Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi (Dros Dro)

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cefnogi (Dros Dro)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin o fewn dalgylch daearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person fod yn swyddog cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau mewn ardal ddaearyddol benodol.

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Cefnogaeth Gyffredinol

  • Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol Polisi Iaith Mudiad Meithrin.

  • Cefnogi, cynghori a bugeilio darpariaethau gofal plant e.e. Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, a Meithrinfeydd Dydd trwy ymweliadau a chyswllt cyson.

  • Cynnig cefnogaeth busnes i Bwyllgorau Rheoli gwirfoddol (sef yr endidau sy’n rheoli cylchoedd meithrin gan amlaf) ar amryw o faterion e.e. materion ariannol/busnes, cynaliadwyedd, materion elusennol ac anwytho pwyllgorau, trwy dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin.

  • Datblygu ac ehangu gwasanaethau’r darpariaethau o fewn yr ardal.

  • Cynghori a chynnig arweiniad ar faterion rheoleiddio AGC gan sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau'r Arolygaeth.

  • Cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon megis AGC, Estyn, yr Awdurdod Lleol, Dechrau’n Deg, Athrawon Ymgynghorol ac Adran Iechyd.

  • Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau a data (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth, P1 ayyb.

  • Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision gofal ac addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol e.e. taith plentyn o’r Cylch Ti a Fi i’r Cylch Meithrin ac yna i Addysg Gymraeg.

  • Cyfrannu at grwpiau Arbenigedd Mudiad Meithrin.

  • Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e. hyfforddiant Academi, Mewnrwyd a gwefan, polisïau a gwasanaeth cyfieithu hyfforddiant Academi, gwasanaeth cyfieithu.

  • Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus.

  • Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, eisteddfodau a digwyddiadau perthnasol eraill o fewn y cymunedau yn ôl yr angen.

  • Mynychu cyfarfodydd tîm taleithiol yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.

  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £21,032 - £24,526 pro rata

Lleoliad

📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau