Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwy-ydd Gwybodaeth i Fyfyrwyr (Siaradwr Cymraeg)

Prifysgol Abertawe

💰 £20k - £22k 📍 Abertawe Ar gau

Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Gynorthwy-ydd Gwybodaeth i Fyfyrwyr (Siaradwr Cymraeg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Er mwyn cyflawni ei huchelgais o barhau ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i'r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.

Mae Gwasanaethau Academaidd y Brifysgol yn darparu gwasanaethau proffesiynol o safon uchel i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol. Mae’r Gwasanaethau Academaidd yn galluogi ac yn cyflawni, lle y bo'n briodol, newid ar draws y sefydliad, gan gyflawni gwelliannau mewn meysydd strategol allweddol i wella profiad myfyrwyr yn Abertawe. Rydym yn falch o ennill Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid Swyddfa'r Cabinet a Gwobr Arian Buddsoddwyr mewn Pobl, a byddwn yn parhau i sicrhau gwasanaeth rhagorol drwy ymgysylltu, gwaith partneriaeth ac arloesi.

Mae holl feysydd Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithredu'n unol â set ddiffiniedig o Werthoedd Craidd, a disgwylir i bawb allu dangos ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn o adeg cyflwyno cais am swydd i gyflawni'u rôl o ddydd i ddydd.

Prif Ddiben y Swydd

- Cynnig croeso cwrtais i MyUniHub a bod yn gyswllt cyntaf ar gyfer amrywiaeth eang o fyfyrwyr ac ymwelwyr.

- Ymdrin ag ymholiadau mewn modd proffesiynol, effeithlon, sensitif a chwrtais boed ydynt wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost.

- Lle bo'n bosib, ymateb i ymholiadau fel cyswllt cyntaf neu gyfeirio pobl at y ffynonellau gwybodaeth a chysylltiadau priodol lle na fydd ymateb cychwynnol yn bosib.

- Rhoi cyngor cywir mewn perthynas â pholisïau, rheoliadau, gweithdrefnau a gwasanaethau'r Brifysgol.

- Casglu dogfennaeth gan fyfyrwyr er mwyn cefnogi eu ceisiadau am amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys cyhoeddi estyniadau i fisâu, apeliadau, gwiriadau etc.

- Os bydd angen, cyfeirio ymholiadau i'r arbenigwr neu'r gwasanaeth perthnasol i gael atebion drwy wneud apwyntiadau gyda'r gwasanaethau proffesiynol hynny, os yw'n briodol.

- Cynnig llythyron safonol a pherthnasol i unigolion penodol mewn ymateb i wiriadau i brofi statws fel myfyriwr.

- Ymdrin ag ymholiadau'n gyfrinachol ac mewn ffordd ddiplomatig, yn unol â Rheoliadau Diogelu Data.

- Prosesu taliadau ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau.

- Gweithio fel rhan o dîm gyda'r Swyddogion Gwybodaeth Myfyrwyr eraill ym MyUniHub a chydweithwyr eraill i gynnig gwasanaethau blaen tŷ sy'n groesawgar, yn gadarnhaol ac yn gefnogol.

- Cynnig cefnogaeth a chymorth i Swyddogion Gwybodaeth Myfyrwyr a Rheolwr MyUniHub, yn ôl y galw.

Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â: Carly Taylor, Rheolwr MyUniHub,

E-bost: [email protected]

Mae rhagor o fanylion am y Gwasanaethau Academaidd ar gael yn: http://www.swansea.ac.uk/academic-services/

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Cyflog

💰 £20,092 - £22,254

Lleoliad

📍 Abertawe

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau