Ysgogydd de Ceredigion
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ysgogydd de Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn brwdfrydedd cymunedau de Ceredigion i ymuno â rhwydwaith Bro360, mae Golwg yn awyddus i benodi:
**Ysgogydd de Ceredigion **
Mae’r swydd hon yn allweddol i ddatblygiad y cynllun – yn gweithio gyda chymunedau de Ceredigion i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.
Y swydd:
· Sbarduno gweithgarwch yn yr ardal dan sylw.
· Hyrwyddo’r prosiect yn y cymunedau lleol a thu hwnt.
· Ysgogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd.
· Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
· Cyfrannu syniadau at ddatblygu’r prosiect.
Y person:
· Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
· Adnabyddiaeth dda o’r ardal.
· Sgiliau cyfathrebu cryf.
· Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.
· Syniadau ffresh ac unigryw.
· Trefnus.
· Egnïol a phenderfynol.
Lleoliad y Swydd: Gweithio o adre a/neu o swyddfa Golwg yn Llanbed, gyda phwyslais ar weithio yn y bröydd
Cyflog: £20,040
Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.
Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 O gartref, Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gohebydd Lleol i Golwg360
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ohebydd Lleol i Golwg360
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fe fydd y Gohebydd yn gweithio’n rhan o dîm golwg360, yn cynhyrchu straeon newyddion ar gyfer y gwefannau bro a gwasanaeth golwg360.
Mae’r gwefannau bro presennol mewn dwy ardal – Arfon a Cheredigion – ac yn y broses o ehangu ar draws y gorllewin.
Y gwaith
Mae’r swydd yma’n gyfle i fod yn rhan o un o’r cynlluniau newyddiadurol mwya’ arloesol yng Nghymru.
Fe fydd y gwaith yn golygu:
- dod o hyd i straeon lleol gwreiddiol a’u datblygu nhw ar gyfer y gwefannau bro;
- addasu a datblygu straeon cenedlaethol i’w gwneud yn addas ar gyfer cynulleidfa leol;
- addasu straeon o’r gwefannau bro ar gyfer gwasanaeth newyddion cenedlaethol golwg360.
Fe fydd angen gweithio ar draws nifer o wahanol gyfryngau, o brint i fideo, blogiau byw a’r cyfryngau cymdeithasol.
Amser a chyfnod: Swydd lawn-amser, ar gontract penodol tan ddiwedd mis Medi 2023.
Cyflog: £20,040
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion ac ymgeisio: [email protected]
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 I'w drafod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Gweinyddol
Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn edrych am Gynorthwyydd Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cynorthwyydd Gweinyddol mewn tîm bychan o staff sy'n gyfrifol am weinyddu elusen Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Swydd lawn amser yw hon, ond mae'n bosibl y gellid trafod oriau rhan amser.
Disgrifiad:
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am redeg swyddfa'r Ymddiriedolaeth o ddydd i ddydd, delio ag ymholiadau, paratoi a threfnu pwyllgorau, bod yn gyfrifol am galendr llogwyr, a chynnig cymorth gweinyddol cyffredinol i'r Ysgrifennydd Gweithredol.
Cyflog
💰 £22,571
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn edrych am Gyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg Prifysgol Cymru, Gwasg genedlaethol Cymru, yn chwilio am Gyhoeddwr i arwain gwasgnod ffeithiol a lansiwyd ganddi yn ddiweddar, Calon.
Bydd y Cyhoeddwr yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu’r gwasgnod newydd hwn, gan gynnwys comisiynu a datblygu cynnwys llyfrau newydd cyffrous i’r portffolio. Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr, bydd y Cyhoeddwr yn cymhwyso ei wybodaeth a’i brofiad o’r farchnad fasnachol yn y fenter ddiweddar hon.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn egnïol, yn greadigol ac yn ymroddedig i wneud y cyfle cyffrous hwn yn llwyddiant. Bydd ganddo brofiad solet mewn comisiynu ar gyfer marchnad ffeithiol, bydd yn gallu adnabod a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer llyfrau newydd, a datblygu cynnwys yn greadigol â chynulleidfa ryngwladol mewn golwg. Dylai darpar ymgeiswyr fod â sgiliau rheoli awduron rhagorol, dylent fod â ffocws masnachol, a dylent fod â phrofiad o weithio gyda swyddogion cyhoeddusrwydd a phartneriaid allanol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r farchnad fasnachol yn rhagweithiol â chydweithwyr ym mhob rhan o’r Wasg. Byddai rhwydweithiau perthnasol ag awduron a phartneriaid allanol, a diddordeb brwd mewn pynciau Cymreig, yn ddymunol. Mae’r gallu i sgwrsio a chyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg am y rhan fwyaf o’r materion sy’n gysylltiedig â gwaith yn ddymunol am y swydd hon.
Mae’r Wasg yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr amrywiol. Mae’r swydd dros gyfnod mamolaeth Cyhoeddwr Calon. Gall y swydd fod yn swydd amser llawn ac wedi’i lleoli yn adeilad urddasol Cofrestrfa’r Brifysgol yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae hyblygrwydd yn bosibl i’r ymgeisydd priodol.
Y cyflog yw hyd at £33,500 y flwyddyn ar gyfer swydd amser llawn, gan ddibynnu ar brofiad, â gwyliau hael o 25 diwrnod ynghyd ag 8 diwrnod statudol a 7 diwrnod arferol y flwyddyn, pro rata. Bydd deiliad y swydd yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn y Brifysgol.
Os oes gennych ymholiadau am y swydd ac i ofyn am gopi o'r swydd ddisgrifiad, cysylltwch â[email protected] Os hoffech wneud cais am y rôl, anfonwch lythyr esboniadola CV at Eleri Lewis, Partner Busnes Adnoddau
Dynol:[email protected]
Dyddiad cau: dydd Mawrth 13 Medi 2022
Cyflog
💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Di-sgript (Unscripted)
Mae S4C yn edrych am Bennaeth Di-sgript (Unscripted)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel un o dîm Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.
Byddwch yn cyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr. Yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.
Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.
Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin
Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 3 mlynedd
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol i ymuno â'r Adran Gyhoeddi. Gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae'r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi'n ymateb i'r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Chi hefyd fydd llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol – yn perchnogi'r cyfrifon trwy fod yn chwareus, neidio ar "trends" ehangach a chreu sŵn.
Byddwch yn arwain tîm o swyddogion cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyfresi S4C, ac yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i'r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Bydd disgwyliad ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon ac yng Nghaerdydd o bryd i'w gilydd.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35.75 ar yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio oriau hyblyg yn unol a'r gwasanaeth e.e. datrys problemau technegol ffrydiau byw a all fod tu allan i oriau gwaith safonol.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 28 Medi 2022.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd (x3 swydd)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Gyfieithydd (x3 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasanaeth Cyfieithu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am dri Chyfieithydd (dau llawn amser ac un rhan amser) i weithio yn yr Uned Gymraeg flaengar am gyfnod dros dro o 12 mis. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o dîm cyfieithu'r sefydliad sy’n tyfu yn dilyn buddsoddiad pellach i sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg o fewn y Bwrdd Iechyd.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n gallu gweithio’n effeithiol i ymateb i anghenion y gwasanaeth o fewn tîm cefnogol a chyfeillgar. Byddem yn croesawu ceisiadau gan gyfieithwyr profiadol yn ogystal â myfyrwyr sydd newydd raddio.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934 pro rata
Lleoliad
📍 I'w drafod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Tim (Ariannu’r Celfyddydau)
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Tim (Ariannu’r Celfyddydau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r tîm Prosesu Grantiau yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i weinyddu a chydlynu’r gwaith o gyflawni gweithgarwch ehangach tîm Ariannu’r Celfyddydau. Mae’r Cydlynwyr Tîm (Ariannu’r Celfyddydau) yn cynnal y wybodaeth sydd yn y systemau rheoli grantiau’r Cyngor Celfyddydau.
Mae hyn yn cynnwys:
- cynorthwyo gyda sefydlu systemau i sicrhau bod cynlluniau ariannu ar gael i ymgeiswyr;
- prosesu grantiau drwy’r system grantiau am oes y grant;
- sicrhau bod y data sydd ar y system grantiau yn gywir;
- cynorthwyo a chynghori ymgeiswyr a staff ar brosesau sy’n ymwneud â systemau a chanllawiau ariannu;
- adolygu cyllidebau ceisiadau; a
- sicrhau bod ceisiadau yn cadw at reolaethau llywodraethu’r Cyngor Celfyddydau.
Mae’r disgrifiad swydd ar gyfer y Cydlynydd Tîm (Ariannu’r Celfyddydau) yn cael ei adolygu ar hyn o bryd i adlewyrchu’r tasgau o ddydd i ddydd yn fwy cywir, ond ni fydd hyn yn lleihau’r cynnig cyflog cychwynnol.
Amdanoch chi
Rydych yn dda yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl ac yn arbennig o gyfforddus yn gweithio gyda ffigurau. Rydych yn hoffi’r cymysgedd o ddadansoddiad rhifiadol a gweinyddol ac yn gallu cyfathrebu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall yn glir i eraill.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Mae’r rôl hon yn rôl llawn amser, ond wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’n llawn amser yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 Cyflog cychwynnol o £24,063
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Prosiectau (dros cyfnod mamolaeth)
Mae GwE yn edrych am Swyddog Prosiectau (dros cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi a chynorthwyo timau o fewn y gwasanaeth i gyflawni gofynion prosiectau penodol ar draws rhanbarth y gogledd.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 15/09/2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cefnogaeth Fusnes (dros cyfnod mamolaeth)
Mae GwE yn edrych am Gydlynydd Cefnogaeth Fusnes (dros cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio gyda’r Uwch Dîm Busnes i sicrhau bod gan GwE drefn lywodraethu gref a chefnogaeth fusnes a gweithredol effeithiol i gyflawni blaenoriaethau’r gwasanaeth.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 15 Medi 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ewch i www.gwynedd.gov.uk ‘Swyddi a Gyrfaoedd' neu ffonio 01286 679076.
Cyflog
💰 £28,226 - £30,095
Lleoliad
📍 Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Catalydd Mentrau-Micro Cymunedol (Wrecsam)
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol yn edrych am Gatalydd Mentrau-Micro Cymunedol (Wrecsam)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n gefnogol o'ch cymuned?
Yn dda am wneud cysylltiadau?
Mae'r Cwmni Buddiannau Cymunedol Community Catalysts yn fenter gymdeithasol brysur sy'n ymdrechu'n galed i adlewyrchu ei enw. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam ac rydym angen person egnïol a llawn dychymyg i gydlynu pethau i ni.
Catalydd Mentrau-Micro Cymunedol
Cyflog £32,960 y flwyddyn
37.5 awr yr wythnos
Contract tymor penodol o 18 mis
Byddwch yn arwain Prosiect Mentrau-Micro Cymunedol Wrecsam fydd yn cefnogi pobl entrepreneuraidd lleol a sefydliadau lleol i gynnig dewisiadau gofal a chymorth newydd a chreadigol i bobl sydd angen cymorth yn y cartref neu yn eu cymunedau. Fel hyn byddwn yn helpu pobl i gael y gefnogaeth maent ei hangen i fyw'r bywyd maent ei eisiau.
I wneud hyn rhaid i chi:
· Ddeall y byd gofal - ond efallai eich bod yn teimlo ei fod angen ychydig o weddnewidiad!
· Gallu ymwneud yn rhwydd â phobl - gallu gweithio'n dda gyda phob math o bobl yn hyderus.
· Gwneud cysylltiadau'n reddfol - ac ymuno'r dotiau sydd weithiau'n llai amlwg.
· Gallu gweld cryfderau pobl a'u meithrin.
Edrychwch ar ein gwefan a'r swydd-ddisgrifiad a manylion y person i gael mwy o wybodaeth amdanom ni a'r swydd. Byddwch yn cael eich cyflogi gan Community Catalysts ac wedi eich lleoli yn ardal Wrecsam.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â: Jill Wighton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes, drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu uchod.
Dilynwch y ddolen i lawrlwytho pecyn cais sy'n cynnwys y swydd ddisgrifiad a manylion y person.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar 8 Medi 2022 a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yng Wrecsam ar 15 Medi 2022. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £32,960
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd Menter Gymunedol
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol yn edrych am Hwylusydd Menter Gymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n gefnogol o'ch cymuned?
Yn dda am wneud cysylltiadau?
Mae'r Cwmni Buddiannau Cymunedol Community Catalysts yn fenter gymdeithasol brysur sy'n ymdrechu'n galed i adlewyrchu ei enw. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam ac rydym angen person egnïol a llawn dychymyg i gydlynu pethau i ni.
Hwylusydd Menter Gymunedol
Cyflog o £5,000
15 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol o 6 mis
Rydym yn chwilio am Hwylusydd Menter Gymunedol i’n galluogi i ymestyn ein cyrhaeddiad i gynyddu diddordeb pobl ym mhotensial sefydlu micro-fenter gymunedol. Bydd y person yn cyfeirio pobl at ein Catalydd lleol am gyngor a chymorth i sefydlu eu menter a bodloni ein Safonau Gwneud Pethau'n Iawn. Mae’r prosiect hwn yn cefnogi pobl entrepreneuraidd leol a sefydliadau cymunedol i gynnig opsiynau gofal a chymorth newydd a chreadigol i bobl sydd angen cymorth gartref. Yn y modd hwn byddwn yn helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw'r bywyd y maent ei eisiau.
I wneud hyn rhaid i chi:
· Ddeall y byd gofal - ond efallai eich bod yn teimlo ei fod angen ychydig o weddnewidiad!
· Gallu ymwneud yn rhwydd â phobl - gallu gweithio'n dda gyda phob math o bobl yn hyderus.
· Gwneud cysylltiadau'n reddfol - ac ymuno'r dotiau sydd weithiau'n llai amlwg.
Edrychwch ar ein gwefan a'r swydd-ddisgrifiad a manylion y person i gael mwy o wybodaeth amdanom ni a'r swydd. Byddwch yn cael eich cyflogi gan Community Catalysts ac wedi eich lleoli yn ardal Wrecsam.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â: Jill Wighton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes, drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu uchod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar 8 Medi 2022 a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yng Wrecsam ar 15 Medi 2022. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £5,000
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Bennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Bennaeth deinamig ac arloesol gydag egni a gweledigaeth i arwain Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion 3-11 oed sy’n cael ei hadeiladu yn Felin-fach, Dyffryn Aeron yn dilyn ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal honno. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Chorff Llywodraethol Cysgodol ymroddedig a phrofiadol tuag at agoriad yr Ysgol newydd. Yn y cyfamser, bydd yn arwain un o’r ysgolion sy’n dod ynghyd i greu yr Ysgol Ardal, sef Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron.
Mae hwn yn gyfle ardderchog ac unigryw i arweinydd egnïol a llwyddiannus sy’n meddu ar yr adnoddau personol a’r brwdfrydedd i ysbrydoli a symbylu staff a disgyblion. Bydd angen sgiliau profedig mewn rheoli newid yn effeithiol, yn effeithlon ac yn sensitif er mwyn sicrhau bod yr holl staff wedi’u cefnogi’n llawn a’u hintegreiddio i dîm unedig. Bydd gan yr Ysgol hon adnoddau chwaraeon modern, a bydd y safle hefyd yn gartref i Ganolfan Iaith ac Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr Ysgol newydd yn chwarae rhan ganolog ym mywyd cymunedau lleol sy’n fwrlwm o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol, ac yn pontio cymunedau a charfannau cymdeithasol amrywiol a chynnig canolbwynt i ddiwylliant Cymraeg cadarnhaol.
Bydd y Pennaeth newydd:
· yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau plant, yn meddu ar weledigaeth glir am ragoriaeth addysgol, ac yn datblygu cysylltiadau cryf â’r gymuned a sefydliadau lleol
· yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn bodloni anghenion plant a’u teuluoedd yn y modd gorau posibl drwy greu un amgylchedd dysgu eithriadol
· yn meddu ar sgiliau cadarn o ran arwain a chyfathrebu gan ennyn hyder mewn eraill, ac ysbrydoli staff a disgyblion
· yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos ymrwymiad cadarn i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant
· yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf er mwyn adeiladu partneriaethau cadarn ymysg y cymunedau lleol
· â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion
· â sgiliau addysgu rhagorol a disgwyliadau ar gyfer dyfodol yr ysgol ynghyd â’r gallu i ysbrydoli rhieni a’r gymuned ehangach i weld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am eu swydd gyntaf fel Pennaeth feddu ar gymhwyster CPCP.
Bydd angen gwiriad troseddol manylach ar gyfer y swydd hon.
Os am sgwrs anffufiol mae croeso ichi gysylltu gyda Mary Davies, Pennaeth Gwella Ysgolion [email protected]
Cyfweliadau i’w cynnal ar ddydd Iau, 06 Hydref, 2022.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £52,302 - £60,624
Lleoliad
📍 Aberaeron
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Mae ColegauCymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â rôl gyfathrebu a marchnata cyffrous a heriol yn y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr Polisi a Materion Cyhoeddus ac adrodd i'r Rheolwr Cyfathrebu, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal a datblygu llwyfannau marchnata digidol i raddau helaeth i hyrwyddo buddion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac i gyfleu negeseuon allweddol y sefydliad yn glir i'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Manylion pellach ar sut i gyflwyno cais ar ein gwefan: https://www.colegau.cymru/cy/page/careers
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi cydweithwyr ColegauCymru i ddatblygu ein hunaniaeth brand ac ehangu ymwybyddiaeth o bwrpas, gweithgareddau a blaenoriaethau ColegauCymru.
Ar hyn o bryd mae hwn yn gyfle gweithio gartref yn bennaf ond bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rheolaidd o swyddfeydd ColegauCymru yng Nghaerdydd, felly mae'r gallu i gymudo yma yn hanfodol ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd angen parodrwydd i deithio ledled Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol weithiau, a gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol.
**Y Broses Ymgeisio **
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni pob agwedd ar y Fanyleb Person. Yn ogystal, er mwyn ystyried eich cais, atebwch y pedwar cwestiwn isod (uchafswm o 200 gair fesul cwestiwn).
Yn eich barn chi, pa sgiliau sydd eu hangen ar Swyddog Cyfathrebu a Marchnata i fod yn llwyddiannus?
Rhowch enghraifft o sut y byddech chi'n mesur ymgyrch farchnata ddigidol.
Amlinellwch pa Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y byddech chi'n eu defnyddio mewn adroddiadau gwefan a chyfryngau cymdeithasol.
Amlinellwch pa welliannau cyfathrebu digidol y byddech yn eu hargymell i ColegauCymru.
Dylid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i [email protected]
**Dyddiad Cau **
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw Dydd Mercher 14 Medi 2022 am 12.00pm.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. **Cyfweliadau **
Cynhelir cyfweliadau Dydd Llun 26 Medi 2022 wyneb i wyneb yn ein swyddfeydd yn Tongwynlais, Caerdydd.
Sylwch y gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Cyflog
💰 £25,612 - £28,756 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Datblygu a Chymorth: Casnewydd a Mynwy
Mae Coleg Gwent yn edrych am Gydlynydd Datblygu a Chymorth: Casnewydd a Mynwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Crosskeys yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn siroedd Blaenau Gwent, Casnewydd, Caerffili, Mynwy a Thorfaen. Darperir ystod eang iawn o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Gloywi gan gynnwys cyrsiau yn y gymuned, y Gweithle a’r teulu (Cymraeg yn y Cartref). Yn ogystal, mae gan Dysgu Cymraeg Gwent raglen eang o weithgareddau cefnogi dysgwyr i atgyfnerthu'r broses ddysgu.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent am benodi Cydlynydd Datblygu a Chymorth Casnewydd a Mynwy, a fydd yn parhau i ddatblygu a gwella'i darpariaeth yn bellach. Prif gyfrifoldebau’r swydd fydd trefnu a monitro cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y ddwy ardal hon.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o faes Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys profiad llwyddiannus o drefnu darpariaeth yn ogystal â phrofiad o ddysgu Cymraeg. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu trefnu a datblygu cyrsiau newydd, dysgu i safon uchel, blaenoriaethu gwaith a gweithio'n dda fel rhan o dîm sy'n arwain a threfnu darpariaeth allweddol.
Swydd llawn amser yw hon, ac fe'i lleolir yn swyddfeydd Dysgu Cymraeg Gwent yn Crosskeys.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu a sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Sylwch y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manwl.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg a hefyd gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â’n polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau fel ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £30,014 - £32,843
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni’n awr yn edrych am Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol) i ymuno â’n campysau Cymru ar sail amser llawn, cyfnod barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Mae’r swydd hon wedi’i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu ac Addysgu sy’n gyfrifol am:
· Lunio llyfrau cwrs cenedlaethol, gan gynnwys adnoddau i diwtoriaid ac adnoddau digidol i ddysgwyr;
· Llunio cyrsiau cyfunol, sy’n cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda dosbarthiadau dan oruchwyliaeth tiwtor;
· Llunio adnoddau ar gyfer pobl ifainc, gan gynnwys adnoddau digidol byrion
· Sicrhau ansawdd darpariaethau Dysgu Cymraeg, sy’n cynnwys prosesau arsylwi tiwtoriaid, cywain barn, a monitro targedau;
· Hyfforddiant i diwtoriaid, o dan faner ‘Academi’, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol flynyddol a chyfrannu at brosiect newydd y Ganolfan, Tiwtoriaid Yfory;
· cynlluniau Cefnogi Dysgwyr, sy’n cynnwys gweithredu cynllun Siarad, cynnal digwyddiadau cenedlaethol a gweithio gydag ystod o bartneriaid.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried fel Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol), bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)
- Profiad o greu adnoddau digidol
- Profiad o weithio yn y maes Dysgu Cymraeg neu ym maes addysgu’r Gymraeg fel ail iaith.
- Profiad o lunio adnoddau ar gyfer dysgwyr ar bob lefel.
- Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.
- Profiad o orfod cyflwyno gwaith gan gadw at derfynau amser tynn.
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel.
- Bod yn barod i deithio a gweithio oriau hyblyg i gyflawni gofynion y swydd.
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Sgiliau golygu a phrawf ddarllen o safon uchel
- Profiad o greu cyflwyniadau o safon uchel a chyflwyno gerbron cynulleidfaoedd rhithiol a wyneb-yn-wyneb.
- Profiad o hyfforddi tiwtoriaid.
- Profiad fel tiwtor Dysgu Cymraeg effeithiol ar draws y prif lefelau yn y fframwaith – Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch neu brofiad o fod wedi dysgu’r Gymraeg yn effeithiol i ddisgyblion ysgol 16+.
- Profiad o weithio ar brosiectau cymhleth a chynhwysfawr
- Y gallu i gyfarthrebu trwy gyfrwng y Gymraeg – llafar a ysgrifennu
- BUDDION –
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau (pro rata) ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol (pro rata)
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol), ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 7 Medi 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £37,474 - £43,414
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma wahoddiad agored am geisiadau gan unigolion brwdfrydig, cymwys sydd am gyfle i weithio fel Tiwtor Cysylltiol Cymraeg i Oedolion yn uned Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe (DCABA), o fewn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae cyfle i benodi hyd at bump unigolyn. Darperir cytundeb hyd at 31 Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Disgrifiad:
Gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith, a hefyd hybu astudio’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant cysylltiedig fel disgyblaeth academaidd benodol. Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad i sicrhau profiad dysgu rhagorol i ddysgwyr.
Mae DCABA yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o wahanol fathau o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl. Mae cyrsiau Croeso i Bawb, cyrsiau Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau a ddarperir mewn gweithleoedd hefyd yn rhan o’n darpariaeth. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rhain yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae mwy o ddarpariaeth arlein yn digwydd yn gynyddol erbyn hyn drwy dechnoleg fideogynadledda.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd hyd at 31 Gorffennaf 2023. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol a rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau i safon uchel, a’r gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg, yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am diwtoriaid fydd yn ymdrechu i wneud y profiad o ddysgu Cymraeg yn un hwylus a hwyliog, ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial. Bydd angen i ymgeiswyr amlygu’r gallu i gyd-weithio’n adeiladol a rhagweithiol fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
Cyflog
💰 £28.72 - £31.48 yr awr
Lleoliad
📍 Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ar-lein
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Sefydlwyd Academi Hywel Teifi gan Brifysgol Abertawe yn 2010 ac fe’i henwyd er cof am gyn-Athro Cymraeg y Brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Mae’r Academi yn sefydliad unigryw ac yn gorff sydd yn fwy na swm ei rhannau ac sy’n cynnwys:
Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe sy’n darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gweithle ac yn y gymuned; Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Uned Gyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith y Brifysgol, a Thŷ’r Gwrhyd, sef Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Chwm Nedd. Bydd y Swyddog Prosiectau yn rhan o dîm Academi Hywel Teifi a fydd yn rhoi ar waith nifer o ffrydiau gwaith fydd yn sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni amcanion ei Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2022-27 newydd. Bydd y rôl yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau gan gynnwys cydlynu cynlluniau prosiect, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a gweinyddu ar wahanol gamau o'r prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chau'r prosiect. Mae'n bosib y bydd y Swyddog Prosiectau hefyd yn gyfrifol yn annibynnol am reoli a gweinyddu prosiectau llai cymhleth.
Disgrifiad:
Yn ogystal â grymuso statws a defnydd y Gymraeg o fewn y Brifysgol a’i chymuned leol, gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith. Mae’n gweithio hefyd i hybu cyfleoedd a buddiannau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chyflwyno a dathlu ei diwylliant. Mae darparu addysg yn yr iaith Gymraeg yn greiddiol i waith a strategaeth Prifysgol Abertawe oherwydd rôl arweiniol y sefydliad yn y Gymru gyfoes, ei chyfrifoldeb yn rhanbarthol a chenedlaethol, a’i chyfrifoldeb statudol.
Bydd y Swyddog Prosiectau yn rhan o dîm Academi Hywel Teifi a fydd yn rhoi ar waith nifer o ffrydiau gwaith fydd yn sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni amcanion ei Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2022-27 newydd. Bydd y rôl yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau gan gynnwys cydlynu cynlluniau prosiect, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a gweinyddu ar wahanol gamau o'r prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chau'r prosiect. Mae'n bosib y bydd y Swyddog Prosiectau hefyd yn gyfrifol yn annibynnol am reoli a gweinyddu prosiectau llai cymhleth.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfwerth mewn rôl debyg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhugl yn yr iaith Gymraeg yn meddu ar brofiad o ddarparu cymorth ar gyfer prosiect cymhleth sy'n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid ac sy’n ateb gofynion targedau a therfynau amser penodol. Bydd angen profiad o gyfrannu at gyflawniadau prosiect gan gynnwys llunio cynlluniau, amserlenni, cyllidebau, casglu data, adrodd yn ôl a rheoli risg prosiect a phrofiad o weithio ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus.
Cyflog
💰 £31,411 - £35,333
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Dysgu Cymraeg (cyfnod mamolaeth)
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Dysgu Cymraeg (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am swydd Tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae’r swydd yn gytundeb cyfnod penodedig hyd at 31 Gorffennaf 2023 dros gyfnod mamolaeth.
Mae DCABA yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o wahanol fathau o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl. Mae cyrsiau Croeso i Bawb, cyrsiau Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau a ddarperir mewn gweithleoedd hefyd yn rhan o’n darpariaeth. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rhain yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae mwy o ddarpariaeth arlein yn digwydd yn gynyddol erbyn hyn drwy dechnoleg fideogynadledda.
Disgrifiad:
Bydd disgwyl i’r Tiwtor ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) yn ystod y dydd a chyda’r nos o fewn rhaglen DCABA. Mae’n debygol y bydd pen trymaf yr addysgu yn digwydd ar-lein (o bell), ond bydd disgwyl hefyd i allu addysgu yn un, neu ragor, o’r ardaloedd lleol sydd o fewn dalgylch siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd cyfrifoldeb ar y Tiwtor i gyfrannu at y gwaith o gefnogi dysgwyr mewn digwyddiadau dysgu anffurfiol ac i hyrwyddo’r cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg. Bydd cyfrifoldeb ar y Tiwtor i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl. Bydd disgwyl i’r Tiwtor gydweithio'n agos ac yn effeithiol fel rhan o dîm eang o gydweithwyr, gan gynnwys cyfathrebu’n rheolaidd â thiwtoriaid eraill, gweinyddwyr a swyddogion arweiniol.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol a rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau i safon uchel, a’r gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg, yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am diwtor fydd yn ymdrechu i wneud y profiad o ddysgu Cymraeg yn un hwylus a hwyliog, ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial.
Cyflog
💰 £31,411
Lleoliad
📍 Abertawe, Ar-lein, Yn y gymuned
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gweithrediadau
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma rôl newydd fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu a gweithredu ein prosesau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau ein gweledigaeth o greu theatr Cymraeg eithriadol i bawb. Pwrpas y swydd hon yw rheoli materion gweithredol y cwmni, yn cynnwys adnoddau dynol; rheoli asedau; systemau a chytundebau gweinyddol; systemau TG; a chasglu a dadansoddi data.
Mae’r cwmni’n anelu at fod mor gynhwysol â phosib, gan sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir ac o bob oedran, ac mae lles pobl yn holl bwysig i ni. Rydym felly yn edrych am berson sy’n rhannu’r gwerthoedd yma, yn enwedig gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar faterion adnoddau dynol, yn cynnwys recriwtio a gofalu am les staff.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd yn drefnus a chwilfrydig, sy’n ymfalchïo mewn systemau a phrosesau effeithiol, ac sy’n gallu rheoli eu gwaith eu hunain yn effeithiol. Os nad oes gennych y sgiliau neu’r profiad perthnasol ar gyfer y swydd hon eisoes, byddem yn fodlon ystyried darparu hyfforddiant a chyfleoedd i weithio tuag at gymwysterau perthnasol.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Cyflog
💰 £33,036
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Goruchwylydd Bwyd a Diod
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn edrych am Oruchwylydd Bwyd a Diod
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Dyddiad Cau: 30 Medi erbyn 5:00yh
Am rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan. Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £19,876 - £24,202
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ddylunydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle i fod yn greadigol a chreu marc.
Mae cwmni Golwg eisiau Dylunydd i fod yn gyfrifol am ddylunio cynnyrch cwmni Golwg - print a digidol.
Y Gwaith
- Dylunio cylchgronau Golwg, WCW a'i ffrindiau a lingo newydd
- Datblygu ochr ddylunio deunydd digidol y cwmni
- Dylunio deunyddiau marchnata
- Cyfle i weithio ar amrywiaeth o waith masnachol i gwsmeriaid allanol
- Ar adegau prysur cydweithio/ gosod gwaith i ddylunwyr ffri-lans allanol
Y person
- Creadigol
- Brwd
- Trefnus
- Llygad da
**Y Sgiliau **
- Dealltwriaeth o hanfodion dylunio print
- Diddordeb byw yn y cyfryngau newydd
- Gallu i ddefnyddio rhaglenni fel InDesign, Photoshop, Illustrator, Adobe Acrobat
Dyddiad dechrau swydd: Medi/Hydref
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 12 Medi
Manylion pellach/Ymgeisio: Owain Schiavone/Prif Weithredwr – [email protected] / 01570 423 529 Golwg Cyf, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7LX
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 I'w drafod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Gorllewin Cymru
Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Gorllewin Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!
Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei l(l)eoli I gynnal grwp o ddysgwyr.
Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £32,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: 9 Medi 2022
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £27,000 - £32,000
Lleoliad
📍 O gartref, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr Datblygu Aelodaeth
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Weinyddwr Datblygu Aelodaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser barhaol uchod yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) eisiau penodi unigolyn sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd prysur i ymuno â'n Tîm Datblygu Aelodaeth fel Gweinyddwr Datblygu Aelodaeth. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo ac yn darparu cefnogaeth weithredol a gweinyddol o ddydd i ddydd i'r Tîm Datblygu Aelodaeth gyda’u gwaith o ddatblygu gweithgarwch dan arweiniad myfyrwyr a gweithgarwch democrataidd a chynrychioliadol.
Byddwch yn meddu ar addysg i safon TGAU (graddau A i D), NVQ Lefel II (neu gyfwerth) mewn pwnc priodol, neu brofiad perthnasol cyfatebol sy'n briodol i'r swydd. Byddwch yn unigolyn trefnus, rhagweithiol a dymunol a fydd yn ymrwymedig i gyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus. Mae hon yn swydd mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg ac addasu.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 - £23,715 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!