Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynhyrchydd Rhaglenni Cymraeg

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Gynhyrchydd Rhaglenni Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am gynhyrchydd uchelgeisiol i ymuno a’r tîm materion cyfoes Cymraeg yn ITV Cymru Wales.

Mae Y Byd ar Bedwar wedi bod yn datgelu rhai o straeon mwyaf Cymru a’r byd ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous a phrin i newyddiadurwr profiadol i ddatblygu a chynhyrchu cynnwys i’r safon uchaf a thorri straeon newydd sy'n gosod yr agenda.

Gyda chysylltiadau eang ar draws Cymru bydd gennych syniadau gwreiddiol a gwybodaeth wych o faterion cyfoes Cymru a’r byd.

Bydd gennych ddealltwriaeth gref o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu a’r gallu i weithio yn annibynnol dan amgylchiadau heriol.

Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau camera a golygu da a phrofiad o gyfarwyddo timau cynhyrchu. 

**Meini prawf allweddol **-

-   Hanes profedig o gynhyrchu newyddiaduraeth wreiddiol a chreadigol. 

-   Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu.

-   Dealltwriaeth dda o blatfformau digidol a syniadau am sut i ddenu cynulleidfaoedd newydd i’n cynnwys.

Gofynion y rôl -

-   Ymchwilio, cynllunio a chynhyrchu straeon i’r safon uchaf.

-   Storîwr sydd yn arddangos sgiliau sgriptio rhagorol â Chymraeg cywir.

-   Sgiliau hunan saethu cryf a golygu sylfaenol yn ddymunol.

-   Rhwydweithiau o gysylltiadau eang ac amrywiol ar draws Cymru.

-   Sgiliau cyfathrebu da er mwyn arwain a chyd-weithio ar ymchwiliadau gyda thîm o newyddiadurwyr llai profiadol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.itvjobs.com

I ymgeisio - hoffwn i chi anfon CV a blas o’ch gwaith hyd yma i ni fel rhan o’ch cais. 

Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).   Dyddiad Cau: 30ain o Fehefin 2022

Cyflog

💰 Yn ôl profiad

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau