Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £31k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Byddwch yn cyfrannu at gynlluniau cyfryngau a ddatblygwyd gan yr Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ac yn helpu i gyflawni elfennau allweddol y strategaeth gyfathrebu.

Byddwch yn darparu dull ymatebol iawn o drin y cyfryngau ac yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio a chreu straeon a datblygu cynnwys o safon gan ddefnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol.

Byddwch yn rheoli anghenion gwybodaeth gyhoeddus, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ysgrifennu copi y Brifysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio yn y Gymraeg i safon uchel.

Beth rydym yn chwilio amdano

  • Cynorthwyo'r Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus i gyflwyno ymgyrchoedd cyfryngau cenedlaethol a lleol sy'n deilwng o newyddion, wedi'u teilwra, i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol.

  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau gan y cyfryngau, delio ag ymholiadau'r wasg, a dod o hyd i arbenigwyr ar gyfer sylwadau yn y cyfryngau.

  • Drafftio datganiadau i'r wasg ansawdd o fewn protocolau y cytunwyd arnynt. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar bob lefel o bob rhan o'r Brifysgol i gasglu gwybodaeth a chael cymeradwyaeth.

  • Cymryd cyfrifoldeb am negeseuon corfforaethol ar gyfryngau cymdeithasol ar draws pob platfform, monitro proffiliau allanol a diogelu enw da'r Brifysgol.

  • Darparu'r cynnwys diweddaraf i holl grynhowyr tablau Cynghrair gan gysylltu ag adrannau mewnol. Mae hyn yn cynnwys cofnodion ar Wicipedia a phyrth tebyg eraill i sicrhau bod gwybodaeth gorfforaethol yn gywir.

  • Cefnogi academyddion ar sut y gallant hyrwyddo eu hymchwil/gwaith a chodi eu proffil yn y cyfryngau.

  • Sefydlu cyfweliadau cyfryngau ar gyfer staff, gan ddarparu sesiynau briffio llawn a phresenoldeb yn ôl yr angen.

  • Cysylltu â staff ar draws Met Caerdydd i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu pwysig.

  • Gweithio gydag uwch gydweithwyr i ymchwilio ac ysgrifennu deunydd ar gyfer cyhoeddiadau corfforaethol y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cydlynu'r holl gynnwys (gan gynnwys dwyieithog), prawfddarllen a goruchwylio ansawdd cyhoeddiadau lle bo hynny'n briodol.

  • Meintioli effaith gweithgarwch cyfathrebu Met Caerdydd drwy gasglu gwybodaeth gan y darparwyr cyfathrebu allanol sy'n gwerthuso cysylltiadau cyhoeddus ac adrodd ar y canlyniadau i'r tîm Rheoli.

Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.

Bydd y Swyddog Cyfathrebu (Mewnol) yn cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu i gydlynu â chydweithwyr ar draws Met Caerdydd i ddarparu dulliau cyfathrebu mewnol amserol, clir ac effeithiol.

Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn ymdrin ag ymholiadau cyfathrebu mewnol ac yn helpu i gynghori ar y dull gorau o gyrraedd cynulleidfaoedd, monitro, diweddaru a gwella sianeli cyfathrebu mewnol yn rheolaidd a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth gyfathrebu integredig yn llwyddiannus.

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol.

Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:

  • Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiynol (pro rata os yn rhan-amser).

  • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.

  • Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.

  • Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.

  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal.

  • Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.

  • Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.

  • Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Rheolwr Cyfathrebu, trwy e-bostio [email protected].

Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.

Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.

Cyflog

💰 £31,406 - £34,304

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau