Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Ymchwil

CCW

💰 £34k 📍 Birmingham📍 Caerdydd Ar gau

Mae CCW yn edrych am Reolwr Ymchwil

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Byddwch yn gyfrifol am gyflawni ymchwil i gefnogi mentrau ac ymgyrchoedd Blaengynllun Gwaith CCW. Byddwch yn arwain y swyddogaeth Ymchwil ac yn nodi a datblygu atebion ymchwil, gan sicrhau darpariaeth ymchwil, wrth dywys CCW ar ganfyddiadau a chasgliadau ymchwil, effeithiau posibl ar bolisi, gofynion ymchwil newydd a phroblemau posibl.

Amdanom ni:

CCW yw’r llais annibynnol a brwd sy’n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim er mwyn helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda’u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn cefnogi anghenion a buddiannau pawb, gan gynnal ac amlygu gwaith ymchwil sy’n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a’r rheoleiddiwr er mwyn sicrhau newid.

Yr Adran Polisi ac Ymchwil sy’n gyfrifol am ddatblygu ein sail dystiolaeth a fydd yn ei dro yn ein helpu i ddatblygu polisïau er budd defnyddwyr. Rydym yn gwneud hyn drwy:

·   Gynnal ymchwil gyda chwsmeriaid

·   Casglu a dadansoddi data cwmni cymharol

·   Cadw mewn cysylltiad â chwmnïau a monitro eu perfformiad ar lefel leol

·   Datblygu, profi a chytuno ar bolisïau

·   Dylanwadu ar gwmnïau, rheoleiddwyr a rhanddeiliaid.

Ein gwerthoedd:

Rydym yn disgwyl holl gydweithwyr CCW i ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCW ac yn eu cefnogi i wneud hynny drwy Egni Positif, Parch i bawb, Ysbryd arloesol, Cyflawni ein haddewidion ac Ymgysylltu fel un.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:

Byddwch yn gyfrifol am gyflawni ymchwil i gefnogi mentrau ac ymgyrchoedd Blaengynllun Gwaith CCW. Byddwch yn arwain y swyddogaeth Ymchwil ac yn nodi a datblygu atebion ymchwil, gan sicrhau darpariaeth ymchwil, wrth dywys CCW ar ganfyddiadau a chasgliadau ymchwil, effeithiau posibl ar bolisi, gofynion ymchwil newydd a phroblemau posibl.

Byddwch yn darparu mewnbwn adeiladol i gynigion ar gyfer ymchwil gyda defnyddwyr, a bydd allbynnau hyn yn llywio polisi cwmni CCW ar gyfer cwsmeriaid dŵr.

Elfen allweddol o’r rôl hon yw herio CCW i gadw ei ddull seiliedig ar dystiolaeth a sicrhau bod ymchwil yn cael ei chyfathrebu’n effeithiol yn fewnol a gyda rhanddeiliaid allweddol.

Am bwy rydym ni’n chwilio:

Fel Rheolwr Ymchwil, byddwch yn gallu arddangos:

- Profiad o weithio ym maes ymchwil cwsmeriaid gyda gwahanol dechnegau ymchwil

- Sgiliau datblygu ymchwil a pholisi

- Y gallu i ddehongli canfyddiadau ymchwil (ansoddol a meintiol)

- Y gallu i gynrychioli CCW yn effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol

- Hyder i siarad mewn grwpiau ac mewn digwyddiadau lle gellid gweld gwahanol safbwyntiau

- Dull creadigol o ddatrys problemau

- Profiad o reoli sawl prosiect ar yr un pryd

- Parodrwydd i deithio o gwmpas Cymru a Lloegr

- Hyblygrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i’w gilydd.

Dymunol

- Addysg i lefel radd (neu gyfwerth)

- Aelodaeth o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad

- Profiad o weithio mewn amgylchedd defnyddwyr ar faterion ar lefel genedlaethol

- Gwybodaeth am y diwydiant dŵr a/neu reoleiddio cyfleustodau.

Cyflog a Buddion:

Mae CCW yn cynnig cyflog cychwynnol o £33,835 gyda’r cyfle i gynyddu eich cyflog drwy berfformiad i hyd at £36,000.

Mae buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Opsiynau Gweithio’n Hyblyg, Benthyciadau Tocyn Tymor Teithio, Benthyciadau Beiciau, Mynediad am ddim at Health Assured a llawer mwy.

Cyflog

💰 £33,835

Lleoliad

📍 Birmingham, Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau