Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd

💰 £25,655 - £31,534 📍 Hyblyg📍 Unrhyw swyddfa yng Nghymru Ar gau

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle gwych wedi codi yn ein tîm cyfieithu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Hoffem benodi cyfieithydd profiadol a chymwys i ymuno â'n tîm ymroddedig sydd wedi'i hen sefydlu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu i nifer o sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm deinamig ac ymroddedig, sy'n darparu gwasanaethau cyfieithu i hwyluso gwasanaethau Cymraeg i GIG Cymru, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd, dyma'r swydd i chi!

Crynodeb o'r swydd

Fel Cyfieithydd byddwch yn gweithio o fewn tîm cyfieithu sefydledig yn Uned yr Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae Uned yr Iaith Gymraeg wedi ei sefydlu gyda dwy brif swyddogaeth. Y cyntaf yw cynnig arweiniad, cymorth a chyngor i adrannau a meysydd gwasanaeth y sefydliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ail mae Uned y Gymraeg yn darparu gwasanaethau cyfieithu i bob adran a maes darparu gwasanaeth ar draws PCGC ac i sefydliadau GIG eraill trwy gytundebau lefel gwasanaeth.

Rydym am recriwtio Cyfieithydd cymwys a phrofiadol ble mae o leiaf dwy flynedd o brofiad ym maes cyfieithu yn hanfodol, gyda'r gallu i gyfieithu a phrawfddarllen testun rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau'r dydd ar amrywiaeth o wahanol bynciau.

Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd ble mae trosiant gwaith yn gyflym, lle byddwn yn trosi mwy na 100,000 o eiriau yr wythnos fel tîm craidd. Bydd y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun, blaenoriaethu eich llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser tyn sy'n gwrthdaro yn hynod o bwysig.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu cyfieithiadau ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i apiau Microsoft Office a'r defnydd o dermau a meddalwedd cof cyfieithu.

Prawfddarllen a sicrhau ansawdd eich gwaith a gwaith eraill yn y tîm cyn ei gyhoeddi.

Cydgysylltu ag aelodau'r tîm a chleientiaid sy'n defnyddio ein gwasanaethau bob dydd.

Dilyn protocolau a gweithdrefnau adrannol a rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.

Ymchwilio a sicrhau cysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir.

Amdanom ni

Sefydlwyd Uned Iaith Gymraeg Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2016. Mae'r adran wedi datblygu a thyfu ers hynny, i fodloni'r galw o fewn GIG Cymru am wasanaethau cyfieithu. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfieithu o'r radd flaenaf i PCGC a Sefydliadau GIG eraill.

Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cyflym, lle na fydd unrhyw ddiwrnod yr un fath, yn cyfieithu a phrawfddarllen amrywiaeth o ddogfennau a chynnwys testun.

Rydym yn dîm proffesiynol a chefnogol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad o fewn y rôl.

Cyflog

💰 £25,655 - £31,534

Lleoliad

📍 Hyblyg, Unrhyw swyddfa yng Nghymru

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau