Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Fideograffydd

Rondo

💰 Yn ôl profiad 📍 Porthaethwy📍 Llangefni Ar gau

Mae Rondo yn edrych am Fideograffydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Grŵp Rondo Media yn chwilio am Fideograffydd i gynllunio, saethu a golygu cynnwys ar gyfer ein platfformau digidol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig, creadigol gyda’r weledigaeth a’r gallu technegol i fynd â phrosiect o’r syniad cychwynol drwodd i’w gyhoeddi ar amrywiol lwyfannau.

Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys:

- Gweithio’n agos gydag adran olygyddol Rownd a Rownd i adnabod cyfleon i dyfu’r brand arlein

- Creu, datblygu, saethu a golygu cynnwys sy’n apelgar i’n cynulleidfa arlein, ar ba bynnag blatfform

- Adnabod targedau ar gyfer gwahanol lwyfannau a rhoi camau yn eu lle i’w cyrraedd

- Ymchwilio tueddiadau digidol ar draws llwyfannau amrywiol ac ymateb yn gyflym i fanteisio arnynt

- Dod yn gyfarwydd â chynnwys Rondo gan fod yn barod i awgrymu strategaeth ddigidol i fynd law yn llaw â hynny

- Tyfu dealltwriaeth o gynulleidfa ein brandiau, a sut y mae’r gynulleidfa yna yn amrywio o blatfform i blatfform, gan gynllunio cynnwys yn benodol i garfannau arbennig

- Sicrhau fod popeth sy’n cael ei gyhoeddi yn weddus i’r brand dan sylw

- Cynnig syniadau a bod â’r gallu i weithio law yn llaw â chynhyrchiadau i fynd a’r syniadau yna drwy bob cam o’r broses gynhyrchu

Byddwch:

- Yn gyfarwydd â meddalweddau golygu fideo megis Premiere Pro

- Yn hyderus wrth ddefnyddio camerâu, yn benodol camerâu DSLR neu mirrorless

- Ag ymwybyddiaeth o offer recordio sain syml

- Â phrofiad o saethu ar gyfer fideos cymhareb agwedd (aspect ratio) amrywiol

- Yn greadigol, gydag angerdd tuag at greu cynnwys o’r safon uchaf

- Yn gallu creu deunydd mewn amryw o steiliau gwahanol gan fod yn ysgafn neu ddwys yn ôl y galw

- O fewn rheswm, yn hyblyg i ymateb i ddigwyddiadau penodol arlein 

- Yn gallu cyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

**Cytundeb: **12 mis

**Lleoliad: **Porthaethwy/Llangefni

**Cyflog: **Yn ddibynnol ar brofiad

**Oriau Gwaith arferol: **0900 – 1700 Llun i Gwener, gall yr oriau amrywio ar adegau 

**Dyddiad cau: **Ebrill 6ed 2023

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Porthaethwy, Llangefni

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau