Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cyrsiau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £35k - £41k 📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Rheolwr Cyrsiau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Disgrifiad: Teitl y Swydd: Rheolwr Cyrsiau Math o gontract:  Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) Graddfa: Gweithredol 6 - £34,866 - £40,685 y flwyddyn Lleoliad: Gwersyll Llangrannog    Amdanom ni Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol. Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.   Y Swydd Croesawir dros 23,000 o blant a phobol ifanc i Wersyll yr Urdd Llangrannog yn flynyddol. Bydd y swydd yn gyfrifol am drefnu rhaglen ac amserlenni wythnosol a phenwythnos grwpiau sydd yn ymweld ar Gwersyll, gan sicrhau lefel uchel o ofal cwsmer.   Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones (Cyfarwyddwr Gwersyll) ar 01239 652140 neu [email protected]   Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau – 8 Medi 2023 Dyddiad Cyfweld – 21 Medi 2023   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.

Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Ffurflen Gais

Ffurflen Cyfle Cyfartal

Swydd Ddisgrifiad

Cyflog

💰 £34,866 - £40,685 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau