Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Marchnata

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Marchnata

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Y prif gampws fydd Abertawe neu Gaerfyrddin, ond dylid bod yn gallu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen, a bod yn barod i wneud hynny

£36,382 - £42,149 y flwyddyn

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym 'nawr yn chwilio am Reolwr Marchnata i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Gaerfyrddin, a hynny'n llawn-amser ac yn barhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -

Byddwch yn gyfrifol am reoli tîm o Swyddogion Marchnata, a byddwch yn cael eich rheoli gan y Pennaeth Marchnata. Byddwch yn cynllunio, rheoli a gweithredu prosesau a fydd yn galluogi'r tîm Marchnata i gyflawni ei gynlluniau marchnata blynyddol. Byddwch yn datblygu strategaeth gynnwys 'orau yn y dosbarth' a phrosesau cwbl archwiliadwy er mwyn sicrhau cydymffurfedd parhaus â gofynion rheoliadol. 

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, rheoli, mesur ac adrodd ar weithgarwch ac ymgyrchoedd marchnata, a disgwylir y bydd deiliad y swydd yn goruchwylio'r gwaith o lunio cynnwys, gan fonitro a gwerthuso gweithgarwch marchnata yn barhaus. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i feithrin perthnasoedd partneriaid busnes cynhyrchiol. Bydd disgwyl i chi hefyd ddirprwyo ar ran y Pennaeth Marchnata yn ôl yr angen.   Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.   -** AMDANOCH CHI** -

I gael eich ystyried ar gyfer swydd Rheolwr Marchnata, bydd arnoch angen y canlynol:

-   Cymhwyster lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol

-   Cymhwyster proffesiynol mewn marchnata neu faes perthnasol arall

-   Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd marchnata

-   Profiad amlwg o reoli prosiectau

-   Profiad amlwg o lunio a lledaenu dirnadaeth farchnata, a hynny ym maes Addysg Uwch yn ddelfrydol 

-   Profiad o gyflwyno i gynulleidfaoedd lefel uchel 

-   Sgiliau rhwydweithio, negodi a dylanwadu mewn perthynas â rhanddeiliaid uwch 

-   Profiad o'r gallu i flaenoriaethu'n effeithiol a rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd 

-   Y gallu i roi sylw i fanylion 

-   Sgiliau TG rhagorol 

-   Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch

-   Profiad o reoli cyllideb

-   Yn gallu gweithio'n rhan o dîm, mewn partneriaeth ag eraill, a heb oruchwyliaeth 

-   Yn cydnabod yr angen am gyfrinachedd ac yn amlygu cyfrinachedd priodol 

-   Yn gallu gweithio'n hyblyg ac yn barod i wneud hynny, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau eraill yn ôl y gofyn Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol: 

-   Profiad blaenorol o reoli llinell

-   Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig). Gwybodaeth am arferion cyfathrebu effeithiol a phrofiad o lunio deunyddiau marchnata dwyieithog atyniadol

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Rheolwr Marchnata, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Cyflog

💰 £36,382 - £42,149

Lleoliad

📍 Abertawe, Caerfyrddin, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau