Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Trefnydd Cynorthwyol

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Drefnydd Cynorthwyol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a threfnus i ymuno gyda’r tîm fel Trefnydd Cynorthwyol.

Amdanom ni:

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.

Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.

Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.   Y Swydd

Eisteddfod yr Urdd yw prif ŵyl gelfyddydol Ieuenctid Ewrop a rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a threfnus i ymuno gyda’r tîm fel Trefnydd Cynorthwyol. Mae’r rôl gyffrous hon yn cefnogi holl waith yr adran gan gynnwys yr Eisteddfodau blynyddol a rhaglen flynyddol gelfyddydol i blant a phobl ifanc. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a Chelfyddydau ar 07778 968153 neu [email protected].

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau:  12pm ar y 6ed o Orffennaf

Cyfweliadau:  Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. 

Cyflog

💰 £28,505 - £31,757

Lleoliad

📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau