Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)

💰 £43,434 - £51,799 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rheolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)

Abertawe am gyfran o’r wythnos waith (gyda theithio i leoliadau eraill yn ôl yr angen)

£43,434 - £51,799 pro rata y flwyddyn

AMDANOM NI

- Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, sy’n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Rydym yn cynnig addysgu arloesol, offer a chyfarpar o’r radd flaenaf a chefnogaeth wych ar draws ystod eang o leoliadau a chyrsiau dysgu.

Cawson ein rhestru yn safle 13 am ansawdd y dysgu yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2022.

Dyma gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol gael cyfle i arwain ar brosiectau Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol sy’n perthyn yn benodol i frand Rhagoriaith. Swydd ar gytundeb blwyddyn fydd hon yn absenoldeb rheolwr presennol _Rhagoriaith _ar gyfnod mamolaeth ac ystyrir ceisiadau secondiad gan unigolion cymwys sy’n chwilio am brofiadau newydd a chyfleoedd uwch-sgilio.

- Y RÔL –

Bydd y sawl a apwyntir i’r swydd hon yn gyfrifol am y gwaith o reoli prosiectau iaith_ Rhagoriaith_. Mae hyn yn cynnwys rheoli cyrsiau iaith y Brifysgol a’r Cynllun Sabothol Cymraeg i Athrawon a gartrefir yn y Ganolfan. Mae’n gyfle gwych i unigolyn profiadol a brwdfrydig ennill profiad pellach o weithio oddi fewn i Ganolfan ragweithiol sy’n arbenigo mewn cynnig rhaglenni hyfforddiant iaith i’r sector addysg yng Nghymru.

-AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried fel Rheolwr Rhagoriaith, bydd angen y canlynol arnoch:

- profiad o reoli, gweithredu a monitro prosiectau

- adnabyddiaeth dda o’r sector addysg yng Nghymru

- profiad o gynllunio rhaglenni hyfforddiant gan gynnwys sgopio ac awduro cynnwys

- profiad o baratoi ac addysgu cyrsiau’n gyfunol yn ogystal ag wyneb-yn wyneb

- angerdd ac awydd i wneud gwahaniaeth wrth gyflwyno’r Gymraeg i amrywiol gynulleidfaoedd.

- BUDDION –

Hawl i wyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol

Mae ein gweithwyr yn cael mynediad at becyn tâl a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

- Tâl ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig tâl cystadleuol

- Aelodaeth cynllun pensiwn o USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl ychwanegol

- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill cymwysterau pellach

- Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cymorth cwnsela

- Gostyngiadau staff ar amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Sylwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, bydd eich cais yn cael ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig ac, yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad cau: 20 Mai, 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £43,434 - £51,799 pro rata

Lleoliad

📍 Abertawe

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau