Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi Gofalwyr Ysbyty Glan Clwyd

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £21k - £24k pro rata 📍 Bodelwyddan Ar gau

Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn edrych am Swyddog Cefnogi Gofalwyr Ysbyty Glan Clwyd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

I ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth hygyrch i ofalwyr di-dâl cleifion a gofalwyr di-dâl sydd yn gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd, gyda’r nod o wella profiad gofalwyr a galluogi gofalwyr i ymdopi’n well gyda’r rôl gofalu.

Dyletswyddau Penodol:

  1. Hyrwyddo’r gwasanaeth ac adnabod “gofalwyr cudd” sydd angen cymorth.
  2. Derbyn a rheoli ymholiadau a chyfeiriadau, gan weithio’n agos gyda’r tîm aml-ddisgyblaethol i drafod, blaenoriaethu a delio gydag achosion.
  3. Asesu anghenion gofalwyr a phenderfynu ar y ddarpariaeth gwybodaeth a chefnogaeth fwyaf addas ac ar y weithred a chamau fwyaf addas er mwyn ateb yr anghenion a nodwyd.
  4. Hwyluso ymgynghoriad llawn gyda’r gofalydd o ran cynllunio ar gyfer gadael yr ysbyty a sicrhau fod anghenion y gofalydd yn cael eu hystyried a’i diwallu mewn cynlluniau gadael yr ysbyty ac mewn trefniadau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol lle bo’n briodol.
  5. Gweithredu a chynnal sustem monitro a gwerthuso effeithiol er mwyn cofnodi’r gwaith a wnaed a’r deilliannau.
  6. Darparu gwybodaeth ac arweiniad i’r tîm aml-ddisgyblaethol ac i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill o ran hawliau a materion gofalwyr.
  7. Bod yn gyfrifol am dasgau gweinyddol sy’n ymwneud â’r dyletswyddau uchod.
  8. Paratoi a chyflwyno adroddiadau chwarterol i’r Prif Swyddog.
  9. Mynychu cyfarfodydd a chyrsiau hyfforddi fel y bo angen, gan gynnwys cyfarfodydd staff a sesiynau goruchwylio gyda’r Prif Swyddog.

Cyflog

💰 £21,074 - £23,866 pro rata

Lleoliad

📍 Bodelwyddan

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau