Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Peiriannydd - Heno / Prynhawn Da

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Mae Tinopolis yn edrych am Beiriannydd - Heno / Prynhawn Da

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Beiriannydd i ymuno â ni a gweithio gydag un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU. Byddwch yn gweithio mewn tîm o weithwyr proffesiynol hynod dalentog a dynamig ar raglenni teledu byw ac wedi’u recordio ymlaen llaw. Mae’r gallu i gadw pwyll dan bwysau yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Crynodeb:

Mae Tinopolis yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU, ac mae iddo swyddfeydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Llundain, Glasgow, Washington DC a Los Angeles. Rydym yn darparu dros 500 o oriau o raglenni teledu byw ac wedi’u recordio ymlaen llaw bob blwyddyn o’n stiwdios yn Llanelli. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig le mae creadigrwydd, ansawdd, dibynadwyedd a rhagoriaeth dechnegol wrth wraidd popeth a wnawn.

Darperir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Trosolwg o’r Rôl:

·   Hwyluso gyda gweithrediadau dyddiol adran beirianneg brysur, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Reoli Lluniau, y Brif Ystafell Reoli (MCR), Darlledu y tu Allan, SNG (Casglu Newyddion â Lloeren)

·   Rhoi cymorth technegol priodol i’r staff cynhyrchu a’r criwiau technegol i’w helpu i hwyluso eu gweithrediadau.

·   Mynd i’r afael â diffygion a phroblemau technegol a gweithredol mewn modd amserol a phroffesiynol.

·   Gweithio gyda’r timau Darlledu a TG mewnol yn ôl yr angen.

·   Gweithrediadau’r Brif Ystafell Reoli (MCR), gan gynnwys gwiriadau a recordio, gwiriadau darlledu, trosglwyddo o loeren i orsaf ar y tir a ffrydiau ffibr sy’n dod i mewn. 

·   Rheoli lluniau, darlledu stiwdio a darlledu y tu allan.

·   Casglu Newyddion â Lloeren (SNG), Gweithrediadau trosglwyddo o orsaf ar y tir i loeren (band KU a KA), cysylltiadau camera Microdon, system cyfathrebu â’r stiwdio UHF/symudol/lloeren/IP.

·   Cynnal a chadw OB, SNG a Stiwdio llinell gyntaf gan gynnwys cynnal a chadw systemau.

Cymwyseddau Manteisiol:

·   Cymhwysedd TG gan gynnwys seilweithiau rhwydweithiau a gweinyddwyr

·   Gwybodaeth am fformatau, llifoedd gwaith a thechnolegau ar ffeiliau

·   Signalau, safonau a phrosesu fideo a sain digidol

·   Ymwybyddiaeth o fformatau ffeiliau fideo digidol amrywiol, codecau a lapwyr

·   Yn frwdfrydig ac yn hyblyg

·   Yn gweithio’n dda mewn tîm

·   Yn cadw amser yn dda

·   Trwydded yrru llawn – byddai hyfforddiant Dosbarth C1 a CPC yn fantais

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Oriau Gweithio: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl I 25 diwrnod o wyliau dros y flwyddyn pro rata.

Pensiwn: Bydd gennych hawl i ymuno â’r cynllun pensiwn yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol. Os ydych yn aelod o’r cynllun pensiwn bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV ynghyd â llythyr eglurhaol cyn 12:00 ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 i: [email protected] [email protected] neu Post: Swyddi, Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler <http://www.tinopolis.com/privacy-notice

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Llanelli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau