Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Rheoli Digwyddiadau, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes Rheoli Digwyddiadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Rheoli Digwyddiadau, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y disgyblaeth pwysig hwn.

Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory

Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus.   Mae cyfle cyffrous wedi codi i arbenigwr yn y maes rheolaeth digwyddiadau i ymuno â'r gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau.

Fel rhan o'r swydd byddwch -

Yn ennill profiad o weithio’n draws-adrannol a thraws-asiantaeth fel prif bwynt cyswllt digwyddiadau Gwynedd gan lywio trefnwyr digwyddiadau trwy brosesau swyddogol y Cyngor, ein cymunedau a’n partneriaid.

Yn datblygu cysylltiadau agos a chydweithio gyda busnesau, cymunedau, trefnwyr digwyddiadau a mudiadau o'r sector wirfoddol a chyhoeddus er datblygu'r cyfleoedd adfywio a datblygu economi'r sir yn deillio o gynnal digwyddiadau.

Marchnata hyrwyddo a gwerthu Gwynedd trwy'r digwyddiadau creadigol gan sicrhau delwedd ifanc, egnïol a chyffrous i'r ardal fyddai'n cydweddu ag amcanion y Cyngor.

Yn cael y cyfle i gwblhau cymhwyster MA Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.

Mae datblygu a chefnogi Digwyddiadau yn flaenoriaeth strategol gan y Cyngor. Mae’n faes sydd gyda proffil uchel ac sydd yn dod a buddion economaidd sylweddol i Wynedd.

Cyflog

💰 £25,419 - £27,514

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau