Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Weinyddydd & Rheolwr Cynhyrchu

Cwmni Da

💰 £30k - £35k 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Cwmni Da yn edrych am Uwch Weinyddydd & Rheolwr Cynhyrchu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cwmni Da yn chwilio am unigolyn profiadol, hynod drefnus a brwdfrydig i ymuno â’r Cwmni ar adeg cyffrous wrth i ni adeiladu a thyfu ym mhennod nesaf yn hanes y cwmni. Rydym yn gwmni sydd yn mherchnogaeth y gweithlu. 

Bydd gennych ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ddofn o’r byd darlledu ac yn brofiadol yn delio gyda nifer o ddyletswyddau ar yr un pryd. 

Swyddogaethau 

  • Cefnogaeth weinyddol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr a’r Tim Rheoli 

  • Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr gan gadw trefn ar ddyddiadur ac amser 

  • Pwynt cyswllt gyda’n partneriaid rhyngwladol ar gynyrchiadau 

  • Gweithio’n agos gyda Rheolwr Materion Busnes y Cwmni 

  • Dolen gyswllt allweddol rhwng Cwmni Da a Darlledwyr 

  • Cydweithio â’r Pennaeth Cynhyrchu ar amserlenni cynhyrchu y Cwmni 

  • Cydweithio â’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyllidebau cynyrchiadau y Cwmni

  • Rheoli Cynyrchiadau Rhyngwladol

 

Os ydych chi’n barod am her, ond eto’n hyderus yn eich sgiliau a’ch gallu presennol, efallai mai dyma’r rôl i chi! 

Telerau £30k – £35k dibynol ar brofiad 

Dyddiad cau: 6ef o Fehefin, 2022

SWYDD DISGRIFIAD LLAWN

Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i’r tim rheoli, delio â gohebiaeth a galwadau ffôn. Rheoli dyddiaduron a threfnu cyfarfodydd ac apwyntiadau, yn aml yn rheoli mynediad at y Rheolwr Cyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau . Archebu a threfnu teithiau, trafnidiaeth a llety.

**Prif gyfrifoldebau a dyletswyddau Rheoli Gweinyddol **

  • Cefnogaeth weinyddol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr a’r Tim Rheoli

  • Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr gan gadw trefn ar ddyddiadur ac amser

  • Trefnu cyfarfodydd ac cofnodi yn achlysurol

  • Cofnodi cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolaeth ar adeg

  • Pwynt cyswllt gyda’n partneriaid rhyngwladol ar gynyrchiadau

  • Gweithio’n agos gyda Rheolwr Materion Busnes y Cwmni

  • Dolen gyswllt allweddol rhwng Cwmni Da a Darlledwyr

  • Cydweithio â’r Pennaeth Cynhyrchu ar amserlenni cynhyrchu y Cwmni

  • Cydweithio â’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyllidebau cynyrchiadau y Cwmni

Mae’r Rheolwr Cynhyrchu yn aelod allweddol o’r  tîm cynhyrchu  

  • Maent yn adrodd yn uniongyrchol i Gynhyrchwyr a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau.

  • Maent yn cydweithio’n agos â phob Uwch Gynhyrchydd  i sicrhau bod cynyrchiadau’n rhedeg yn esmwyth, o fewn cyfyngiad amser ac o fewn cyllideb.

  • Maent yn cynorthwyo’r Cynhyrchydd i ddehongli a gwireddu gweledigaeth y Cyfarwyddwr, yn ariannol ac yn rhesymegol (logistical).

  • Maent yn brif gyswllt rhwng y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a’r rheolwr Ol Gynhyrchu er mwyn cytuno a chynllunio amserlen golygu, dybio a graffeg fydd yn dilyn gofynion pawb.

  • Mae’n hanfodol eu bod yn deall y prosesau technegol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu teledu, gan gynnwys elfennau camera, goleuadau, sain a golygu

  • Sicrhau bod holl amodau gwaith aelodau’r cast a’r criw yn cydymffurfio â’r cytundebau a’r rheoliadau statudol  perthnasol.

**Prif gyfrifoldebau a dyletswyddau Rheoli Cynhyrchiad **  

  • Sicrhau bod pob elfen o wariant p’un a yw yn gostau allanol, costau mewnol neu amserlennu staff, yn cyd-fynd â’r gyllideb gynhyrchu.

  • Paratoi taflenni dyddiol i’r Tim Cynhyrchu, yn manylu bob agwedd o’r saethu dyddiol.

  • Prif gyswllt rhwng y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a’r rheolwr Ol Gynhyrchu er mwyn cytuno a chynllunio amserlen ol-gynhyrchu er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn cael ei chyfleu yn unol a chytundeb gyda’r darlledwr.

  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf, a’r gallu i adnabod problemau ac i’w  ddatrys yn effeithiol

  • Gweithio’n effeithiol, a chyda diplomyddiaeth a sensitifrwydd, gyda holl aelodau’r tîm cynhyrchu, actorion, cyfranwyr eraill, ac aelodau’r cyhoedd

  • Cydymffurfio â rheoliadau sy’n ymwneud ag atebolrwydd ac indemniad wrth saethu mewn gwahanol leoliadau

  • Gwybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth, rheoliadau a gweithdrefnau cysylltiedig perthnasol, gan gynnwys hawlfraint, diogelu data, atebolrwydd cyhoeddus, a chydymffurfio â, rheolau a chytundebau cyfatebol mewn gwledydd a sefydliadau eraill

  • Sicrhau bod holl drwyddedau angenrheidiol wedi clirio ar gyfer cynhyrchu

  • Cysylltu ag awduron, asiantau artistiaid, aelodau o’r cyhoedd, a’r staff chyhoeddusrwydd

  • Mynychu a chyd-drefnu cyfarfodydd cynllunio ac ymarferion

  • Gwirio  a threfnu taliadau ar gyfer materion a chaniatad trydydd parti o bob math yn hawlfraint, breindaliadau, cerddoriaeth neu arall.

  • Gyfrifol am baratoi a monitro amserlenni a chyllidebau

  • Sicrhau bod holl bropiau/adnoddau/elfennau set yn ogystal a byrbrydau/diodydd o diwrnodau ffilmio yn cael ei dychwelyd i’w storfa  bethrnasol

  • Delio gyda thaliadau artistiaid / Cyfranwyr / cyflwynwyr a chostau

Cyflog

💰 £30,000 – £35,000

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau