Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Casgliadau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £19k 📍 Wrecsam Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Casgliadau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle unigryw a rôl ddelfrydol yng Nghastell y Waun, un o eiddo blaenllaw Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Byddwch yn helpu gyda gofal, cadwraeth a chyflwyniad y tŷ a’r tu mewn.

  • Gofalu am gasgliad sy’n adlewyrchu pethau o ddiddordeb i'r teulu Myddelton ers dros 400 mlynedd.

  • Croesawu hyd at 800 o ymwelwyr y dydd i'r tŷ - a chefnogi gwirfoddolwyr.

  • Cyflawni safonau rhagorol o ddehongli, cyflwyno a chadwraeth ataliol.

Mae'r rôl yn cynnwys cyfrifoldebau Cynrychiolydd Allweddol ac yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fyw ar y safle yn llawn amser.

Bydd cyfweliadau a drefnwyd ar gyfer 29 a 30 Mehefin 2022 yng Nghastell y Waun yn cynnwys y cyfle i gael taith o amgylch y tŷ, gweld ein casgliad a gweld y llety. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn i’r hysbyseb swydd gau, anfonwch neges e-bost at Karen George [email protected].

Sut brofiad yw gweithio yma?

Mae Castell y Waun yn lle bywiog ac egnïol, yn gadarnle i ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig. Mae ein Tîm Tŷ a Chasgliadau hynod brofiadol yn ffynnu yn ein hamgylchedd gweithredol, prysur, gan gydweithio er mwyn gwella ein darpariaeth ragorol i ymwelwyr.

Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu ein casgliadau a'n dehongliad, ac rydym yn awyddus i benodi unigolyn a all chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r cynlluniau hynny. Mae hon yn swydd ddelfrydol i lansio’ch gyrfa ym maes rheoli casgliadau.

Mae hon yn swydd llawn amser ar rota 7 diwrnod cylchol dros 3 wythnos: mae angen gweithio’n rheolaidd ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Fel Cynorthwyydd Casgliadau yng Nghastell y Waun, byddwch yn helpu gyda gofalu am y casgliadau a'r glanhau o ddydd i ddydd. Sylwir ar bob manylyn, a byddwch yn cadw llygad barcud ar bopeth o'r amodau amgylcheddol mewn ystafell, i arwyddion o draul. Byddwch yn cadw cofnodion cywir hefyd.

Yn y rôl hon sy'n wynebu'r cyhoedd, hoffem i chi siarad ag ymwelwyr am y gwaith a wnewch, a'r casgliadau sydd gennym. Byddwch hefyd yn rhan o'r tîm ehangach o weithwyr a gwirfoddolwyr, yn helpu i gyflenwi lle bo angen.

Am bwy rydym ni'n chwilio

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os oes gennych chi;

  • Agwedd gall a phragmatig

  • Sgiliau medrusrwydd llaw da, a chydsymud da rhwng y llaw a'r llygaid, yn ogystal â'r gallu i weithio ar ysgolion ac ar sgaffald uchel

  • Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol

  • Ddiddordeb mawr mewn eiddo hanesyddol, cadwraeth eu casgliadau a dealltwriaeth o gadwraeth ataliol

  • Dealltwriaeth dda o faterion Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau argyfwng

  • Gallu cefnogi gwirfoddolwyr i ymdrechu o fewn eu gwaith

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, ac yn gweithio'n dda mewn tîm

  • Parodrwydd i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a datblygu sgiliau personol, a dangos brwdfrydedd i ddysgu

Y pecyn

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

  • Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd

  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

  • Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cyflog

💰 £19,305

Lleoliad

📍 Wrecsam

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau