Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Is-gadeirydd

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Is-gadeirydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?

Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:

·   ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;

·   profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu aml-ddisgyblaethol;

·   y gallu i ddangos eu hymrwymiad at ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio;

·   ymrwymiad profedig i gynyddu amrywiaeth, a hyrwyddo llesiant, cynhwysiant a chydraddoldeb.

Mae’r rôl hon yn wirfoddol, fodd bynnag, bydd yr holl dreuliau rhesymol yr aed iddynt yn cael eu had-dalu. Darperir hyfforddiant a sesiynau cynefino priodol, a bydd cymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd yr Is-gadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, [email protected] neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, [email protected]

Ymrwymiad: Isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.

Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd Cadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.

Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy'n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio [email protected] i roi gwybod iddyn nhw.

Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.

Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.

Cyflog

💰 Mae swydd yr Is-gadeirydd yn swydd ddi-dâl ond caiff pob ymddiriedolwr hawlio costau teithio a chynhaliaeth.

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau