Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon

💰 £19,601 - £22,058 📍 Gorllewin Morgannwg Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Gydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.

Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Jamie Price Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon y De ar [email protected]

Anfonwch Ffurflen Gais ar e-bost at [email protected]

Dyddiad Cau –           25/05/2022

Dyddiad Cyfweld -     31/05/2022   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.

Cyflog

💰 £19,601 - £22,058

Lleoliad

📍 Gorllewin Morgannwg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau