Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd

Coleg y Cymoedd

💰 £23k - £24k 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Mae Coleg y Cymoedd yn edrych am Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

I sefydlu cangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Ngholeg y Cymoedd ac i greu cyfleoedd i ddysgwyr gaffael, datblygu a chadw eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu hamser yn y coleg. Gallwn ystyried patrymau gweithio hyblyg gan gynnwys rhannu swydd, gweithio yn ystod y tymor ac oriau cywasgedig. 

Cyffredinol 

· Hyrwyddo a chyflenwi gweledigaeth, gwerthoedd ac arferion corfforaethol y Coleg.

· Hyrwyddo cynllun strategol y Coleg a'i werthoedd ac i arwain a gyrru newid a menter yn eu blaen.

· Ymfalchïo yng Ngholeg y Cymoedd a chwarae rôl gweithredol yn yr hinsawdd “Un Coleg” sy’n ffocysu ar wneud y cymoedd yn gryfach drwy addysg, sgiliau a hyfforddiant ardderchog.

· Lansio ‘cangen’ Coleg y Cymoedd o’r y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

**Dysgwyr **

· Cydlynu prosiectau a ariennir gan Grant Hyrwyddo’r Gymraeg, yn cynnwys recriwtio a goruchwylio Llysgenhadon Dysgwyr y Gymraeg

· Cydweithio gyda Hyfforddwyr Addysgu a Dysgu i ddatblygu adnoddau ar gyfer dysgwyr ar gyfer delio ag ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, y dimensiwn a’r diwylliant Cymreig perthnasol i feysydd â blaenoriaeth i’w rannu drwy ‘r Hwb Tiwtorial

· Creu cyfleoedd anffurfiol er mwyn i ddysgwyr gaffael, datblygu a chadw ei sgiliau Cymraeg yn y coleg h.y. clybiau, teithiau ayb.

· Hyrwyddo adnoddau, rhwydweithiau ac ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ymhlith dysgwyr

· Gweithio yn nhîm Cymraeg y Coleg er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymru a hawliau’r iaith Gymraeg ymhlith dysgwyr

· Gweithio gyda phartneriaid allanol megis Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Menter Iaith Caerffili a’r Urdd er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer dysgwyr i wirfoddoli ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog

**Staff **

· Gweithio gyda Rheolwr y Gymraeg er mwyn nodi cyfleoedd hyfforddi i staff a datblygu eu sgiliau Cymraeg

· Arwain ar hybu cynllun Gwreiddio y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer staff , gan sicrhau bod gwybodaeth am adnoddau, rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddiant yn cael ei rhannu’n effeithiol

· Mynychu cyfarfodydd a drefnir gan y Coleg Cymraeg, yn cynnwys paneli pwnc a gweithredu ar unrhyw bwyntiau gweithredu a allai godi

**Darpariaeth **

· Gweithio gyda Rheolwr Y Gymraeg a Phenaethiaid Ysgol i gefnogi a chynorthwyo gwaith darlithwyr dwyieithog a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol   Dyletswyddau Allweddol 

· Cynrychioli tîm Cymraeg y Coleg mewn digwyddiadau agored

· Cydlynu i lunio astudiaethau achos sy’n cynnig enghreifftiau o arferion gorau y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a gynigir a choladu unrhyw dystiolaeth arall sy’n amlygu llwyddiant prosiectau a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

**Cymwysterau **

· Gweithio gyda Gwasanaethau Arholiadau a Gwybodaeth Rheoli i fonitro’r ddarpariaeth asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg/ yn ddwyieithog

· Gweithredu fel man cyswllt ar gyfer ymholiadau am arholiadau ac asesiadau sydd ar gael drwy gyfrwng Gymraeg ac i riportio problemau i'r Coleg Cymraeg ac i Gymwysterau Cymru 

Cyflogwyr 

· Gweithio gyda thîm Dysgu Seiliedig ar Waith i nodi anghenion cyflogwyr lleol o ran y Gymraeg a recriwtio yn y meysydd â blaenoriaeth

· Datblygu a chynnal cysylltiadau gyda sefydliadau allanol, yn cynnwys cyflogwyr, allai gynnig lleoliadau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr

Cyflog

💰 £22,635 - £24,321

Lleoliad

📍 Campws Nantgarw

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau