Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Tiwtor Ôl 16 - Ysgolion y Strade, Bro Myrddin a Maes y Gwendraeth

💰 £22,234 pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 Hyblyg Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Diwtor Ôl 16 - Ysgolion y Strade, Bro Myrddin a Maes y Gwendraeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson sydd wedi cymhwyso fel asesydd ac yn unol â gofynion CBAC / City and Guilds i ddysgu’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP). Os na fydd cymhwyster asesu gan yr unigolyn, byddwn yn ystyried rhoi’r unigolyn ar gwrs asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam Wrth Gam i gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 o fewn amser penodedig i ddisgyblion mewn ysgol/ion uwchradd

  • Cyflwyno elfennau theori’r cwrs yn yr ysgol pan yn berthnasol

  • Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol

  • Asesu gwaith y dysgwyr yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios

  • Dylid bod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn medru darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal

  • Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs

  • Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan ystyried anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith

  • Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad

  • Defnyddio dull asesu dilys, teg, dibynadwy a diogel

  • Nodi a chasglu tystiolaeth sy’n ddilys, cywir a digonol

  • Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol

  • Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith wrth ymweld, ac o bell

  • Sicrhau bod gwaith portffolio pob dysgwr yn cael ei gwblhau yn brydlon

  • Gosod gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Valid-8

  • Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol

  • Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser

  • Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni

  • Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith

  • Mynychu cyfarfodydd safoni

  • Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)

  • Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw

  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cyflog

💰 £22,234 pro rata

Lleoliad

📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau