Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd mewn Busnes (Cyfrwng Cymraeg)

💰 £40,927 - £46,042 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd mewn Busnes (Cyfrwng Cymraeg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar - Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide. 

Os oes gennych chi hanes o gyflawniad sy’n dangos eich ymrwymiad, eich dawn a’ch brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu drwy addysgu rhagorol, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd, ynghyd â rhannu ein brwdfrydedd dros ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, rydyn ni’n edrych ymlaen i dderbyn eich cais. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a’u helpu i ddatblygu ein safle o ran ymchwil ac yn rhai a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.

Y Cyfle

Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig o addysg busnes a rheoli. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn gwbl falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.

Mae'r Ysgol hefyd yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli gyda'n partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Busnes neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol. 

I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Economeg a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn cael eich cefnogi i gyfrannu at broffil ymchwil yr Ysgol.

Mae'r Ysgol yn cynnal amrywiaeth o raglenni arloesol mewn Twristiaeth, Marchnata, Strategaeth, Entrepreneuriaeth, Rheoli Gweithrediadau a'r Gyfraith ymhlith llawer o feysydd pwnc.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu meysydd sy'n gysylltiedig â Busnes a Rheoli drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys diddordebau ymchwil yn y meysydd perthnasol. Bydd cyfleoedd i oruchwylio myfyrwyr PhD lle bo'n briodol.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano 

Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.

Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.

Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgaredd ysgolheigaidd.

Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.

Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.

Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.

Y gallu i adnabod meysydd i'w gwella a defnyddio sgiliau menter a datrys problemau i wella perfformiad.

Y gallu i gyfathrebu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.

Profiad o ddysgu AU neu gyfwerth.

Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill. Gradd anrhydedd da.

Cymhwyster lefel doethuriaeth neu brofiad uwch reolwyr / proffesiynol sylweddol trwy’r Gymraeg.

Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau'r gyflogaeth).   Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Dr Aylwin Yafele, Pennaeth Adran, ar [email protected] neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.

Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.

Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol iawn. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein staff. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth digonol yn y sector addysg uwch.

Gwybodaeth Bellach

Darllenwch ein Pecyn Ymgeisydd neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.

Cyflog

💰 £40,927 - £46,042 pro rata

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau