Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Tiwtor Dan Hyfforddiant

Prifysgol Abertawe

💰 £26k 📍 Abertawe Ar gau

Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Dan Hyfforddiant

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Academi Hywel Teifi yn sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y Brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards.

Mae tair elfen i waith Academi Hywel Teifi - mae’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau a gaiff eu dysgu yn y Brifysgol ac mae’n gweithio i sicrhau lle amlycach i’r iaith ym mhob agwedd o fywyd y brifysgol a rhanbarth de-orllewin Cymru.

Y mae Academi Hywel Teifi yn gartref i:

Cangen Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe

Tŷ'r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, yn dysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion (gyda chefnogaeth tiwtor personol) ac yn arsylwi a chynorthwyo Tiwtoriaid ac Uwch Diwtoriaid-drefnyddion profiadol.

Bydd disgwyl i’r sawl a gaiff ei b/phenodi fod yn rhan o’r gwaith dysgu ar ystod o gyrsiau ffurfiol ac anffurfiol o fewn rhaglen Cymraeg i Oedolion DCABA, a hynny yn un, neu fwy, o’r ardaloedd lleol o fewn dalgylch Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae DCABA yn cyflwyno llawer o’r addysgu trwy ddosbarthiadau rhithiol a dulliau digidol, a bydd disgwyl i’r Tiwtor dan Hyfforddiant feistroli’r agwedd honno o addysgu hefyd.

Yn dilyn cyfnod priodol o hyfforddiant, bydd disgwyl i Diwtor dan Hyfforddiant ddysgu tua 10-12 awr yr wythnos yn ogystal â chyfrannu’n achlysurol i raglen o ddigwyddiadau cefnogi dysgwyr. Bydd cyfle i’r sawl a benodir fanteisio hefyd ar rai o ddigwyddiadau hyfforddiant neu gymhwysterau Dysgu Cymraeg i Oedolion pellach dan arweiniad Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu hanfon at Iestyn Llwyd, Rheolwr Busnes a Datblygu DCABA: [email protected]

Cyflog

💰 £26,341

Lleoliad

📍 Abertawe

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau