Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisi yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4UW.

Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd.Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.

Am Y Swydd

Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:

- Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.

- Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.

- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.

- Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.

- Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.

- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.

- Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati)

Cyflog

💰 £30,095 - £34,373

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau