Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweinyddwr

💰 £20,280 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Mae Antur Cymru yn edrych am Weinyddwr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gweinyddwr ar gyfer Tîm Busnes Cymru yn y Canolbarth a Gorllewin Cymru

A oes gennych yr hyn sydd ei angen i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi mentrau bach a chanolig yng Nghymru i gyflawni eu huchelgais am dwf? Os felly, byddwch yn falch o glywed bod cyfle i ymuno â tîm cyfeillgar Busnes Cymru yng Nghanolbarth & Gorllewin Cymru.

Pwy fydda i'n gweithio gyda?

Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth busnes o'r radd flaenaf i fentrau bach a chanolig yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Fe’i ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae’n cael ei ddarparu gan Bartneriaeth Twf Cymru (PTC), partneriaeth o Busnes Mewn Ffocws, Antur Cymru a Serco.

Felly, beth fydd rôl Gweinyddwr yn cynnwys?

Yn adrodd i'r Arweinydd y Tîm Perthynas â Chleientiaid, byddwch yn darparu gwasanaeth broceriaeth llawn i gleientiaid i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru.

Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:

  • Gosod data yn gywir o fewn bas-data a taenlenni.

  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer trefnu gwahanol hyfforddiant a digwyddiadau i’r rhanbarth e.e. paratoi gwybodaeth, gwybodaeth cofrestru a manylion mynychu cleientiaid, dilyn i fyny ar unrhyw wybodaeth sydd ar goll.

  • Cynnal ffeiliau cleientiaid yn gywir.

  • Ateb y ffôn a cyfeirio galwadau i’r person iawn.

Beth fydd ei angen arnaf er mwyn cael fy ystyried ar gyfer y rôl Gweinyddwr hwn?

 Profiad o weithio o fewn rôl weinyddol/gwasanaeth cwsmeriaid, gyda sylw da at manylder a darparu gwasanaeth effeithiol o safon uchel.

  • Profiad o gosod data i fewn i bas-data a taenlenni.

  • Y gallu i weithio'n effeithiol o dan bwysau mewn amgylchedd sy’n gofyn am gywirdeb.

  • Yn drefnus iawn, gyda'r gallu i reoli a blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol

  • Sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio gwych, gyda'r gallu i ryngweithio'n effeithiol â phobl ar bob lefel.

  • Llythrennedd TG gyda gwybodaeth weithredol dda o Microsoft Office.

Beth fyddaf i'n ei dderbyn yn gyfnewid?

Cyflog: Yn cychwyn o £20,280 y flwyddyn.

Manteision ychwanegol: Y mae Antur Cymru yn darparu pecyn deniadol o fuddion gan gynnwys cynllun gweithio hyblyg, 23 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, pensiwn, rhaglen cefnogi gweithwyr, cynllun beicio i gwaith, cynllun technoleg ac yn y blaen.

Oriau: Llawn amser, 37.5 awr yr wythnos

Math o gontract: Parhaol (tan Mawrth 202

Cyflog

💰 £20,280

Lleoliad

📍 Gweithio o Adref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £53,353 - £61,823 📍 Bangor Ar gau

💰 £27,514 - £30,095 📍 O gartref📍 Hyblyg Ar gau

💰 £32,960 📍 Rhondda Ar gau

💰 £27,433 - £30,205 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30,095 - £33,486 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £20,043 - £21,269 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £26,038 - £30,908 📍 Caerffili Ar gau

💰 £30,000 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £19,117 - £20,050 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £25,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £20,040 📍 O gartref📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £22,571 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 pro rata 📍 I'w drafod📍 O gartref Ar gau

💰 Cyflog cychwynnol o £24,063 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau