Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Gwasanaethau Cam-Drin Domestig

💰 £39,947 - £43,652 📍 Hyblyg📍 Penygroes +2 Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Reolwr Gwasanaethau Cam-Drin Domestig

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Disgrifiad:

  • Sicrhau bod gwasanaethau yn cael ei gyflawni i safon uchel, ar amser ac o fewn cyllidebau ac yn darparu gwerth am arian.
  • Sicrhau dealltwriaeth clir o anghenion darpariaeth cefnogaeth gan ymateb yn weithredol ac yn strategol fel bod Gorwel yn ffynnu.
  • Rheoli’r Arweinwyr Tim drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynlluniau cefnogi, a sicrhau eu bod yn cynnal rheolaeth achosion yn brydlon.
  • Cyfrifol am lunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau cytundebau gwasanaeth.
  • Cynorthwyo Prif Swyddog Gorwel i ddatblygu cynllun busnes strategol.
  • Adnabod cyfleodd i ddatblygu gwasanaethau newydd ac arwain yn y broses tendro.
  • Cynorthwyo Prif Swyddog Gorwel drwy baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
  • Cyfrifol am fonitro cyllidebau blynyddol ar gyfer y cynlluniau.
  • Cyfrifol am lunio ac adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi er mwyn cael y gwasanaeth mwyaf effeithiol i ddioddefwyr trais.
  • Cynrychioli Gorwel a chynnal perthynas weithredol rhagorol gyda chomisiynwyr, cynrychiolwyr o gyrff statudol, mudiadau gwirfoddol neu drydydd sector.
  • Arwain a chynrychioli Gorwel mewn cyfarfodydd wrth ymateb i ddigwyddiadau diogelu.
  • Cwblhau ceisiadau / ffynonellau arian ar gyfer y gwasanaethau. (o dan £10k)
  • Sicrhau hyrwyddo cyson a chyhoeddusrwydd o wasanaethau Gorwel gan gynnwys cynrychioli Gorwel mewn cyfarfodydd fforymau a chynadleddau.
  • Sicrhau fod fframwaith monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau yn cael ei weithredu’n effeithiol sydd yn ymateb i ddeilliannau arianwyr a chynllun busnes Gorwel.
  • Cyfrifol am weithdrefnau priodol mewn lle i fonitro a phenderfynu ar achosion risg ac anghenion canolog ag uchel.
  • Cyfrifol am arwain, paratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth arianwyr gan weithredu ar argymhellion.
  • Sicrhau fod Gorwel yn cyfrannu i’r drefn Cynllun Gweithredol Grant Cymorth Tai a Strategaethau Awdurdodau Lleol yn y maes tai, digartrefedd, VAWDASV.
  • Hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar draws Gorwel.
  • Cyfrifol am gynllunion rhaglen hyfforddiant blynyddol ar gyfer y tîm.
  • Dealltwriaeth a gwybodaeth o faterion budd-daliadau lles gan gynnwys oblygiadau ymdrin â diwygio lles.
  • Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar ran Gorwel a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth ac VAWDASV.
  • Cymryd rhan egnïol mewn cyfarfodydd tîm gan fynychu’r cynlluniau yn ôl yr angen.
  • Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”.
  • Sicrhau bod prosesau deddfwriaeth diogelu cenedlaethol yn cael eu gweithredu a’u monitro ar draws cynlluniau gweithredol Gorwel.
  • Rheoli, hyfforddi a mentora y staff sydd yn atebol ichi gan sicrhau eu bod yn cyflawni a chynnal y safonau disgwyliedig i’w rolau, ac eu galluogi i ddatblygu a chefnogi timoedd sy’n ymateb i Fframwaith Amgylchedd sy’n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE)
  • Hyrwyddo a sicrhau diwylliant sydd yn croesawu newid, drwy fod yn croesawu arloesedd, a bod yn barod i dreialu dulliau newydd o weithio sydd yn anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib.
  • Arwain ar weithredu safonau ansawdd perthnasol a chynnal prosesau gwelliant parhaus gan sicrhau bod holl ddata monitro ac adolygu yn ein cynorthwyo i gynnal gwelliant parhaus, gan ganolbwyntio ar allbynnau i’r cwsmer.
  • Sicrhau defnydd effeithiol o systemau rheoli achosion i gefnogi’r darpariaeth o wasanaethau sydd yn blaenoriaethu diogelwch y cwsmer.

Cyflog

💰 £39,947 - £43,652

Lleoliad

📍 Hyblyg, Penygroes, Swyddfeydd Gorwel, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24k 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £27k - £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31k - £34k 📍 Hybrid📍 Hyblyg Ar gau

💰 I'w drafod yn unol a phrofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £32k - £40k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22k 📍 Bangor Ar gau

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27k 📍 O gartref Ar gau

💰 £10k 📍 Canolbarth a Gorllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £18k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau