Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi’n caru’r cyfryngau cymdeithasol? 

Mwynhau siarad gyda phobl newydd a chlywed eu straeon? 

Hoffi’r syniad o weithio rhywle lle mae bob diwrnod yn wahanol? 

Os mai ‘ydw’ yw’ch ateb i un o’r uchod - dyma’r swydd i chi. 

Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth, ac i greu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg. 

Byddwch yn dilyn cynllun hyfforddiant am 12 mis, yn creu cynnwys digidol ffurf fer i Hansh Dim Sbin ac i wasanaeth newyddion digidol S4C. 

Byddwch yn ymateb i straeon y dydd gyda’r ffocws ar gyflwyno’r cynnwys i gynulleidfaoedd ifanc. Bydd cyfle i chi ddatblygu syniadau gwreiddiol eich hunain ar bynciau gwahanol, o fyd y selebs i straeon am gyfiawnder cymdeithasol. 

Bydd gennych ddealltwriaeth wych o blatfformau digidol a sut i’w defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Byddwch hefyd yn angerddol am gynnwys amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael eu tan-gynrychioli.

I ymgeisio, anfonwch CV a fideo 2 funud i ni yn ateb yr isod. 

Ni fydd eich sgiliau cyflwyno yn cael asesiad ond yn hytrach, cynnwys eich ateb. Mae croeso i chi anfon eich ateb yn ysgrifenedig petai hynny yn well gennych. Gallwch recordio eich clip ar eich ffôn neu unrhyw declyn, a’i uwchlwytho i Youtube neu wefan arall (er mwyn cael linc bydd angen cyfrif Youtube neu arall arnoch). Cofiwch i labeli’r clip yn glir gyda’ch enw chi. 

Hoffwn i chi ateb y ddau gwestiwn penodol yma - 

  1. Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd……
  2. Pa straeon sy’n eich diddori chi a sut y byddai’r straeon yn gweithio ar gyfer cynulleidfaoedd digidol?

Hoffwn i chi anfon y ddau ateb fel un clip ac ni ddylai’r atebion fod yn fwy na 60 eiliad yr un.

Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).   Dyddiad Cau: 27ain o Fehefin 2022

Lleoliad: Caerdydd

Llawn Amser

Cytundeb: 12 mis  

**Meini prawf allweddol - **

Greddf Newyddiadurol 

Meddyliwr Creadigol

Dealltwriaeth wych o blatfformau a strategaethau digidol

Angerddol dros gynyddu cynrychiolaeth a mynediad i gynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ifanc.

**Gofynion y rôl - **

Diddordeb mewn newyddion a materion cyfoes.

Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol cryf. 

Profiad o waith tîm.

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau