Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Datblygu Sector Bwyd (canolbarth Cymru)

Menter a Busnes

💰 £34k - £36k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Sector Bwyd (canolbarth Cymru)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru.

O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am Reolwr Datblygu i weithio ar draws canolbarth Cymru i gefnogi busnesau bychain a micro i ddechrau ac i dyfu.

Cefndir

Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn cychwyn cam newydd erbyn hyn ac rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023.

Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.

Mae tri llinyn i’r prosiect:

  • Cefnogaeth i fusnesau newydd a busnesau micro

  • Cefnogaeth ddiagnostig ar gael i bob busnes o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru

  • Clystyru a chydweithio rhwng busnesau i hybu effeithiolrwydd a thwf busnesau

Nod y Rôl

  • Arwain ar ddatblygu’r prosiect a darparu’r gwasanaeth i fusnesau newydd neu’r rhai sy’n tyfu’n bennaf o fewn yr ardal ddaearyddol benodol a darparu arbenigedd sy’n benodol i’r sector bwyd a diod. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu gwybodaeth a hwyluso datblygiad busnesau yn y rhanbarth, adnabod ac ymateb i ofynion y sector a chydlynu’r ddarpariaeth o fewn y gyllideb.

Prif Gyfrifoldebau

Datblygu Prosiect a Darparu Gwasanaeth

  • Sicrhau bod gwasanaethau’r prosiect yn cael eu darparu i gynhyrchwyr a busnesau bwyd a diod o fewn yr ardal benodol

  • Meithrin perthynas agos gyda chynhyrchwyr a phroseswyr i ganfod eu hanghenion ar gyfer twf drwy asesiad diagnostig a chreu rhaglen gefnogaeth briodol

  • Recriwtio grwpiau ac unigolion ar draws y gadwyn gyflenwi i'r prosiect gan ganolbwyntio ar y potensial ar gyfer twf a chreu swyddi

  • Gweithio gyda grwpiau o gynhyrchwyr ac unigolion i ganfod a datblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd

  • Paratoi cynllun gweithredu a chynnal asesiad diagnostig ar ddechrau’r gwaith gyda phob grŵp unigolyn a rheoli’r adnoddau o fewn cyllideb y prosiect

  • Cydlynu gweithgaredd a rhannu gwybodaeth sy’n deillio o fentrau thematig y rhaglen yn yr ardal, gan sicrhau cyfraniad gan y cleient lle bo angen

  • Creu cysylltiadau gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch a datblygu marchnadoedd newydd er mwyn sicrhau darpariaeth gydlynol

  • Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Llinell, Rheolwr y Prosiect a’r Rheolwyr Datblygu eraill i gynllunio, rheoli a gweithredu portffolio o ddigwyddiadau/arddangosfeydd a theithiau astudio yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau cynnwys perthnasol a diddorol

  • Trefnu a darparu gweithdai ar themâu penodol o fewn y rhanbarth

  • Adnabod anghenion, cynllunio a chynghori busnesau ynglŷn â’u datblygiad, gan gyfeirio at ffynonellau eraill o gefnogaeth lle bo’n briodol

  • Annog perchnogaeth o’r busnes a’i ddatblygiad trwy gydol y broses gefnogi gan yr aelodau

  • Rheoli/monitro’r gyllideb a osodir gan Reolwr y Prosiect, gan sicrhau gwerth am arian a darpariaeth ar y cyd lle bo hynny’n ymarferol

  • Derbyn cyfrifoldeb am bob gweithgaredd a datblygiad cleientiaid yn y rhanbarth a sicrhau bod targedau daearyddol yn cael eu cyrraedd.

  • Parhau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arbenigeddau eraill, gan sicrhau darpariaeth o wasanaethau holistig i’r cwsmer, gydag ymrwymiad i gynnal unrhyw waith ymchwil a dysgu a datblygu sy’n ofynnol er mwyn bodloni’r anghenion hynny

  • Bod yn weladwy ac yn hyblyg wrth ddarparu’r gwasanaeth yn y rhanbarth

Monitro a Gwerthuso

  • Sicrhau bod adroddiadau cywir a pherthnasol yn cael eu darparu trwy gydol oes y prosiect a bod deilliannau’n cael eu monitro’n fanwl, yn cael eu hadolygu a’u hadrodd i’r Rheolwr Prosiect a Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y cytundeb, ac er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol

  • Cadw adroddiadau manwl o weithgareddau a gwaith papur er mwyn monitro a chyrraedd targedau’r prosiect i gydymffurfio â systemau monitro ac adrodd Llywodraeth Cymru

  • Cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr holl ddogfennau ar gyfer y gwaith a gwblhawyd yn gyfredol ac wedi’i gwblhau yn unol â gofynion y cynllun

  • Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd y gwaith gyda phob grŵp/unigolyn, sy’n adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a dderbyniwyd.

Arall

  • Sicrhau bod safonau ansawdd, gofal cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni

  • Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chymryd rhan mewn gwaith arall yn ymwneud â bwyd ar ran Menter a Busnes yn ôl yr angen

  • Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen

Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

  • Addysg hyd lefel gradd neu gyfwerth mewn busnes, economeg, amaeth, bwyd, diwydiannau’r tir, neu bwnc perthnasol

  • Dealltwriaeth drylwyr o’r sectorau amaeth a diwydiannau’r tir yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod y wybodaeth a’r gwaith ymchwil sy’n berthnasol i’r sector(au) hynny

  • Dealltwriaeth eang o ddatblygiad polisi, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.

  • Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat

  • Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn.

  • Gallu gwerthuso a defnyddio tystiolaeth mewn modd clir ac ymarferol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac i feddwl yn greadigol, gan fynegi manteision, anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau

  • Gallu asesu a datblygu dealltwriaeth glir o anghenion cleientiaid, a’u cefnogi yn unol â’u gofynion unigol

  • Dealltwriaeth dda o gyfrifon busnes a chynlluniau busnes

  • Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth

  • Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau

  • Gallu datblygu ac integreiddio gwasanaethau newydd mewn modd effeithiol ac amserol

  • Sgiliau cyflwyno a rhyngbersonol rhagorol, gyda’r gallu i wneud penderfyniadau anodd a’u cyfathrebu mewn modd diduedd

  • Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd

  • Ymwybyddiaeth o safonau bwyd a gofynion rheoliadol o fewn y diwydiant

  • Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig ardderchog

  • Sgiliau TG ar lefel uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we

  • Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (gallai’r swydd olygu teithio ledled Cymru)

  • Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol.

**Dymunol **

  • Profiad dangosadwy o redeg ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu

  • Profiad dangosadwy o weithio / rheoli prosiect ar raddfa debyg

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal (ar gael ar ein gwefan:

www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].

Os hoffech sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Nerys Davies ar  07539 030 849

**Cyfweliadau **

Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth ar ddydd 13 Mehefin 2022. Os nad yw’r dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. 

Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 10am, 6 Mehefin 2022.

Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ceir copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar ein gwefan

Cyflog

💰 £34,198 - £36,335

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau