Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Caerfyrddin, a hynny'n llawn-amser am amser penodol o flwyddyn.

AMDANOM NI

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym 'nawr yn chwilio am Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Caerfyrddin, a hynny'n llawn-amser am amser penodol o flwyddyn.

Y RÔL

Prif ffocws y swydd hon fydd cyfrannu at holl weithgarwch iaith Gymraeg y Ganolfan o ran ei phrosiectau iaith a’i chyfrifoldebau addysgu. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â rhaglen o waith addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ynghyd â chydlynu prosiectau ymchwil a chreu adnoddau addysgol sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac addysg Gymraeg a dwyieithog. 

Bydd y sawl a apwyntir i’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at addysgu’r amrywiol gyrsiau hyn a bydd gofyn iddi/iddo hefyd gynorthwyo yn y broses o lunio adnoddau dysgu perthnasol a ddefnyddir fel rhan o’r broses dysgu ac addysgu. Disgwylir i’r deilydd hefyd gefnogi ei r(h)eolydd llinell drwy fynychu pwyllgorau cenedlaethol perthnasol sy’n ymwneud â rheoli’r rhaglenni iaith. 

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn meddu ar sgiliau addysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac ar sgiliau gweinyddu da.

AMDANOCH CHI

I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, bydd arnoch angen y canlynol:

-   Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfwerth mewn maes perthnasol

-   Profiad o addysgu Cymraeg o fewn y sector addysg 

-   Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro prosiectau lefel uchel

-   Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau diweddar mewn addysg

-   Profiad o awduro deunyddiau addysgol, e.e. cyrsiau dysgu iaith neu adnoddau trawsgwricwlaidd

-   Profiad o adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol

-   Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau sicrhau ansawdd

-   Profiad o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd

-   Y gallu i fod yn flaengar er mwyn adnabod a datrys problemau, lliniaru risg yn ogystal â gwneud penderfyniadau sy’n gwarchod buddiannau’r Brifysgol

-   Meddu ar sgiliau TG ardderchog (Pecyn Microsoft a platfformau digidol)

-   Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg

-   Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i ar lefel hyfedredd

Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:

-    Gradd uwch

-    Profiad blaenorol o gydlynu, gweithredu a monitro gweithgarwch o fewn cyd-destun AU

-    Profiad blaenorol o weithio gydag ysgolion ac asiantaethau allanol

BUDDION

- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

- Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.   Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 22 Gorffennaf 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £36,382 - £42,149

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau