Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau (Cyfnod penodol hyd at 2 flynedd)

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

Mae Estyn yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau (Cyfnod penodol hyd at 2 flynedd)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Fel Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau, byddwch yn cefnogi creu, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau cyfathrebu digidol yn ein rhaglen digwyddiadau a hyfforddi, ac ar draws cyfryngau a berchnogir, a enillir ac y telir amdanynt i helpu cyflawni ein Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. Byddwch yn defnyddio eich medrau cyfathrebu a’ch gwybodaeth i gefnogi ein hymagwedd ddigidol at gyfathrebu i gyrraedd ein cynulleidfa darged a chefnogi ein nodau strategol. 

Meini prawf yn benodol i swydd

Mae’n hanfodol:

·   fod gennych chi brofiad neu gymhwyster perthnasol mewn amgylchedd cyfathrebu – yn enwedig arbenigedd mewn defnyddio technoleg ddigidol mewn ymgyrchoedd, fel gweminarau, ffrydio byw a chreu fideo difyr 

·   bod gennych chi hanes profedig o gynnal ymgyrchoedd cyfathrebu

·   eich bod yn dilyn hynt a helynt tueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn cyfathrebu digidol ac yn cymhwyso a rhannu’r wybodaeth hon

·   eich bod yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol

·   eich bod yn meddu ar fedrau ysgrifenedig cryf a phrofiad profedig o ysgrifennu copi ac yn gallu trosi a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill ei deall (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr) 

·   eich bod yn unigolyn hawdd mynd ato/ati ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar bob lefel i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y bobl gywir ar yr adeg gywir 

·   eich bod yn hyderus yn defnyddio systemau TG, gan gynnwys Microsoft Office

·   eich bod yn drefnus ac yn meddu ar fedrau rheoli amser da, ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytûn

·   eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol, defnyddio’ch blaengaredd, gan hefyd gydweithio â phobl eraill ar draws y sefydliad, gan gynnwys uwch reolwyr

Mae’n fanteisiol eich bod yn meddu ar y canlynol:

·   y gallu i fonitro a dadansoddi effeithiolrwydd ymgyrch gyfathrebu, gan ddefnyddio ystod o ffynonellau sydd ar gael i werthuso gwybodaeth

·   medrau dylunio sylfaenol neu brofiad a gwybodaeth ymarferol am Adobe PremierPro, Photoshop ac InDesign

·   medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)

Ymddygiadau allweddol

·   Gweld y darlun mawr

·   Cyfathrebu a dylanwadu

·   Rheoli gwasanaeth o ansawdd da 

·   Cyflawni ar gyflymdra

·   Gwneud penderfyniadau effeithiol

Dyma’r Cymwyseddau Proffesiynol Cyfathrebu ar gyfer y rôl hon:

·   Defnyddio mewnwelediad i nodi cynulleidfaoedd targed a phartneriaid a llywio amcanion, negeseuon ac atebion cyfathrebu   ·   Datblygu’r strategaeth a’r cynllun cyfathrebu. Dewis sianelau a datblygu negeseuon a chynnwys allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd targed 

·   Nodi meini prawf gwerthuso 

·   Datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau cyfathrebu effeithiol. Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni cyfathrebu

·   Asesu effaith ac effeithiolrwydd cyfathrebu. Adolygu cyflawni amcanion. Nodi’r gwersi a ddysgwyd a rhannu adborth 

Cyflog: £25,860 - £29,430

Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio breaks. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser/oriau llai, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.

Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn treialu cynllun gweithio hybrid ar hyn o bryd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, Dydd Llun 8 Awst 20

Cyflog

💰 £25,860 - £29,430

Lleoliad

📍 Hybrid, Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau