Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

💰 £31,210 - £38,160 📍 Caerdydd📍 Caernarfon +2 Ar gau

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd

Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos

Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn

Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun

Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)

Pwrpas

Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.

Dyletswyddau craidd

  • Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
  • Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
  • Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
  • Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
  • Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
  • Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
  • Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
  • Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
  • Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
  • Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
  • Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
  • Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
  • Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
  • Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.

Cyflog

💰 £31,210 - £38,160

Lleoliad

📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Bethesda Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24k - £28k 📍 Hyblyg📍 Castell Brychan Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 O gartref📍 Teithio ledled Cymru Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,344 - £30,151 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau