynhyrchu adroddiad ar y canfyddiadau
· Sicrhau fod terfynau amser a chwestiynau'r holiaduron yn addas ac o ansawdd
· Ymateb i anghenion data gan Reolwyr a Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen a chynhyrchu adroddiadau ad-hoc
· Gweithio gyda’r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth er mwyn darganfod pam nad yw rhai ffermwyr yn ymgysylltu gyda’r prosiect a chynhyrchu adroddiad blynyddol ar y canfyddiadau
· Monitro siwrnai cleientiaid trwy ein gwasanaethau ac adnabod unrhyw dueddiadau
· Dadansoddi data gwerthuso a chreu adroddiadau fel yr angen
· Cynrychioli’r prosiect mewn cyfarfodydd
· Gwirio safonau rheoli ansawdd y prosiect Arall
· Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a thîm mewnol Cyswllt Ffermio, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol (dros y ffôn, e-byst a dulliau eraill i gysylltu â’r tîm)
· Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill fel y bo’n ofynnol
· Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth mewn mathemateg, economeg / busnes, ymchwil ystadegol neu bwnc perthnasol. Neu brofiad yn y maes
· Profiad dangosadwy o gwblhau prosiectau ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau data amrywiol
· Sgiliau mathemategol cryf a’r gallu i ddatblygu datrysiadau creadigol
· Sgiliau cynhwysfawr o ran ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ddata ansoddol a meintiol a’r gallu i gyfleu gwybodaeth yn gywir ac yn gadarn, gan gynnwys cyfathrebu gwybodaeth dechnegol i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol mewn modd clir a chryno
· Sgiliau dehongli a dadansoddi cryf, a’r gallu i drin a gwerthuso setiau data eang i gynhyrchu gwybodaeth reoli sy’n gywir ac o ansawdd uchel
· Person hunan ysgogol a hyblyg, sy’n gallu rheoli sawl tasg ar yr un pryd, a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
· Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythuredig a dadansoddol, yn ogystal â fel rhan o dîm
· Sgiliau cyflwyno a rhyngbersonol clir
· Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
· Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod Dymunol
· Dealltwriaeth a/neu brofiad mewn maes sy’n gysylltiedig â’r sector amaeth
· Profiad o reoli prosiect Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Rhian Jones ar 01970 600 181 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023 Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleous, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.
Cyflog
💰 £27,433 - £32,980
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Rheolwr Cegin
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Ddirprwy Rheolwr Cegin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Gweithio ochr yn ochr efo’r rheolwr, i helpu arwain y tîm a rhedeg ein sefydliad prysur. Arwain gwaith paratoi, coginio a chyflwyno prydau blasus, ffres ar gyfer niferoedd uchel sy’n plesio ein holl gwsmeriaid. Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Antur Edwards (Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn) ar 01678 541 000 neu [email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 13 Mawrth 2023
Dyddiad Cyfweld – 17 Mawrth 2023 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £28,505 - £31,757
Lleoliad
📍 Llanuwchlyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyswllt Busnes
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Reolwr Cyswllt Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma wahodd ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y Rheolwr Cyswllt Busnes yn helpu creu a chynnal cysylltiadau â busnesau a sefydliadau rhanddeiliaid y trydydd sector a’r sector cyhoeddus i sicrhau bod darpariaeth cyrsiau hyblyg yn diwallu eu hanghenion a’u gofynion, gan gyfrannu at dwf economaidd ac ymgysylltu â’r gymuned.
Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar addysg hyd at lefel gradd, a bydd ganddynt brofiad o weithio a chysylltu â busnesau i gyflawni canlyniadau project llwyddiannus yn ogystal â phrofiad o hyrwyddo a marchnata projectau. Mae gallu profedig i feithrin perthnasoedd, rhwydweithiau a phartneriaethau cydweithredol yn hanfodol.
Mae disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Caiff ceisiadau hefyd eu hystyried i gyflawni’r swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd. Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol i Reolwr y Coleg, Sian Peris Owen ([email protected])
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 19 Mawrth 2023. Ymrwymiad i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol - Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid (x4 Swydd)
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn edrych am Swyddog Gweinyddol - Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid (x4 Swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A oes gennych angerdd am wasanaethau cyhoeddus a gwasanaeth i gwsmeriaid, ac ydych chi’n dymunogwneud gwahaniaeth? Os felly, hoffem glywed gennych chi.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA) yn prisio eiddo at ddibenion treth. Mae’r trethi hyn yn ariannugwasanaethau cyhoeddus hanfodol megis ysgolion, ysbytai a lles. Felly, byddech yn gwneudgwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Asiantaeth weithredol CThEF ydym, gyda thua 4,000 o bobl. Ar hyn o bryd, mae angen pobl arnom igyflawni ystod o dasgau prosesu data a thasgau gweinyddol i ategu’r swyddogaethau gweithredol sydd ar waith yng Nghanolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y VOA.
Swydd ddisgrifiad
Rydym yn cynnig y cyfle i rywun sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, ac sydd â sgiliau cyfathrebu ysgrifenediggwych, i ymuno â’n Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Mae’r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid (CSC) yn rhan ganolog o’n gweithrediadau yn y VOA.
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ymdrin ag anghenion ein cwsmeriaid a chynnal enw da’rasiantaeth trwy ddefnyddio’ch sgiliau cyfathrebu rhagorol – a hynny dros y ffôn, ar bapur ac ar e-bost.
Byddwch yn cael y cyfle i gyflawni ystod o ddyletswyddau sydd wrth wraidd ein gweithrediadau, megisateb ymholiadau, gwneud gwaith gweinyddu cyffredinol, a rhoi cymorth dros y ffôn yn y Swyddfa Brisio.
Dylech fod yn hyblyg ac yn barod i addasu ond, yn fwy na dim, dylech fod yn gyfeillgar ac yn gallu rhoiblaenoriaeth i anghenion ein cwsmeriaid.
Gofynion hanfodol
Yn rhugl yn y Gymraeg, sef yn gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf yn sgil profiad blaenorol o weithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
Sgiliau cyfathrebu hyblyg – y gallu i gyfathrebu â gwahanol fathau o bobl sydd ag ystod o anghenion.
Sgiliau gwrando gwych.
Sgiliau bysellfwrdd da.
Gwybodaeth ymarferol am Microsoft Word, Excel ac Outlook. Parodrwydd i ddysgu prosesau newydd, gan ddangos agwedd bositif tuag at y gwaith a’r gweithle.
Pwynt cyswllt ar gyfer ymgeiswyr
Enw: Gareth Williams Ebost: [email protected]
Tîm recriwtio Ebost: [email protected]
Cyflog
💰 £22,524 - £22,524
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Cyfathrebu
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Cyfathrebu i arwain y Tîm Cyfathrebu gan gynnwys staff Gwifren Gwylwyr, er mwyn sicrhau fod eu gwaith yn taro amcanion strategol S4C.
Disgrifiad:
Arweinydd Cyfathrebu
Mae’r S4C yn chwilio am Arweinydd Cyfathrebu i arwain y Tîm Cyfathrebu gan gynnwys staff Gwifren Gwylwyr, er mwyn sicrhau fod eu gwaith yn taro amcanion strategol S4C.
Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw mewn rhoi cyhoeddusrwydd i raglenni a gwasanaethau cyhoeddusrwydd i'r cyfryngau a rhanddeiliaid. Fe fyddwch yn rhoi datganiadau adweithiol ar y cyd â thîm Cyfathrebu yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi cyfathrebu mewnol ar draws S4C i hoelio sylw staff ar draws y sefydliad.
Byddwch yn ymuno â thîm cyfathrebu prysur sy’n hyrwyddo gwaith S4C, yr unig Ddarlledwr Cyhoeddus Cymraeg yng Nghymru. Bydd sgôp eich gwaith yn cwmpasu ehangder arlwy'r sianel gan gynnwys newyddion, drama, chwaraeon, rhaglenni plant a phobl ifanc, adloniant, cerddoriaeth, rhaglenni dogfen a materion cyfoes.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl i lefel uchel yn y Gymraeg a Saesneg gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: O gwmpas £43,000 y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r cyflog.
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
**Gwyliau: **Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
**Pensiwn: **Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau **
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Sul 05 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 £43,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Ddylunydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am ddylunydd i ymuno â’n Tîm Brand o naw aelod, sy’n cynnwys arbenigwyr cynnwys a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynnwys creadigol sy’n dod â’n hangerdd am gyllid, a chefnogi cymunedau, yn fyw.
Disgrifiad:
Amdanat ti
Rydym yn chwilio am ddylunydd i ymuno â’n Tîm Brand o naw aelod, sy’n cynnwys arbenigwyr cynnwys a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynnwys creadigol sy’n dod â’n hangerdd am gyllid, a chefnogi cymunedau, yn fyw.
Bydd gennych brofiad dylunio mewnol neu asiantaeth, gwybodaeth ddigidol gref a meistrolaeth ar bob math o brint. Byddwch yn gyfarwydd â gweithio gyda chanllawiau brand ac yn gwybod sut i wneud y gorau o hygyrchedd mewn dylunio (WCAG2+).
Byddwch yn ategu ein dau ddylunydd gyda'ch set o sgiliau, fel y gallwch weithio gyda nhw, ond hefyd dod â'ch creadigrwydd eich hun. Bydd gennych brofiad o’r rhan fwyaf o’r rhaglenni hyn, a pharodrwydd i ddysgu’r rhai nad ydych yn gyfarwydd â nhw: Adobe Creative Cloud – Photoshop, InDesign, Premiere Pro neu Premiere Rush, After Effects, Audition, XD Mobile, Animate, rhaglenni AR.
Byddwch yn gweithio ar y cyd o fewn y tîm Brand, gydag adrannau eraill ar draws y Gronfa, yn ogystal ag asiantaethau dylunio allanol a gweithwyr llawrydd.
Math o gytundeb: Cytundeb tymor penodol 12 mis
Oriau: 37 awr yr wythnos – hapus i drafod patrymau gweithio hyblyg
**Dyddiad y cyfweliad: **Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth
Lleoliad: Gweithio hyblyg gan deithio i’r swyddfa leol, a disgwyliad i fynychu cyfarfod misol yn Llundain.
Mae ein swyddfeydd yn y DU yn cynnwys Belfast, Birmingham, Caerdydd, Caerwysg, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a'r Drenewydd.
Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi'u lleoli yn Llundain, gofynnir i chi gwblhau cliriad fetio diogelwch cenedlaethol fel y gallwch gael mynediad i'n Swyddfa ar Stryd Marsham. Mae hyn yn golygu pasio gwiriad datgelu a gwahardd a Gwiriad Gwrthderfysgaeth.
**Os hoffech chi gael sgwrs cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at [email protected]
Meini Prawf Hanfodol
- Profiad dylunio mewnol neu asiantaeth
- Dylunydd profiadol digidol a phrint
- Sgiliau rheoli rhanddeiliaid hyderus a sgiliau cyfathrebu gwych i sicrhau cysyniadau dylunio llwyddiannus
- Gallu cadw safonau uchel wrth weithio ar sawl prosiect mewn amgylchedd newidiol gyda therfynau amser tynn
Meini Prawf Dymunol
- Profiad o weithio gyda html a dylunio ar gyfer y we
- Gweithio gyda Dylunwyr UX, UI, timau dylunio gwasanaeth a TG
- Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned neu amgylchedd dielw
- Profiad o Hygyrchedd mewn dylunio
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £33,000 – £36,961
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Archwilio ac Ymchwiliadau
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Archwilio ac Ymchwiliadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tîm Archwilio ac Ymchwiliadau’r Gronfa am recriwtio Swyddog Ymchwiliadau ar gontract cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth) i ymuno â’r tîm.
Disgrifiad:
Amdanat ti
Mae tîm Archwilio ac Ymchwiliadau’r Gronfa am recriwtio Swyddog Ymchwiliadau ar gontract cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth) i ymuno â’r tîm. Yn y rôl hon byddwch yn cefnogi gweithgarwch atal twyll y Gronfa drwy gwblhau adolygiadau cychwynnol o atgyfeiriadau achosion posibl o dwyll gan staff ariannu, yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Byddwch yn cynnal ymchwiliadau yn unol â safonau y cytunwyd arnynt ac yn cynorthwyo aelodau presennol y tîm i gynnal ymchwiliadau mwy cymhleth, yn ogystal â helpu codi ymwybyddiaeth o dwyll ar draws y Gronfa a hyrwyddo diwylliant gwrth-dwyll cryf.
Byddai'r rôl yn addas ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn gwaith gwrth-dwyll sy'n mwynhau datrys problemau a chwblhau tasgau gwaith yn drylwyr, yn gywir ac yn gyson.
Gallai fod angen teithio i swyddfeydd eraill a theithio bob deufis i fynychu ein cyfarfodydd tîm.
Math o gytundeb: Cytundeb tymor penodol 12 mis – cyfnod mamolaeth
Oriau: 37 awr yr wythnos, Ystyrir gweithio hyblyg
**Dyddiad y cyfweliad: **Wythnos yn dechrau 20/03/2023
Lleoliad: DU cyfan - Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod unrhyw le yn y DU - mae ein swyddfeydd yn cynnwys Belfast, Birmingham, Caerdydd, Caerwysg, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a'r Drenewydd.
Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi'u lleoli yn Llundain, gofynnir i chi gwblhau cliriad fetio diogelwch cenedlaethol fel y gallwch gael mynediad i'n Swyddfa ar Stryd Marsham. Mae hyn yn golygu pasio gwiriad datgelu a gwahardd a Gwiriad Gwrthderfysgaeth.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at: Claire Parkes – [email protected]
**Meini Prawf Hanfodol **
- Bydd gennych brofiad o gynnal ymchwiliadau, archwiliadau mewnol neu weithgareddau gwrth-dwyll eraill ac efallai y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster yn un o'r meysydd hyn.
- Gallu drafftio ac ysgrifennu adroddiadau, llythyrau, e-byst ac eitemau eraill o ohebiaeth yn glir, cryno a chywir.
- Gwybodaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i weithio fel rhan o dîm bach.
**Meini Prawf Dymunol **
- Dealltwriaeth sylfaenol o brosesau rheoli risg, systemau rheolaeth fewnol a phrosesau llywodraethu corfforaethol.
- Arddangos sgiliau TG cadarn.
- Y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun heb fawr o oruchwyliaeth.
- Sgiliau cynllunio a threfnu cryf. Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £22,017 – £32,956
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Trefnydd C.Ff.I Sir Gâr
Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn edrych am Drefnydd C.Ff.I Sir Gâr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn awyddus i gyflogi Trefnydd i ddarparu rhaglen eang o weithgareddau a datblygu gwaith y ffederasiwn mewn partneriaeth â swyddog gweinyddol, tîm o swyddogion y Sir a’r mudiad yng Nghymru.
Mae angen i’r person yma fod gyda’r gallu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc a meddu ar sgiliau rhyngbersonol, trefniadaeth a chyfathrebu arbennig. Hefyd mae’n rhaid meddu ar y gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm sy’n hyrwyddo gwahanol weithgareddau a phrosiectau o fewn y Sir a thu hwnt.
Mae Sir Gâr yn chwilio am unigolyn deinamig llawn egni i gynnal a datblygu mudiad llwyddiannus C.Ff.I yn Sir Gâr.
Disgrifiad:
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd hon trwy ddychwelyd CV a llythyr cais yn cynnwys y canlynol:
· Manylion personol.
· Manylion addysgol a chymwysterau.
· Aelodaeth o gyrff proffesiynol.
· Swydd bresennol.
· Swyddi blaenorol.
· Profiadau perthnasol.
· Manylion am unrhyw drosedd i chi gael eich dyfarnu’n euog ohoni.
· Enw, cyfeiriad a rhif ffôn dau ganolwr. Dylai’r llythyr cais amlinellu:
· Eich rhesymau dros geisio am y swydd.
· Sut y credwch eich bod yn cyflawni’r meini prawf uchod drwy gynnig esiamplau.
· Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y teimlwch y gallai fod o fantais i chi yn eich cais.
Cyflog
💰 £28,371 - £32,909
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Cynaladwyedd
Mae Grŵp Ymgynghori Lafan yn edrych am Ymgynghorydd Cynaladwyedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â ni yn Grŵp Ymgynghori Lafan i ychwanegu gwerth i’n cleientiaid a’u cefnogi i wireddu eu cynlluniau. “Gwireddu gyda'n gilydd.”
Disgrifiad:
Rydym yn chwilio am unigolyn blaengar, sy’n rhannu ein brwdfrydedd a’n hangerdd i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig.
**Rydym yn cynnig: **
Oriau gwaith hyblyg o’ch cartref.
Cyfle i gynnig eich arbenigedd er budd cleientiaid Lafan.
Cefnogaeth reolaidd i'ch arwain a’ch dysgu am yr economi wledig.
Cyfle i fod yn rhan o’r uchelgais i gefnogi busnesau a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru i ffynnu.
Gweithio fel rhan o dîm sydd am weld economi wledig gref a phawb ar hyd y gadwyn gyflenwi yn llwyddo.
E-bostiwch [email protected] am fanylion llawn, neu ffoniwch 01248 665 624.
**Closing Date: **24.04.2023
Cyflog: £36,000 - £40,000 y flwyddyn yn ddibynnol ar brofiad perthnasol
Swydd llawn amser (40 awr yr wythnos). Rydym yn agored i geisiadau i weithio’n rhan amser.
Cyflog
💰 £36,000 - £40,000
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr cymunedol mwyaf y DU. Rydym yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol sy’n dod â syniadau ac uchelgeisiau pobl yn fyw. Rydym yn cefnogi ystod eang o brosiectau iechyd, addysgol, amgylcheddol ac elusennol gyda grantiau’n amrywio o gyn lleied â £500 i raglenni gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd 86% o'n grantiau newydd am lai na £10k.
Mae arian y Loteri Genedlaethol yn agored i bawb, ac mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r grwpiau lleiaf ar lawr gwlad hyd at elusennau mawr ledled y DU.
Mae cyfle wedi codi i ddau Swyddog Gwybodaeth a Dysgu parhaol llawn amser i ymuno â’n tîm yng Nghymru i gefnogi cydweithwyr, deiliaid grant a rhanddeiliaid i rannu, creu a defnyddio Gwybodaeth a Dysgu yn effeithiol drwy:
- Cefnogi datblygiad ein rhaglenni grant a dangos eu heffaith i’n rhanddeiliaid
- Ein helpu i ddeall ac ymateb i anghenion cymunedau ledled Cymru
- Cynnal gweithgareddau sy'n rhannu ac yn cyfnewid Gwybodaeth a Dysgu i gefnogi ein gwaith ni a gwaith eraill.
- Yn ogystal â defnyddio Gwybodaeth a Dysgu i lywio polisi ac arferion o fewn a thu allan i'r Gronfa, byddwch hefyd yn hwyluso gweithgareddau dysgu ar gyfer staff, deiliaid grant a rhanddeiliaid. Byddwch yn arwain gweithgarwch o amgylch ein themâu dysgu blaenaf ac yn cefnogi ein tri thîm rhanbarthol yng Nghymru i wneud hynny hefyd. Byddwch hefyd yn sganio'r amgylchedd allanol i gael gwybodaeth am yr hyn y mae eraill yn ei wneud.
Gan dynnu ar eich gwybodaeth am bolisi, a’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, byddwch yn cynghori cydweithwyr a phenderfynwyr am sut y gall ein cyllid gael yr effaith fwyaf.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth
**Lleoliad: **Caerdydd neu’r Drenewydd
Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu'r Drenewydd.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: [email protected]
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau ymchwil a dadansoddi
- Y gallu i ysgrifennu a siarad am syniadau a gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddifyr a syml
- Sgiliau hwyluso – profiad o gynnull a hwyluso trafodaethau lle mae pobl yn rhannu ac yn trafod syniadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
- Wedi’ch ysgogi gan werthoedd ac yn angerddol dros bwrpas y Gronfa
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amgylchedd polisi Cymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth am y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac ymdrin â blaenoriaethau cystadleuol lluosog o fewn tîm bach
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £25,019 - £28,399
Lleoliad
📍 Caerdydd, Y Drenewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!