Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyletswyddau penodol

1.  Gweithredu prosesau cyllid yn unol â pholisïau a gweithdrefnau mewnol y sefydliad ac yn unol ag egwyddorion ac arferion da y maes cyfrifyddu.

2.  Codi archebion ar gais ac yn unol ag awdurdodaeth fframwaith rheolaeth fewnol y sefydliad a’u dosbarthu at gyflenwyr.

3.  Prosesu a thalu anfonebau cyflenwyr a threuliau staff yn amserol a gywir gan sicrhau bod y trafodion wedi eu cofnodi yn briodol, yn cydymffurfio â pholisïau’r Comisiynydd, a bod yr awdurdodaeth briodol wedi ei dderbyn.

4.  Cadw cofnodion a thystiolaeth gyflawn a chywir o’r trafodion cyfrifyddu ar systemau’r cyfrifyddu a systemau eraill y sefydliad.

5.  Delio gydag ymholiadau gan gyflenwyr a datrys unrhyw anghydfod.

6.  Cwblhau prosesau rheolaeth ariannol sylfaenol diwedd y mis yn gywir a chyflawn, ac yn unol â’r amserlen.

7.  Paratoi adroddiadau safonol i’r Dalwyr Cyllideb yn fisol, eu dosbarthu ac ymchwilio i ac ymateb i unrhyw ymholiadau gan y Dalwyr Cyllideb.

8.  Paratoi’r Adroddiad Cyllid misol sy’n cael ei gyflwyno i’r Tîm Rheoli yn adrodd ar berfformiad ariannol y sefydliad.

9.  Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda chynllunio ariannol, megis paratoi'r Amcangyfrif ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chyllideb Flynyddol y sefydliad.

10. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda pharatoi’r Cyfrifon Blynyddol a chefnogi gyda’r archwiliad.

11. Mewn cydweithrediad gyda’r Tîm Adnoddau Dynol prosesu cyflogau staff, gan:

§ Sicrhau bod y prosesu yn gywir â chyflawn yn unol â chyfarwyddiadau a rheoliadau a chyfreithiau perthnasol;

§ Gwneud ymholiadau perthnasol a datrys ymholiadau yn ôl yr angen;

§ Derbyn awdurdodaeth briodol i’r trafodion;

§ Codi taliadau i staff ac i’r awdurdodau perthnasol yn unol â’r amserlen;

§ Prosesu trafodion cyflogau i’r system gyfrifyddu yn gywir, yn gyflawn ac yn amserol; a

§ Sicrhau bod adroddiadau a datganiadau yn cael eu hanfon at awdurdodau perthnasol yn unol ag amserlenni.

12. Cydymffurfio gyda, a chael dealltwriaeth fanwl o bolisïau a gweithdrefnau yn y meysydd dan gyfrifoldeb y tîm. Gweithredu yn unol â’r polisïau a chynghori staff ar y polisïau:

§ Polisi Rheolaeth Ariannol

§ Polisi a Gweithdrefnau Prynu Nwyddau a Gwasanaethau

§ Polisi Teithio a Chynhaliaeth.

13. Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol

14. Adnabod a chynorthwyo gyda’r gwaith gweinyddol yn y maes cyllid

15. Cynorthwyo gydag unrhyw waith gweinyddol ac ymarferol er mwyn darparu adnoddau a gwasanaethau swyddfa i staff y sefydliad yn unrhyw un o’r lleoliadau.

16. Cynorthwyo’r Swyddog TG gydag unrhyw waith gweinyddol ac ymarferol, yn ôl y gofyn.

Dyletswyddau gweinyddol canolog achlysurol (fel rhan o dîm Swyddogion Cefnogi / Gweinyddol). Gweithredir ar sail rota i gyfro gwyliau a salwch.

17. Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.

18. Monitro negeseuon e-bost post@ yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.

19. Gweinyddu ceisiadau am gyfieithu dogfennaeth, rhedeg pob dogfen drwy feddalwedd cof cyfieithu, codi archebion a chysylltu â chyfieithwyr yn ôl yr angen yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.

20. Cofnodi manylion ceisiadau Iaith Gwaith, dosbarthu’r nwyddau a sicrhau cyflenwad digonol o nwyddau Iaith Gwaith i’w cadw gerllaw’r dderbynfa yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.

21. Ymgymryd â thasgau redactio ar gyfer y tîm Llywodraethiant yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant, a hefyd i fod yn barod i ddarparu cymorth redactio i dimoedd eraill yn ôl yr angen.

22. Darparu ysgrifenyddiaeth i gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Panel Cynghori yn absenoldeb y Cynorthwyydd Personol.

Dyletswyddau cyffredinol:

1.  Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.

2.  Ymgymryd â gwaith gweinyddol i gynorthwyo’r timoedd eraill sy’n cynnal gwasanaethau cefnogi’r sefydliad.

3.  Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol, rhesymol eraill yn ôl y galw. 

Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.

Cyflog

💰 £25,860 - £29,430

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Bethesda Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24k - £28k 📍 Hyblyg📍 Castell Brychan Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 O gartref📍 Teithio ledled Cymru Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,344 - £30,151 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau