Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweinyddwr Gwasanaethau i Fyfyrwyr

Prifysgol Caerdydd

💰 £22,847 - £27,116 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Weinyddwr Gwasanaethau i Fyfyrwyr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth am lenwi swydd newydd yn nhîm y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, gan helpu i’w weinyddu, rhoi cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr ac ateb eu hymholiadau. Yn y swydd hon, byddwch chi’n cynnig cymorth gweinyddol proffesiynol i addysgwyr a myfyrwyr yr ysgol, gan roi cymorth a chyngor penodol ynghylch presenoldeb myfyrwyr, amgylchiadau esgusodol, a phrosesau apeliadau academaidd. Bydd angen profiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol, yn ddelfrydol o fewn swydd yn ymwneud ag addysg neu â gwaith Cofrestrfa.

Mae’r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos) a pharhaol. 

Dyddiad cau: Dydd Sul, 24 Gorffennaf 2022

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Mae Prifysgol Caerdydd am gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb, gan gynnig awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth o staff o sawl cefndir. Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned heb ystyried rhyw, tras, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o garfanau nad oes llawer o’u haelodau ymhlith gweithlu’r Brifysgol, megis y rhai sy’n uniaethu ag LGBT+, pobl o dras groenddu neu leiafrifol a phobl anabl. Wrth helpu ein gweithwyr i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn ni’n ystyried cynigion ar gyfer gweithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Cyflog

💰 £22,847 - £27,116

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £25,913 - £28,049 📍 Llandeilo Ar gau

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £25,913 - £28,049 ynghyd â lwfans tŷ, lwfans car, costau, a chyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn EBC 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hyblyg Ar gau

Menter a Busnes

💰 £34,198 - £36,335 📍 Meifod📍 O gartref Ar gau

Menter Môn

💰 £61,497 - £69,028 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Môn

💰 £41,667 - £53,966 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Môn

💰 £41,667 - £53,966 📍 Llangefni Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £36,382 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34,304 - £40,927 📍 Bangor Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28,860 - £33,482 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28,235 - £30,854 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28,235 - £30,854 📍 O gartref📍 Pwllheli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £22,635 - £24,321 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £18,712 - £20,092 pro rata 📍 Bangor Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27,116 – £33,309 📍 Hybrid Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22,234 pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 Hyblyg Ar gau

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £23,880 📍 Casnewydd📍 Hybrid Ar gau

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £36,838 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau