Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynghorwyr Busnes

💰 £30,000 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Mae Business in Focus yn edrych am Gynghorwyr Busnes

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae gan Business in Focus Ltd sawl contract busnes gyda phortffolio o gleientiaid gwahanol e.e. Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes a Llywodraeth Cymru. Mae'r contractau hyn yn cynnig gwasanaethau sy'n ymwneud â chymorth busnes yng Nghymru a ledled y DU. Rheolir y contractau hyn gan y Rheolwr Contractau Busnes. Mae tîm o gynghorwyr busnes sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gyda phortffolio o ddefnyddwyr terfynol. 

**Crynodeb o'r Swydd: **

Bydd Cynghorwyr Busnes yn rheoli portffolio o hyd at 40 o unigolion sy'n dechrau busnesau, busnesau newydd cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes ar ôl Covid. Ar gyfer busnesau newydd sydd heb eu sefydlu eto ac sydd ar ddechrau cyfnod cynnar, bydd y Cynghorydd Busnes yn darparu dull diduedd sy'n canolbwyntio ar fusnes, gan gynnig cymorth penodol drwy gyfuniad o sesiynau un i un rhithiol a gweminarau, neu alwadau ffôn. Bydd y ddarpariaeth yn rhithwir/digidol yn bennaf, ond ceir darpariaeth gorfforol sylweddol i feithrin cysylltiadau, sicrhau bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud a chynwysoldeb. Ar gyfer busnesau sefydledig, bydd y Cynghorydd Busnes yn trefnu cyfarfodydd rhithiol un i un er mwyn gwneud diagnosis o anghenion y busnes ac yn cynnig cymorth addas penodol, gan hwyluso mynediad i gynghorwyr arbenigol a chymorth gan Busnes Cymru, fel y bo'n briodol. 

DYMUNOL:

Cymhwyster sy'n gysylltiedig â chynghori, e.e. Cymhwyster Cymorth Busnes y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, SFEDI Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Cymhwyster sy'n gysylltiedig â rheoli, e.e. Cymhwyster Rheoli y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Gymhwyster busnes lefel gradd 

**Prif Gyfrifoldebau: **

  1. Sefydlu cysylltiadau â chleientiaid er mwyn cael trafodaethau cychwynnol i gael dealltwriaeth o'r cleient a'u syniad busnes drwy sesiynau un i un a grŵp. Canfod pa heriau personol sydd ganddynt ac y mae angen iddynt eu goresgyn a chytuno ar gynllun gweithredu ynghylch sut i'w cefnogi i oresgyn y materion/rhwystrau hyn.
  2. Deall prif elfennau a gofynion syniadau busnes er mwyn nodi materion a/neu gyfleoedd i ddatblygu'r syniad busnes.
  3. Cynnig gwybodaeth a chymorth i gleientiaid ynghylch materion busnes i'w helpu nhw ddechrau busnes. Gwneud atgyfeiriadau at arbenigwyr priodol / rhaglenni Llywodraeth Cymru/ Gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer BBaCh.
  4. Cofnodi a chwblhau cynlluniau gweithredu'n gywir, gweithgarwch â chleientiaid, canlyniadau a'r holl waith papur cysylltiedig yn unol â gofynion cytundebol Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person a gweithdrefnau gweithredol. Sicrhau bod oriau cymorth yn cael eu cynnig, eu cofnodi a'u cymeradwyo.
  5. Datblygu a darparu cymorth wedi'i deilwra sy'n cyfuno gweminarau a fideogynadledda un i un i fusnesau newydd cyn dechrau, cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes mewn modd proffesiynol a gwybodus.
  6. Cynnal cyfarfodydd un i un gyda busnesau presennol i wneud diagnosis o'r anghenion busnes a'r cymorth sydd ei angen, gan arwain at gefnogi'r perchennog i ddatblygu Cynllun Gweithredu. Ar ôl ei ddatblygu, cefnogi'r perchennog i esblygu'r cynllun a'u cyflwyno i rwydweithiau cymorth a chyngor perthnasol er mwyn rhoi hwb i'w gwybodaeth a'u hyder.
  7. Sefydlu a datblygu rhwydwaith effeithiol o gysylltiadau, e.e. Canolfannau Gwaith, Cymunedau am Waith, Cymdeithasau Tai, CGS, i hyrwyddo'r prosiect a denu ac ymgysylltu â phobl leol i ystyried hunangyflogaeth.
  8. Cefnogi Hwylusydd CRF i nodi a datblygu digwyddiadau i hyrwyddo'r gwasanaeth. Ymgymryd â'r gweithgareddau hyn mewn ffordd broffesiynol a gwybodus.
  9. Meithrin cysylltiadau effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a chyflenwyr; yn y sector cyhoeddus a'r gwasanaethau sydd ar gael o'r sector preifat.
  10. Bod ar flaen y datblygiadau diweddaraf mewn busnes ac arferion, cymryd rhan mewn sesiynau uwchsgilio, bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael gan wasanaethau cymorth busnes lleol a ledled Cymru.
  11. Rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i roi gwelliannau parhaus ar with.
  12. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol gan yr Uwch Dîm Rheoli.

 

Cyflog

💰 £30,000

Lleoliad

📍 Pen-y-bont ar Ogwr

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Bethesda Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24k - £28k 📍 Hyblyg📍 Castell Brychan Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 O gartref📍 Teithio ledled Cymru Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,344 - £30,151 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau