Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Cynrychiolaeth

Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Mae Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor yn edrych am Gydlynydd Cynrychiolaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser barhaol uchod yn gweithio yn Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig i weithio yn adran Datblygu Aelodaeth Undeb Bangor fel Cydlynydd Cynrychiolaeth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Sabothol etholedig Undeb y Myfyrwyr ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn yr Undeb, gan gynnwys Cynrychiolwyr Cwrs, y Cyngor Myfyrwyr, etholiadau a pholisi a gweithgarwch cynrychioliadol UMCB.

Byddwch wedi cael addysg i safon Lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) a byddwch yn gweithio fel rhan o'r Tîm Llais Myfyrwyr ac yn gyfrifol am gydlynu a chefnogi'r gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn unol ag amcanion strategol yr Undeb.

Mae hon yn rôl mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg a medru addasu. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn maes cynrychioliadol a democrataidd a chyda dealltwriaeth dda o faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Byddai profiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a gallu i ffynnu mewn sefyllfa waith gyflym ei naws dan arweiniad myfyrwyr yn fantais. 

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib. 

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dangos ymrwymiad i ddysgu hyd at safon benodedig, yn hanfodol i'r swydd hon.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. 

Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 20 Mawrth 2023.

Dyddiad y cyfweliad: 29 Mawrth 2023.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £24,285 - £27,131

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau